BA (Anrh) Cynhyrchu ar gyfer y Cyfryngau Darlledu (Atodol)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn amser
  • Hyd:

    Llawn amser: 1 flwyddyn; Rhan-amser: 2 flynedd NEU drwy fodiwlau

    Dydd Iau a Dydd Gwener, 9am-5pm

  • Cod UCAS:
    5G2M
Gwnewch gais
×

BA (Anrh) Cynhyrchu ar gyfer y Cyfryngau Darlledu (Atodol)

Graddau (Addysg Uwch)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n awyddus i gael gyrfa ddeinamig a chreadigol? Hoffech chi helpu i gynhyrchu'r sioe deledu fawr nesaf? Ar y cwrs hwn, cewch feithrin y wybodaeth a'r sgiliau a fydd yn eich galluogi i wneud amrywiaeth o swyddi yn y cyfryngau.

Mae'r cwrs Gradd Anrhydedd hwn yn un amrywiol sy'n ymdrin ag amrediad o bynciau pwysig. Yn ogystal â chael darlun cyffredinol o gynhyrchu ar gyfer y cyfryngau a'r teledu, cewch arbenigo yn y meysydd yr ydych yn ymddiddori ynddynt.

Cynlluniwyd y cwrs i'ch helpu i gael gwaith yn y cyfryngau. Bydd yn gwneud hyn drwy ddatblygu'ch ochr greadigol a'ch sgiliau ymarferol. Mae'n addas ar gyfer rhai sy'n amrywio o ran profiad, felly peidiwch â phoeni os nad oes gennych gefndir yn y cyfryngau – byddwch yn dysgu'r sgiliau angenrheidiol.

Drwy gydol y cwrs, cewch ddefnyddio cyfleusterau gwych y Coleg sy'n cynnwys stiwdio bwrpasol i gynhyrchu ar gyfer y teledu, stiwdio recordio sain, labordy amlgyfrwng, a chamerâu fideo soffistigedig. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd o'r safon a geir yn y diwydiant, fel AVID, Autodesk Maya ac Adobe Photoshop. Yn bwysicach na dim, cewch eich dysgu gan diwtoriaid sydd â'r wybodaeth i'ch helpu i gyrraedd eich nod.

Byddwch yn cwblhau nifer o brosiectau yn ystod y cwrs, gan gynnwys fideos hyrwyddo, cynhyrchu gan ddefnyddio nifer o gamerâu ac animeiddio ôl-gynhyrchu. Byddwch hefyd yn cwblhau eich prosiect terfynol, gan ddefnyddio'ch sgiliau a'ch brwdfrydedd i'ch helpu i greu darn o waith nodedig. Cynhelir arddangosfa o'r holl dapiau arddangos a'r prif brosiectau, a gwahoddir iddi rai sy'n gweithio yn y maes, yn ogystal â theulu a ffrindiau.

Erbyn i chi raddio, byddwch wedi meithrin y sgiliau a'r technegau y mae'r cyfryngau'n galw amdanynt. Ar hyn o bryd, mae'r diwydiant ar gynnydd yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, felly bydd cyfleoedd ar gael i chi yn yr ardal hon a thu hwnt.

Mae modiwlau yn cynnwys:

  • Prosiect Grŵp
  • Moeseg y Cyfryngau
  • Mentrau ac Arferion Proffesiynol

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd:

  • Gradd Sylfaen (FdA) Cynhyrchu ar gyfer y Cyfryngau Darlledu neu gymhwyster Lefel 5 cyfatebol

Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.

Gofynion Iaith:

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf.
  • Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 4: IELTS 5.5 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.0)
  • Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 5: IELTS 6.0 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.5).

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd rhyngweithiol
  • Tiwtorialau
  • Modiwlau yn y gweithle
  • Siaradwyr gwadd
  • Dysgu myfyriwr ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithiol (MOODLE)

Byddwch yn dysgu'n anffurfiol drwy gymryd rhan, gan gael digon o gyfle i archwilio ar eich liwt eich hun a bod yn greadigol. Mae'n bosib hefyd y cewch brofiad gwaith yn y maes yn ystod y cwrs.

Amserlen

  • Llawn amser: 1 flwyddyn, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9am - 5 pm)
  • Rhan-amser: 2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9am - 5 pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Costau Ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • deunyddiau i astudio'n annibynnol
  • ymweliadau allanol, e.e. ag amgueddfeydd neu arddangosfeydd
  • meddalwedd i allu gweithio gartref
  • mynediad at ddeunyddiau i'w gwerthuso a'u dadansoddi

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Chris Bainbridge (Rhaglen Arweinydd): bainbr1c@gllm.ac.uk

David Clarke (Gweinyddiaeth): clarke1d@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Portffolios unigol
  • Adroddiadau
  • Astudiaethau achos
  • Cyflwyniadau
  • Adroddiadau grwpiau
  • Cyflwyniadau grŵp
  • Traethawd Estynedig

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Gall y cwrs hwn arwain at swydd mewn amrywiaeth o sefydliadau yn ogystal â chyfleoedd i astudio ymhellach. Dewis rhai graddedigion yw mynd i waith a dechrau ar yrfa yn y cyfryngau.

Mae cynhyrchwyr cyfryngau'n gweithio ym maes teledu, ffotograffiaeth, ffilmiau, radio, y we, graffeg, dylunio gemau, animeiddio, amlgyfryngau, ôl-gynhyrchu, newyddiaduriaeth a meysydd eraill.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau a ganlyn:

Traethawd estynedig (40 credyd): Dyma fodiwl craidd y radd anrhydedd ac mae'n werth 40 credyd. Cewch ddewis pwnc eich traethawd estynedig a pha drywydd i'w ddilyn wrth ymchwilio ac archwilio.

Prosiect Grŵp (40 credyd): Dyma fodiwl ymarferol sy'n caniatáu i chi weithio'n rhan o dîm cynhyrchu, gan roi gwerthoedd proffesiynol ar waith.⁠ Er enghraifft, gallwch gynhyrchu ffilm fer, trefnu arddangosfa o ffotograffau neu ddigwyddiad byw, neu greu gêm. Beth bynnag yw'ch arbenigedd yn y cyfryngau, bydd y modiwl hwn yn eich helpu i gwblhau prosiect o'ch pen a'ch pastwn eich hun.

Moeseg y Cyfryngau (20 credyd): Yn y modiwl hwn, edrychir ar egwyddorion a chodau moesegol fel hawlfraint ac eiddo cyffredin creadigol ynghyd â'r ffordd y gall gwleidyddiaeth ddylanwadau ar y newyddion a geir ar y cyfyngau. Mae'r modiwl hefyd yn edrych ar y defnydd a wnaed o dechnoleg yn y gorffennol a'r defnydd a wneir ohoni ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, ar elfennau traws-gyfryngol a'r cwestiynau moesegol sy'n codi yn sgil technoleg newydd.

Mentrau ac Arferion Proffesiynol (20 credyd): Modiwl ymarferol, lle bydd unigolyn yn gweithio'n unol â briff sy'n gysylltiedig â'r maes, yw hwn. Byddwch yn gweithio ac yn cysylltu â'r diwydiant er mwyn cwblhau prosiect byw.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 6

Sefydliad dyfarnu: Bangor University

Dwyieithog:

n/a

Sefydliad dyfarnu