BA Anrh mewn Ffotograffiaeth (Atodol)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn amser
  • Hyd:

    Llawn amser: 1 flwyddyn, 2 diwrnod yr wythnos NEU Rhan-amser: 2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos

    Dydd Llun a Dydd Gwener, 9am-5pm

  • Cod UCAS:
    WW65
Gwnewch gais
×

BA Anrh mewn Ffotograffiaeth (Atodol)

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Ni allwch wneud cais am y cwrs hwn drwy UCAS.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n chwilio am gyfle i fynd ymlaen â'ch diddordeb mewn ffotograffiaeth? Yn awyddus i ddeall sut mae'r diwydiant yn gweithio? Eisiau magu hyder i arddangos a chyhoeddi eich gwaith? Yn awyddus i fynegi eich syniadau gydag eglurder, sgil a gwybodaeth? Eisiau deall cysyniadau iaith weledol? Eisiau cynnal gwaith ymchwil difrifol a gwaith ffotograffiaeth ystyrlon? Am rannu eich delweddau a mwynhau gwneud hyn? A bod yn rhan o fyd proffesiynol.

Wel, dyma'r cwrs i chi.

Os ydych chi eisoes wedi cwblhau Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth (neu debyg), mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi symud ymlaen i Lefel 6 ac ennill gradd anrhydedd lawn.

Gallwch hefyd ymuno â'r cwrs os oes gennych gymhwyster lefel 5 addas mewn ffotograffiaeth neu mewn gwaith lens (sy'n cyrraedd y gofynion dysgu uwch blaenorol).

Gofynion mynediad

Gofynion academaidd:

  • Bydd mynd ymlaen i lefel 6 yn digwydd yn syth yn achos y myfyrwyr hynny sy'n mynd ymlaen o Radd Sylfaen GLLM mewn Ffotograffiaeth i Radd BA Anrh yn dilyn cwblhau'r radd sylfaen yn llwyddiannus. Rhaid i ymgeiswyr fod wedi ennill credydau sy'n cyfateb i 120 credyd AU Lefel 4 a 120 credyd AU Lefel 5.
  • Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.
  • Ystyrir mynediad i lefel 6 yn achos myfyrwyr nad ydynt yn cyrraedd y gofynion uchod neu sy'n gwneud cais lefel 6 o sefydliad arall ar sail unigol, yn unol â pholisi GLLM o ran trosglwyddo credydau yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi). Neu drwy gynnwys portffolio gyda'u cais yn dangos gwaith astudio blaenorol (APL/APEL/RPEL) yn unol â rheoliadau a pholisïau GLLM.
  • Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol gyda phortffolio.

Trefniadau dethol a chyfweld

Bydd yn ofynnol i bob myfyriwr ddod i gyfweliad, yn seiliedig ar gyrraedd y meini prawf dethol yn unol â chanllawiau mynediad y Grŵp. Bydd angen cyflwyno tystysgrifau gwreiddiol a phortffolio fel tystiolaeth o'ch cymwysterau yn ogystal ag unrhyw dystiolaeth arall i gyrraedd gofynion mynediad ychwanegol fel yr amlinellwyd uchod.

Gofynion ieithyddol

  • TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg neu Gymraeg, iaith gyntaf
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Seminarau
  • Trafodaethau beirniadol
  • Tiwtorialau
  • Darlithoedd rhyngweithiol
  • Dysgu ar y we
  • Gweithgareddau unigol ac mewn grŵp
  • Beirniadaethau Stiwdio mewn Grŵp
  • Astudiaeth Annibynnol
  • Siaradwyr a darlithwyr gwadd
  • Ymweld ag orielau cenedlaethol a rhyngwladol

Byddwch yn gweithio mewn ystafelloedd pwrpasol, dan oruchwyliaeth tiwtoriaid sydd â chymwysterau rhagorol (ac sydd, lawer ohonynt, yn arfer eu crefft).

Drwy gydol y cwrs, bydd eich Tiwtor Personol yn adolygu'ch cynnydd, yn eich helpu i ddewis a chynllunio aseiniadau ac yn trafod sut y gallwch ddatblygu'ch portffolio.

Amserlen

  • Llawn amser: 1 flwyddyn, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)
  • Rhan-amser: 2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau ychwanegol

Anogir myfyrwyr gradd i gael eu hoffer ffotograffiaeth a datblygu digidol eu hunain i gefnogi eu datblygiad proffesiynol ar y lefel hon. Mae gan yr adran gyflenwad o offer ffotograffiaeth sy'n cynnwys camerâu digidol ac analog o faint canolig a mawr. Yn y stiwdio ceir offer goleuo symudol. Gellir benthyca offer am bythefnos ar y tro drwy system archebu, a gellir gwneud trefniadau benthyca am gyfnodau hwy os oes angen.

Gall costau ychwanegol gynnwys cyfleoedd i fynd ar ymweliadau astudio a dylai myfyrwyr neilltuo tua £250 ar gyfer hyn. Amcangyfrif yn unig yw'r ffigur hwn, a gall y gost fod yn uwch yn dibynnu ar y cyfleoedd fydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Ysgoloriaeth Cymhelliant 2022-2023 Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Coleg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos: Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, neu am gymorth i lenwi'r cais, mae croeso i chi gysylltu â Swyddogion Cangen Grŵp Llandrillo Menai ar - colegcymraeg@glllm.ac.uk.

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Tim Williams (Rhaglen Arweinydd): willia2t@gllm.ac.uk

Diane Roberts (Gweinyddiaeth): robert18d@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Byddwch yn cael eich asesu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng gwaith cwrs, a fydd yn cynnwys

  • Cyflwyniadau unigol
  • Ymchwil digidol - dogfen / blog
  • Gwerthuso
  • Astudiaethau achos
  • Traethawd Estynedig
  • Arddangosfa

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Os gwnewch gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith. Byddwch wedi meithrin y sgiliau sy'n angenrheidiol i gael swydd neu fod yn hunangyflogedig mewn amryw o feysydd creadigol, gan gynnwys celf ffotograffig yn ogystal â meysydd dylunio a chyhoeddi. Mae'r amrywiaeth a gynigir fel rhan o'r cwrs, yn cynnwys sgiliau cyflogadwyedd a'r cysylltiadau mae'r dysgwyr yn eu datblygu gyda sefydliadau/cyflogwyr lleol, yn sicrhau bod yr holl raddedigion yn barod i wynebu'r gweithle modern a bod ganddynt ddealltwriaeth feirniadol ym maes ffotograffiaeth a chyfryngau eraill.

O ran addysg, cewch gyfle i fynd ymlaen i ddilyn cwrs lefel uwch, TAR, MA neu PhD.

Mae sawl llwybr gyrfa a diwydiannau yn agored i raddedigion ym maes ffotograffiaeth yn cynnwys;

  • Ffotograffiaeth ar eich liwt eich hun yn cynnwys gwaith ym maes meddygaeth, coginio, ffasiwn a golygu
  • Cyhoeddi
  • Newyddiaduriaeth
  • Cysylltiadau Cyhoeddus
  • Gweithio gyda sefydliadau lleol neu gelfyddydau cenedlaethol
  • Ceidwad mewn amgueddfa
  • Cyfarwyddwr Celf
  • Gweinyddwyr celf
  • Dysgu / darlithio
  • Cynorthwyydd / technegydd ffotograffydd
  • Cynorthwyydd mewn stiwdio ac oriel
  • Golygydd ffotograffau
  • Dylunydd gwefannau
  • gwneuthurwr/cynhyrchydd fideos
  • Ffilm

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol, a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Lefel 6

Ymarfer Cyd-destunol (20 credyd, gorfodol)

Bydd y modiwl hwn yn galluogi dysgwyr i adfyfyrio ar yr hyn a gyflawnwyd ganddynt ar lefel 5 a chanfod llwybr arbenigol i gyflawni gwaith newydd. Bydd y pwyslais ar ddatblygiad sy'n briodol i ganlyniadau mewn cyd-destunau dosbarthiadol. Y prif gyd-destunau yw llyfrau, arddangosfeydd, cyfryngau cymysg neu amlgyfryngau a llwyfannau sy'n seiliedig ar y we. Ar y cyfan, bydd angen i ddysgwyr allu dangos gallu mewn amrywiaeth eang o sgiliau digidol. Bydd gofyn i ddysgwyr sy'n awyddus i ddefnyddio prosesau analog arbenigol fod yn barod i drosglwyddo eu gwaith i gyfrwng digidol.

Bydd cynnig ymchwil yn arwain at ddatblygiad technegol wedi'i gefnogi mewn maes allweddol neu gyfuniad o feysydd allweddol. Fel arfer, bydd hyn mewn cyfryngau analog neu ddigidol ar gyfer argraffu, gwneud llyfrau, taflunio, gosodiad, delwedd symudol neu ddyluniad gwe, neu unrhyw ganlyniad arall a gytunwyd ag arweinydd y rhaglen. Bydd gwaith arbrofi a phrosesu'n arwain at gyflwyno portffolio o ddelweddau mewn cyd-destun bras fel print cain, llyfr dymi, tudalennau gwe cuddiedig, delweddau symudol byr neu gyd-destun arall a gytunwyd.

Mae ymwybyddiaeth o gynulleidfa, cyd-destun y dosbarthiad a derbyniad y gwaith yn ystyriaethau pwysig.

Bydd dysgwyr yn dangos bod i'w prosiectau ganlyniadau ystyrlon drwy brofi bod eu fframweithiau cyd-destunol yn elfennau sy'n cael ystyriaeth yn eu gwaith eu hunain. (Cyflwyniqad 20%, Gwerthusiad ysgrifenedig 30%, Portffolio 50%)

Prosiect Mawr Terfynol (40 credist, gorfodol)

Mae'r prosiect ffotograffiaeth mawr terfynol yn rhan allweddol o'r asesiad terfynol ac yn gyfle i ddysgwyr ddangos eu sgiliau creadigol, technegol a chynhyrchu. Bydd y rhain yn cael eu llywio gan ddealltwriaeth feirniadol, defnydd o theori a rhoi ymarfer ar waith.

Cyd-destun y prosiect mawr terfynol fydd y sioe diwedd blwyddyn fydd yn cael ei chynnal mewn lleoliad un ai ar y safle neu oddi ar safle fydd yn cael ei bennu drwy drafodaeth yn ystod semester 1. Fel grŵp, gall dysgwyr ddewis sail resymegol gyffredinol ar gyfer y digwyddiad ac ystyried hyn fel elfen o fframwaith cyd-destunol eu hymarfer - neu, gallant ddewis ystyried eu cyfraniad yn annibynnol o gysylltiadau allanol a dibynnu'n unig ar y gofod a ddynodir i bob dysgwr.

Bydd pob dysgwr yn ymdrin ag agweddau unigryw ei waith drwy ymchwil annibynnol ar lwybr a gefnogir gan diwtor. Bydd pwyslais ar theori ac ymarfer beirniadol gyda chyd-destunau hanesyddol a/neu gyfoes yn llywio gwerthusiad beirniadol o'r gwaith yng nghyd-destun yr arddangosfa derfynol.

Bydd y syniad o 'arddangosfa' yn cael ei archwilio i gynnwys amrywiaeth o bosibiliadau, yn cynnwys y defnydd o ofod digidol. (Gwerthusiad ysgrifenedig 10%, Arddangosiad 80%, Dogfen gynllunio 10%)

Llwybrau Ymchwil (20 credyd, gorfodol) -

Mae'r modiwl hwn yn galluogi dysgwyr i ystyried dulliau ymchwil penodol sy'n cefnogi eu diddordebau academaidd ac yn helpu i lywio fframwaith beirniadol ar gyfer eu gwaith eu hunain. Bydd gwerthuso gwaith Lefel 5 yn gyfle i ystyried llwybrau ymchwilio newydd neu i ystyried datblygu themâu presennol ar gyfer ymchwil sy'n briodol i Lefel 6.

Bydd gofyn i ddysgwyr gadw blog proffesiynol ar-lein sy'n adolygu ac yn gwerthuso profiadau ymchwil drwy gydol y flwyddyn, ac sy'n ystyried datblygiad y berthynas rhwng ymchwil a gwaith dros amser. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth a gesglir o ymweliadau ag orielau, gwyliau, cynadleddau ac arddangosfeydd, cysylltiadau uniongyrchol â diwydiant a phrofiadau ymchwil perthnasol. Ceir pwyslais ar ddatblygu iaith weledol ddigidol ac adnodd sy'n cefnogi'r traethawd estynedig fel llwyfan a rennir er mwyn gwahodd trafodaeth rhwng cyd-fyfyrwyr a'r tîm addysgu. (Gwerthusiad ysgrifenedig 20%, Dogfen ymchwil ddigidol 80%)

Traethawd Estynedig (40 credyd, gorfodol)

Mae'r modiwl hwn yn datblygu'r rhyngwyneb rhwng yr ymchwil a'r gwaith ymarferol a wnaed yn ystod rhan gyntaf y cwrs. Mae gofyn i ddysgwyr gynnal ymchwil manwl ynghyd ag ymholiad beirniadol i'w galluogi i adfyfyrio ar eu gwaith ymarferol eu hunain ac i osod y gwaith hwn mewn perthynas ag ystyriaethau hanesyddol a chyd-destunol ehangach.

Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr ymgymryd â phrosiect ymchwil mawr sy'n gysylltiedig â'u gwaith ffotograffig eu hunain. Bydd y gwaith ymchwil a wneir ar gyfer y modiwl hwn yn galluogi dysgwyr i gynhyrchu a chyflwyno corff o waith ag iddo ffocws pendant sy'n cyfosod eu gwerthusiad beirniadol a'u dealltwriaeth gyd-destunol ac i ystyried y berthynas rhwng hyn a'u gwaith ymarferol eu hunain. (Cyflwyniad 20%, Traethawd hir 60%, Traethawd paratoadol ac adolygu llenyddiaeth 20%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 6

Sefydliad dyfarnu: Bangor University

Dwyieithog:

n/a

Sefydliad dyfarnu