BA (Anrh) Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser, Llawn amser
- Hyd:
Llawn amser – 1 flwyddyn
Rhan-amser – 2 flynedd
- Cod UCAS:NN6M
BA (Anrh) Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli DigwyddiadauGraddau (Addysg Uwch)
Rhan Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r rhaglen BA (Anrh) llawn amser hon mewn Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau yn flwyddyn o hyd ac wedi'i chynllunio i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ymhellach, ar ôl cwblhau'r radd sylfaen.
Bydd blwyddyn olaf y radd yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau rheoli a'r wybodaeth ymarferol ragorol sy'n angenrheidiol i ragori yn y sectorau deinamig hyn ac yn sicrhau bod cyfleoedd gyrfa amrywiol o fewn eu cyrraedd.
Yn eu traethawd neu brosiect ymchwil estynedig bydd y myfyrwyr yn gallu canolbwyntio ar y maes arbenigol y maent am ei ddatblygu yn eu gyrfaoedd.
Gydag amrywiaeth o sefydliadau lletygarwch, twristiaeth a digwyddiadau gerllaw, bydd gennych ddigonedd o gyfleoedd i ymgysylltu, i ymweld ag atyniadau amrywiol, i fynd ar leoliadau profiad gwaith, ac i gael gyrfa dda ar ôl graddio.
Mae modiwlau yn cynnwys:
- Materion Cyfoes yn ymwneud â Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau
- Moeseg ym maes Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau
- Grym Arloesi Cynaliadwy
- Polisïau a Rheoliadau ar gyfer Llwyddo mewn Busnes
- Prosiect / Traethawd Ymchwil Estynedig
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.
Gofynion mynediad
Gofynion Academaidd
Bydd dilyniant yn uniongyrchol i'r rhai sy'n mynd ymlaen o Radd Sylfaen mewn Celfyddydau Coginio neu bwnc perthnasol.
Bydd ymgeiswyr allanol ar gyfer y cwrs lefel 6 yn cael eu hystyried ar sail unigol yn unol â'n polisi ynghylch trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi).
Yn unol â'n rheoliadau a pholisïau byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Gofynion Ieithyddol
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf.
- Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.
Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 6 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5).
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs hwn drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd
- Cyflwyniadau
- Gweithdai
- Gwaith grŵp
- Siaradwyr gwadd
- Ymweliadau â diwydiant
- Seminarau
- Tasgau dan arweiniad
- Tiwtorialau
- Dysgu sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr
Amserlen
- Llawn amser am 1 flwyddyn, 2 ddiwrnod yr wythnos (9am–5pm fel arfer)
- Rhan-amser am 2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos (9am–5pm fel arfer)
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.
Asesiad
Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Traethodau
- Adroddiadau
- Astudiaethau achos
- Cyflwyniadau
- Prosiectau ymchwil
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
Dilyniant i astudiaethau pellach:
- Dilyniant uniongyrchol i raglen gradd Meistr gyda darparwyr Addysg Uwch eraill yn y Deyrnas Unedig
- Cwrs TAR
Cyfleoedd o ran Gyrfa a Dilyniant:
- Swyddi rheoli ym maes Lletygarwch/Arlwyo/Twristiaeth gyda sefydliadau amrywiol yn y diwydiant
- Cyfleoedd i ymuno â chynlluniau hyfforddi i raddedigion
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Contemporary Issues in Hospitality, Tourism & Events (20 credits, compulsory)
The contemporary issues module aims to allow students to consider, appraise and evaluate current trends and challenges facing the culinary and hospitality industries from both an internal and external perspective.
Essay (40%) / Case Study (40%) / Presentation (20%)
Ethics in Hospitality, Tourism & Events (20 credits, compulsory)
The ethics module aims to investigate and evaluate the principles and theories of ethics within modern culinary and hospitality contexts establishing the value of their existence in today’s culinary climate.
Essay (40%) / Seminar Paper (30%) / Presentation (30%)
The Power of Sustainable Innovation (20 credits, compulsory)
This module explores the intersection of sustainability and innovation within the hospitality, tourism, and events management sectors critically investigating contemporary issues and challenges facing these industries, such as climate change, resource depletion, and socio-cultural impacts.
Group website/blog (60%) / Individual manifesto (40%)
Policy & Regulations for Business Success (20 credits, compulsory)
This module examines the connection between Hospitality, Tourism & Events and public policy and regulations at various levels. It focuses on understanding current health, safety, and risk requirements in the sector.
Research paper (60%) / Conference presentation (40%)
Research Project / Dissertation (40 credits, compulsory)
The aim and purpose of this module is to propose and undertake a contextualised research project which will support the development of a range of skills including academic and transferable skills such as analysis and evaluation skills, time management and critical thinking.
The research project may be presented in a variety of formats and may include opportunities to conduct a ‘real world’ research project linked to and working alongside a specific culinary or hospitality-based organisation as appropriate.
Research Dissertation / Project introduction & literature review (35%) / Research Dissertation / Project Methodology, Findings, Interpretation, Conclusion/Recommendations (65%).
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)
Lefel:
6
Maes rhaglen:
- Business and Management
Sefydliad dyfarnu: Bangor University
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: