Technegau Harddu Arbenigol – Gofalu am y Croen a Choluro Lefel 2 (tystysgrif VTCT)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
34 wythnos (1 diwrnod yr wythnos - dyddiau Mercher)
Technegau Harddu Arbenigol – Gofalu am y Croen a Choluro Lefel 2 (tystysgrif VTCT)Rhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ar y cwrs hwn, cewch gyfle i feithrin sgiliau ym maes therapi harddwch, gan osod sylfaen ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd gwaith mewn diwydiant sy'n canolbwyntio ar helpu pobl i edrych a theimlo ar eu gorau.
Byddwch yn astudio:
- Iechyd a Diogelwch
- Hyrwyddo gwasanaethau a chynhyrchion
- Triniaethau wyneb
- Coluro
Gwneir y gwaith ymarferol yn salonau harddwch pwrpasol y Grŵp, gan roi triniaethau am dâl i gleientiaid mewn amgylchedd gweithio realistig.
Gofynion mynediad
- Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Darlithoedd
- Gwaith grŵp
- Sesiynau ymarferol
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Arsylwi
- Asesiadau ymarferol
- Profion ysgrifenedig ac ar lafar
Dilyniant
Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau Therapi Harddwch Lefel 3 yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
- Sba
- Llwybr cyffredinol
- Harddwch a Cholur
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
2
Dwyieithog:
n/a