BA (Anrh) Celf Gain
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Parc Menai
- Dull astudio:Rhan amser, Llawn amser
- Hyd:
Llawn amser: 3 blynedd; Rhan-amser: 6 blynedd
Dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau, 9:10am - 3:10pm
- Cod UCAS:W190
BA (Anrh) Celf GainGraddau (Addysg Uwch)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs yn datblygu crefft y myfyrwyr ym maes Celfyddyd Gain wrth iddynt feithrin arbenigeddau sy'n cynnwys paentio, cerflunio a gwneud printiau, fideos a gosodiadau celf.
Modiwlau Lefel 4
- Defnyddiau a Dulliau 1
- Cysyniadau ac Ymarfer ym maes Celfyddyd Gain
- Cyflwyniad i Ymchwil Weledol mewn Celfyddyd Gain
- Celf a Dylunio mewn Cyd-destun 1
- Cyd-destun Safle ac Ymarfer 1
- Dadadeiladu ac Ailadeiladu
Modiwlau Lefel 5
- Ymchwil ac Ymarfer ym maes Celfyddyd Gain
- Celf a Dylunio mewn Cyd-destun 2
- Defnyddiau a Dulliau mewn Celfyddyd Gain 2
- Datblygu Ymarfer yn y Stiwdio
- Cyd-destun Safle ac Ymarfer 2
Modiwlau Lefel 6
- Traethawd Hir/Amgueddfa Ddychmygol
- Astudio’n Annibynnol 1 - Ymchwilio a Chreu
- Lleoli Ymarfer Proffesiynol
- Astudio’n Annibynnol 2 - Arddangosyn
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.
Gofynion mynediad
Gofynion Ieithyddol:
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
- Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)
Gofynion Academaidd Arferol:
- O leiaf 64 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster lefel 3, gan amlaf yn cynnwys gradd llwyddo mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; neu NVQ Lefel 3; Diploma Sylfaen, Astudiaethau Sylfaen; ; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol.
Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad a phortffolio boddhaol.
Gofynion Academaidd i gael mynediad i raglen ar Lefel 5
Bydd ymgeiswyr ar gyfer y cwrs lefel 5 yn cael eu hystyried ar sail unigol yn unol â pholisi GLlM ynghylch trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi). Neu gefnogi eu cais drwy gyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL), yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad a phortffolio boddhaol.
Gofynion Academaidd i gael mynediad i raglen ar Lefel 6
Bydd dilyniant i lefel 6 yn digwydd yn uniongyrchol yn achos y myfyrwyr hynny sy'n mynd ymlaen o Radd Sylfaen i Radd BA (Anrh.) mewn Celf a Dylunio yn GLlM yn dilyn cwblhau'r radd sylfaen yn llwyddiannus.
Bydd ymgeiswyr allanol ar gyfer y cwrs lefel 6 yn cael eu hystyried ar sail unigol yn unol â pholisi GLlM ynghylch trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi). Neu gefnogi eu cais drwy gyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL), yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad a phortffolio boddhaol.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Prosiectau mewn stiwdios a gweithdai, trafod gwaith yn feirniadol mewn grwpiau, darlithoedd, tiwtorialau, seminarau ac ymweliadau â safleoedd.
Amserlen
- Y rhaglen llawn amser yn 3 diwrnod o amser cyswllt dros 3 blynedd ac yn 2 ddiwrnod o ddysgu hunangyfeiriedig
- Mewnlenwi'n rhan-amser ar y rhaglen llawn amser dros chwe blynedd
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).
Costau ychwanegol
Gall Costau Ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:
- Disgwylir i bob myfyriwr gymryd rhan mewn ymweliadau a theithiau astudio a dylid neilltuo tua £250 ar gyfer hyn.
- Ffi flynyddol o £30 am ddefnyddio'r stiwdio - cyfraniad tuag at gostau nwyddau a deunyddiau hanfodol a phwrpasol a ddefnyddir yn ystod y sesiynau yn y stiwdio.
- Defnyddiau celf sydd eu hangen ar gyfer astudio’n annibynnol a modiwlau ymarferol - rhennir rhestrau o'r defnyddiau/offer ar ddechrau Bl. 1
- Costau cludiant ychwanegol ar gyfer ymweliadau ag Orielau ac Arddangosfeydd
- Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig ag arddangos gwaith.
Ysgoloriaeth Cymhelliant Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Ewch i wefan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael gwybod mwy am yr Ysgoloriaeth Cymhelliant.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, neu am gymorth i lenwi’r cais, mae croeso i chi gysylltu â Swyddogion Cangen Grŵp Llandrillo Menai ar – colegcymraeg@gllm.ac.uk
Dyddiad cychwyn
Mis Medi
Cyswllt
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
Helen Jones (Rhaglen Arweinydd): jones11h@gllm.ac.uk
Sera Williams (Gweinyddiaeth): willia22s@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Mae'r asesu ffurfiannol yn cael ei wneud ar ffurf:
- Tiwtorialau Unigol
- Tiwtorialau Grŵp
- Hunanasesu
- Asesiad gan gyd-fyfyrwyr
- Trafodaeth feirniadol mewn grŵp
Mae'r asesu crynodol yn cael ei wneud ar ffurf:
- Portffolio
- Adolygu Blogiau
- Arholiad llafar
- Traethawd Hir / Gwefan Catalog
- Cyflwyniad
- Traethawd
- Llyfr braslunio
- Darn terfynol
- Arddangosfa
- Datganiad adfyrfyriol
- Cynnig ar gyfer traethawd hir
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
- Astudio pellach ar lefel gradd MA a PHD
- Curadur neu Swyddog Arddangosfeydd mewn Orielau ac Amgueddfeydd
- Addysgu (Cynradd, Uwchradd, ac Addysg Bellach) - Nid yw'r rhaglen yn arwain at Statws Athro Cymwysedig (STA) ond gall fod yn gyfle i raddedigion fynd ymlaen i gael STA drwy'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion neu gymhwyster addysgu arall.
- Therapi Celf
- Gweinyddu ym maes y Celfyddydau
- Cymorth Technegol mewn Orielau ac Amgueddfeydd
- Gwneud ffilmiau ar eich liwt eich hun
- Cynlluniau i Artistiaid Preswyl mewn amrywiol gyd-destunau
- Cynnal gweithdai creadigol
Gwybodaeth campws Parc Menai
Disgrifiad cwrs
Mae'r BA mewn Celf Gain yng Ngholeg Menai yn anelu at fod yn brofiad heriol a chyffrous wedi ei addysgu gan artistiaid wrth eu gwaith gydag sydd ag enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r cwrs hwn yn cynnig i ddysgwyr y cyfle i archwilio themâu, syniadau a diddordebau creadigol personol drwy amrywiaeth eang o ddisgyblaethau gan gynnwys: lluniau, paentiadau cerflunio, gwneud printiau a gweithgareddau aml-gyfryngol.
Mae modylau Dyfodol Creadigol yn datblygu amrywiol brosiectau gyda phartneriaid a sefydliadau allanol; mae'r rhain yn arfogi dysgwyr gyda dealltwriaeth o'r cyfleoedd ehangach ar gyfer galwedigaeth o fewn y sector Celfyddydau.
Gwybodaeth am yr unedau
Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Ymchwil Gweledol mewn Celfyddyd Gain (20 credyd, gorfodol)
Drwy raglenni gwaith unigol bydd y modiwl hwn yn trafod prosesau casglu gwybodaeth a gwella lluniadau. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyniad i iaith weledol a sut mae ymateb yn weledol i amrywiaeth o ffynonellau. Ymdrinnir yn eang ag ymchwil gweledol a bydd hyn yn cynnwys gweithio'n wrthrychol ac yn fynegiannol gan fod yn barod i arbrofi a chymryd risgiau gyda gwahanol ddefnyddiau 2D a 3D. Portffolio 100%.
Defnyddiau a Dulliau 1 (20 credyd, craidd)
Nod y modiwl hwn yw annog myfyrwyr i ystyried y gwahanol ddefnyddiau a dulliau mynegiant a ddefnyddir mewn celf weledol gyfoes. Bydd yn eu galluogi i feithrin sgiliau meddwl a threfnu, yn ogystal â sgiliau sydd eu hangen i weithio'n annibynnol ac yn gydweithredol. Byddant hefyd yn meithrin gallu technegol mewn amrywiaeth o sgiliau ymarferol fydd yn golygu bod ganddynt wybodaeth sylfaenol dda am arferion gwaith ac iechyd a diogelwch. Bydd myfyrwyr yn dysgu adnabod y rhyngweithio rhwng deunyddiau, prosesau a syniadau ac ystyried sut y gellir mynegi eu syniadau gweledol eu hunain trwy ddulliau a deunyddiau priodol. Portffolio 100%.
Cysyniadau ac Ymarfer mewn Celfyddyd Gain (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw annog a datblygu gallu myfyrwyr i ymchwilio a myfyrio, meddwl yn feirniadol a chymryd risgiau, gan sefydlu fframwaith ar gyfer trafod deunyddiau ymchwil. Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i amrywiaeth o gyfyngau, dulliau ymarfer a strategaethau a fydd yn eu galluogi i ddatblygu canlyniadau gwahanol o ddeunyddiau ymchwil, yn ogystal â meithrin y sgiliau i gofnodi drwy ymchwil weledol a chysyniadol. Portffolio 100%.
Dadadeiladu ac Ailadeiladu (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl yw rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r sail resymegol sydd yn gefndir i wneud a dadwneud a phwysigrwydd y berthynas rhwng dadadeiladu ac adeiladu, yn ddeallusol ac yn ymarferol. Bydd hyn yn annog a datblygu gallu myfyrwyr i ymchwilio, myfyrio a meddwl yn feirniadol gan eu cynorthwyo i benderfynu sut y gall y defnydd o ddefnyddiau a phrosesau, strategaethau a dulliau ymarfer gyfrannu at wireddu bwriadau creadigol. Portffolio 100%.
Cyd-destun Safle ac Ymarfer 1 (20 credyd, craidd)
Nod y modiwl hwn yw meithrin dealltwriaeth myfyrwyr o waith celf cyfoes drwy ymchwilio i ymarfer proffesiynol a'r broses waith mewn perthynas â chyd-destunau ffisegol a/neu gymdeithasol. Bydd yn annog myfyrwyr i ddatblygu eu hiaith weledol eu hunain y tu allan i'r stiwdio mewn perthynas â lleoliad ac ymateb cynulleidfa. Bydd hefyd yn gwneud iddynt feddwl ynghylch arwyddocâd cymdeithasol a gwleidyddol eu gwaith o ran ei gyd-destun a'i leoliad. Portffolio 50%, Blog 50%.
Rhoi Ymarfer Cyfredol mewn cyd-destun 1 (20 credyd, craidd)
Mae'r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i lunio fframwaith beirniadol ar gyfer eu gwaith stiwdio. Y nod yw cyflwyno'r trafodaethau hanesyddol a'r materion cyfoes sy'n dylanwadu ar gelfyddyd gain gyfoes, ac annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac yn gyd-destunol. Bydd yn ennyn diddordeb myfyrwyr mewn ymchwil fel elfen hanfodol o'u gwaith ac yn eu cyflwyno i'r iaith feirniadol sy'n angenrheidiol i drafod cyd-destun eu gwaith ar lafar a thrwy ysgrifennu'n adfyfyriol. Cyflwyniad 25%, Blog 25%, Traethawd 50%.
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Ymchwil ac Ymarfer (30 credyd, gorfodol)
Bydd y modiwl hwn yn annog myfyrwyr i ddatblygu dull ymchwiliol a dadansoddol beirniadol i ddatblygiad a synthesis theori ac ymarfer yn eu gwaith eu hunain a gwaith eraill. Mae'r modiwl hwn yn anelu at fabwysiadu dull myfyriol a gwerthusol at ddatblygiadau yn codi o ymarfer creadigol unigolion, gan eu galluogi i ddatblygu iaith bersonol. Mae'r modiwl hwn yn cynyddu cyfrifoldeb myfyrwyr am gyfeiriad astudiaeth a lleoliad ymarfer ac yn eu paratoi ar gyfer astudio mwy annibynnol ar Lefel 6. Portffolio 80%, Cyflwyniad 20%.
Datblygu Gwaith Stiwdio (30 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn hyrwyddo defnydd effeithiol myfyrwyr o'r stiwdio i ddatblygu eu hymarfer Celfyddyd Gain unigol. Mae'r modiwl yn adeiladu ar y profiad a enillwyd ar lefel 4 ac yn gyfrwng i ddewis gwaith i arbenigo arno er mwyn gwireddu uchelgais greadigol bersonol. Drwy broses o ddatblygiad parhaus sy'n seiliedig ar ymchwil ac ymarfer, cefnogir myfyrwyr i ymestyn eu syniadau eu hunain drwy arbrofi pellach. Drwy hyn byddant yn datblygu ac yn ymestyn eu hiaith ffurfiol eu hunain yng nghyd-destun Celfyddyd Gain gyfoes. Portffolio 100%.
Defnyddiau a Dulliau 2 (20 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn, adeiledir ar weithdai lefel 4 blaenorol ar Waith Lens, Cerflunio, Gwneud Printiau, a Chyfryngau Digidol. Bydd dysgwyr yn ehangu eu gwybodaeth o amrediad o brosesau, defnyddiau a thechnegau lefel 4 ac yn rhoi sylw i gyfarwyddiadau iechyd a diogelwch perthnasol. Cefnogir y modiwl hwn gan y gwaith thematig unigol a wna myfyrwyr yn y stiwdio. Portffolio 100%. Portffolio 50%, Blog 50%.
Cyd-destun Safle ac Ymarfer 2 (20 credyd, gorfodol)
Bwriad y modiwl hwn yw helpu myfyrwyr i feithrin y sgiliau fydd arnynt eu hangen i weithio'n broffesiynol. Bydd yn datblygu ac yn gwella strategaethau perthnasol ar gyfer cynllunio, curadu, arddangos a dogfennu gwaith mewn gwahanol ffyrdd, yn cynnwys cyhoeddi ac arddangos drwy gyfryngau analog, digidol ac ar-lein. Drwy brofi a phenderfynu ar strategaethau perthnasol ar gyfer gwneud ac arddangos gwaith ymarferol i gyd-fyfyrwyr, staff addysgu a chynulleidfaoedd allanol, byddant yn datblygu ymwybyddiaeth bellach o bwysigrwydd golygu, gwerthuso ac addasu gwaith maent wedi ei wneud mewn cyd-destunau penodol. Portffolio 50%, Blog 50%.
Rhoi Ymarfer Cyfredol mewn Cyd-destun 2 (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar y gwaith o edrych ar y cyd-destun hanesyddol a wnaed ar lefel 4. Caiff dulliau cyfoes o Ymarfer Celfyddyd Gain eu harchwilio, eu trafod a'u harddangos. Mae'n cefnogi gwaith pellach gan fyfyrwyr drwy ehangu eu dealltwriaeth o ddatblygiadau thematig mewn Celfyddyd Gain gyfoes drwy roi cyfle iddynt ymweld ag arddangosfeydd, cymryd rhan mewn trafodaethau a gwrando ar gyflwyniadau seminar. Bydd myfyrwyr yn edrych ar dueddiadau thematig mewn ôl-foderniaeth er mwyn deall datblygiad a sefyllfa gyfoes eu gwaith stiwdio. Ceir pwyslais ar feithrin sgiliau dadansoddol a beirniadol allweddol, yn ogystal â sgiliau ymchwil. Gwneir hyn drwy ganolbwyntio ar ffynonellau gweledol, testunau hanesyddol ac ysgrifennu beirniadol cyfoes. Bydd myfyrwyr yn dechrau dod i adnabod y deunyddiau sydd eu hangen i drafod, cysyniadu ac adfyfyrio ar eu gwaith eu hunain. Cyflwyniad 25%, Blog 25%, Traethawd 50%.
Blwyddyn 3 (Lefel 6)
Astudio'n Annibynnol - Ymchwilio a Chreu (40 credyd, gorfodol)
Prif fwriad y modiwl anrhydedd cyntaf hwn yw rhoi sylfaen ddeallusol ac ymarferol i fyfyrwyr allu meithrin a datblygu eu gwaith drwy fodloni gofynion ymarferol yr arddangosfa Radd a gynhelir ar ddiwedd y Modiwl Arddangosfa. Mae'r gallu i gyfuno'r gwahanol elfennau sy'n rhan o broses celfyddyd gain ac ymateb yn greadigol yn hanfodol i baratoi myfyrwyr ar gyfer bywyd yn gweithio ym myd celf y tu allan i'r sector addysg. Bydd myfyrwyr yn cynllunio, negodi ac yn cwblhau corff o waith. Portffolio 100%.
Lleoli Ymarfer proffesiynol 3 (20 credyd, gorfodol)
Yn ystod cam hwn y cwrs, bydd myfyrwyr yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am waith cynllunio a threfnu. Gan adeiladu ar yr hyn maent eisoes wedi'i ddysgu am gyflwyno'u gwaith yn broffesiynol i gynulleidfa, yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau arddangos a'u gallu i ddogfennu a chyfathrebu mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'u nodau proffesiynol unigol. Portffolio 75%, Cyflwyniad 25%.
Astudiaethau Beirniadol / Curadurol mewn Cyd-destun 3 (20 credyd, gorfodol)
Adeiladu ar y cysylltiadau rhwng ymchwil ac ymarfer a sefydlwyd ar lefel 5. Nod y modiwl hwn yw datblygu ac atgyfnerthu gallu myfyrwyr i ymgymryd â phrosiect ymchwil mawr sy'n gysylltiedig â'u gwaith stiwdio eu hunain. Bydd yn galluogi myfyrwyr i gynhyrchu gwaith ymchwil estynedig ar bwnc o'u dewis y cytunwyd arno (addas i ymchwil beirniadol a chyd-destunol) sy'n berthnasol i waith celfyddyd gain cyfoes. Bydd y modiwl hefyd yn eu galluogi i greu corff o waith sy'n cyfuno eu gwerthusiad beirniadol a'u dealltwriaeth ddamcaniaethol a pherthynas y rhain â gwaith stiwdio. Traethawd Hir 90%, Cynnig traethawd hir 10%.
Astudiaeth Annibynnol 2 - Arddangos (40 credyd, gorfodol)
Prif bwyslais y modiwl terfynol hwn yw'r sioe radd. Mae hefyd yn dynodi newid i fywyd y tu hwnt i'r brifysgol, y mae'r rhaglen wedi bod yn paratoi ar ei gyfer ar ei hyd. Bydd yr arddangosfa gradd yn ystyried dulliau o gyflwyno gwaith, hunanwerthusiad beirniadol, profiad proffesiynol o weithio gydag oriel allanol a datblygu sgiliau cyfathrebu a threfniadaethol unigol a grŵp. Mae'r blog yn parhau yn bwysig drwy gydol y gwaith hwn a byddwch yn derbyn adborth llafar ac ysgrifenedig penodol ar eich ymarfer stiwdio ac yn datblygu ymwybyddiaeth feirniadol yn ystod y modiwl. Dylai hyn adlewyrchu ymrwymiad beirniadol cryf gyda dilyniant wythnos wrth wythnos y cwrs. Portffolio 100%.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)
Lefel:
6
Sefydliad dyfarnu: Bangor University
Dwyieithog:
Mae 33% o’r cwrs ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.