BA (Anrh) Arweinyddiaeth ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser, Llawn amser
- Hyd:
Llawn amser: 1 flwyddyn - 2 ddiwrnod yr wythnos, o fis Medi 2026, Dydd Mawrth a dydd Mercher, 9:30am -5pm
Rhan-amser: 2 flynedd - 1 diwrnod yr wythnos, o fis Medi 2026, Dydd Mawrth a dydd Mercher, 9:30am -5pm
DYDDIAD DECHRAU: Medi 2026
BA (Anrh) Arweinyddiaeth ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal CymdeithasolGraddau (Addysg Uwch)
Rhan Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.
Disgrifiad o'r Cwrs
NEWYDD AR GYFER MEDI 2026.
Mae'r cwrs yn cynnig cyfle arbennig i feithrin a chyfuno dealltwriaeth a gwybodaeth hyd at lefel israddedig ynghyd ag atgyfnerthu sgiliau cyflogadwyedd.
Mae'r radd hon wedi'i hanelu at y rhai sydd wedi cwblhau Gradd Sylfaen Arweinyddiaeth ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol GLlM neu Lefel 6 mewn pwnc perthnasol arall yn llwyddiannus.
Mae'r radd hon yn unigryw i ranbarth Gogledd Cymru ac mae'n cynnwys agweddau cyfoes sy'n hollbwysig i'r arweinydd a'r rheolwr modern. Dilyswyd a dyfernir y cymhwyster hwn gan Brifysgol Bangor
Yn unol ag anghenion diwydiant lleol, bydd y cwrs hwn yn rhoi sgiliau uwch i chi a allai arwain at yrfa lwyddiannus yn rhai o’r sectorau y mae’r galw mwyaf amdanynt yng Ngogledd Cymru.
Mae’r cwrs hwn yn pontio’r bwlch rhwng cymwysterau proffesiynol seiliedig ar waith a rhagoriaeth academaidd gyda sgiliau trosglwyddadwy, proffesiynol ac ymarferol ynghyd â sgiliau cyflogadwyedd wedi’u gwreiddio ym mhob modiwl.
Mae'r modiwlau'n cynnwys:
- Croesawu Technoleg ac Arloesi ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol (10 credyd)
- Egwyddorion Moesegol ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol (20 credyd)
- Prosiect Ymchwil y Flwyddyn Olaf - Traethawd Estynedig (40 credyd)
- Iechyd Byd-eang ac Amrywiaeth (20 credyd)
- Polisïau a Llywodraethiant yng Nghymru (20 credyd)
Ceir gwybodaeth fanylach am y Modiwlau yn yr adran ‘Gwybodaeth am y Campws'.
Gofynion mynediad
Bydd mynediad uniongyrchol i'r BA hwn i fyfyrwyr sy'n symud ymlaen ar ôl cwblhau'n llwyddiannus Radd Sylfaen Arweinyddiaeth ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol GLlM.
Bydd pob cais gan ymgeiswyr allanol yn cael ei ystyried yn unigol yn unol â pholisi trosglwyddo credydau GLlM, yn seiliedig ar astudio 240 credyd mewn cymhwyster cydnaws yn llwyddiannus (o fewn yr amserlen a amlinellir yn y polisi).
Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL). .
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Darperir y cwrs ar gampws Llandrillo-yn-Rhos mewn canolfan brifysgol arbenigol sy'n darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu sydd wedi'u teilwra i fyfyrwyr gradd.
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd rhyngweithiol
- Seminarau
- Gweithdai
- Tiwtorialau
- Modiwlau cyflogaeth
- Siaradwyr gwadd
Gall siaradwyr gynnwys ystod o arbenigwyr o sefydliadau partner gan gynnwys Gofal Iechyd Prifysgol Bangor, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gymdeithasol Prifysgol Bangor; Heddlu Gogledd Cymru, Prifysgol Wrecsam, Cynrychiolwyr Gofal Cymdeithasol, BIPBC a CAIS.
Amserlen:
- Llawn amser: 1 flwyddyn - 2 ddiwrnod yr wythnos, fel arfer rhwng 9am-4pm
- Rhan-amser: 2 flynedd - 1 diwrnod yr wythnos, fel arfer rhwng 9am-4pm
Dyddiad dechrau: Medi 2026
Gofal bugeiliol
Mae’r system Tiwtorial Personol yn nodwedd bwysig o gymorth myfyrwyr ac mae sesiynau tiwtorial yn gyfle i drafod ystod o faterion gan gynnwys cynnydd, dilyniant, cymorth lleoliad gwaith ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol.
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Costau ychwanegol
Wrth gynllunio'u hastudiaethau, bydd angen i fyfyrwyr ystyried y costau ychwanegol, nad ydynt wedi'u cynnwys yn y ffioedd dysgu, y gallent orfod eu hwynebu yn ystod y rhaglen.
Gallai hyn gynnwys costau gofal plant, teithio sy’n gysylltiedig â mynychu’r rhaglen a phrofiad gwaith, DBS ar gyfer lleoliad profiad gwaith, ymweliadau allanol a theithiau maes i wella'r dysgu, dillad addas ar gyfer gwaith/lleoliad, argraffu ychwanegol uwchben y lwfans, cofion bach, costau eraill sy’n ymwneud â deunydd ysgrifennu, a chostau sy'n gysylltiedig â seremoni raddio megis llogi gŵn a ffotograffau.
Bydd angen i fyfyrwyr ystyried costau'r adnoddau a'r deunyddiau y bydd arnynt eu hangen i astudio'n annibynnol y tu allan i'r coleg e.e. cyfrifiadur personol/gliniadur, mynediad i'r rhyngrwyd, meddalwedd, deunyddiau y bydd arnynt eu hangen ar gyfer datblygu sgiliau ymarferol, a llyfrau/cyfnodolion yr hoffent eu prynu yn hytrach na'u benthyg, neu gostau ychwanegol am wneud cais am fenthyg cyhoeddiadau nad ydynt ar gael drwy'r gwasanaeth llyfrgell. Gall myfyrwyr ddefnyddio llyfrgelloedd, mannau astudio a gwasanaethau benthyg llyfrau'r coleg, ond rhaid iddynt dalu dirwy am lyfrau sy'n cael eu dychwelyd yn hwyr neu rai sy'n cael eu colli.
Cyswllt:
- Sarah Harris (Arweinydd Rhaglen): harris2s@gllm.ac.uk
- Am ymholiadau cyffredinol am ein graddau, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Mae ein hasesiadau yn caniatáu i ddysgu gael ei gymhwyso yn seiliedig ar eich prif ddiddordebau, eich profiad galwedigaethol a'ch lleoliadau. Ceir gwybodaeth fanylach am y Modiwlau yn yr adran ‘Gwybodaeth am y Campws'.
Mae'r mathau o asesiadau yn cynnwys:
- Portffolios unigol
- Aseiniadau ysgrifenedig
- Dyddiadur adfyfyriol
- Prosiect Grŵp
- Trafodaeth broffesiynol
- Cyflwyniad
- Prosiect Ymchwil
- Cynnig ymchwil
- Astudiaethau achos
Dilyniant
Ble gall y cwrs hwn fynd â mi yn fy ngyrfa yn y dyfodol?
Bydd y cwrs hwn, sydd wedi'i ddatblygu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr lleol, yn sicrhau eich bod yn meithrin y sgiliau diweddaraf sydd eu hangen ar gyflogwyr. Mae rolau mewn addysg, y trydydd sector, llesiant, ac iechyd a gofal cymdeithasol i gyd yn feysydd blaenoriaeth ar gyfer Gogledd Cymru, ac rydym am weld cynnydd parhaus yn y galw am rolau cysylltiedig yn y blynyddoedd i ddod.
Gall cwblhau'r cwrs hwn arwain at nifer o ddewisiadau dilyniant o ran addysg a chyflogaeth:
- Rolau uwch mewn amrywiaeth o sectorau a chyd-destunau gwaith, gan gynnwys rolau proffesiynol, yn arwain neu reoli
- Symud ymlaen yn uniongyrchol i raglenni TAR GLlM i hyfforddi i fod yn ddarlithydd Addysg Bellach cymwysedig. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma. TAR GLlM
- Yn dilyn gradd BA, gallech symud ymlaen i wahanol raddau meistr yng Ngogledd Cymru. Er enghraifft:
- MA Addysg
- MA Gwaith Cymdeithasol
- MA Troseddeg a Chymdeithaseg
- MA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
- MA Cymdeithaseg
- MA Polisïau Cymdeithasol
- MSc Nyrsio Oedolion, Plant neu Iechyd Meddwl
- MSc Cwnsela
- MSc Iechyd, Iechyd Meddwl a Llesiant
- MSc Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd
Drwy gydol y flwyddyn, caiff myfyrwyr AU GLlM y wybodaeth ddiweddaraf am ffeiriau recriwtio graddedigion a gynhelir yn lleol a thu hwnt e.e. yn Lerpwl a Manceinion. Mae'r Arweinwyr Rhaglenni yn rhoi cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau yn ogystal â gweithio gyda Gyrfa Cymru.
Mae GLlM hefyd wedi cyflwyno Dyfodol Myfyrwyr fel rhan o'r strategaeth AU bresennol, a fydd yn gwella datblygiad cyflogadwyedd y dysgwyr. Llwyddodd cyn-raddedigion o GLlM i gael gwaith gyda Chynghorau Bwrdeistrefi Sirol ar amrywiol brosiectau yn cynnwys Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar, Grwpiau Ymgynghorol Arbenigol a gwasanaethau i boblogaethau arbennig. Cafodd graddedigion eu recriwtio hefyd gan elusennau lleol a chenedlaethol sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol, diogelu plant a chamddefnyddio sylweddau.
I’r rhai sy’n astudio er mwyn datblygu yn eu proffesiwn presennol, bydd meddu ar radd BA yn dangos sgiliau lefel uchel a all arwain at fwy o ddewisiadau gyrfa mewn amrywiaeth o gyd-destunau sector cyhoeddus a phreifat, gyda’r posibilrwydd o gyfrifoldebau goruchwylio neu reoli.
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
This course is delivered at our University Centre (UCCL) at the Rhos-on-Sea campus, which provides degree-level students with bespoke teaching and learning facilities. The Centre is equipped with state-of-the-art lecture theatres, seminar rooms, specialist library resources, IT facilities and study areas.
Modules:
Embracing Technology and Innovation in Health, Wellbeing and Social Care (10 credits)
This module explores the integration of technology in care aiming to equip you with the knowledge, skills, and attitudes necessary to leverage technology and innovation for the improvement of health, wellbeing and social care services. This module will examine the current technological landscape in health, wellbeing and social care and explore emerging technologies and innovations that have the potential to transform the field.
Ethical Principles in Health, wellbeing and Social Care (20 credits)
The module focuses on the fundamental aspects of ethical issues and the underpinning legal statutes that support professional practice. It will explore the core topics of research ethics, such as autonomy, the basic principles relating to respect for persons, beneficence, and justice. It will provide knowledge and understanding to facilitate you to critically analyse, explore and debate ethical and legal concepts, issues and theories relating to healthcare, wellbeing and social care.
Final Year Research Project - Dissertation (40 credits)
This module builds upon previous academic skills introduced in earlier aspects of the degree and will support you in developing your research knowledge and skills. It prepares and supports you to undertake an extended piece of independent writing around a topic of your choice related to your area of professional practice supported by an experienced supervisor.
Global Health and Diversity (20 credits)
This module illustrates the global and international context within which social issues arise. Current and pertinent global social problems and the relationships, disparity and inequality within an international context will be identified. These include health inequalities, poverty, sustainability, environmental destruction, and crime, with an illustration presented of how their impact is uneven between upper, middle and lower-income earners, locations and nations.
Policy and Governance within Wales (20 credits)
This module focuses on real-world policies and organisational governance nationally and within Wales. It aims to provide a comprehensive understanding of policy and governance in the context of health, wellbeing and social care, integrating theoretical knowledge with practical applications and encouraging critical thinking and analysis. It demonstrates the distinctive approach to policies which takes place in Wales. While recognising the uniqueness of Wales, it will also be illustrated that there remain similarities between Wales and other regions of the UK and wider Europe.
Post-Graduate Pathways and Progression (10 credits)
The emphasis of this module will be on future progression to employment or further study. You will offer critical reflection on your current practice in terms of how it has enhanced your academic and vocational knowledge and skills, and to evaluate future career paths and/or postgraduate studies.
Additionally, the module will focus on creating a comprehensive and vocationally-relevant professional and personal development plan; identifying work-based and employability-specific academic and vocational development needs, resulting in identifying attainable goals for the future. Progress towards stated goals will also be measured through the plan.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)
Lefel:
6
Maes rhaglen:
- Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant