BEng (Anrh) Systemau Peirianneg Drydanol/Electronig Gymhwysol - Prentisiaeth Gradd

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    3 blynedd

Gwnewch gais
×

BEng (Anrh) Systemau Peirianneg Drydanol/Electronig Gymhwysol - Prentisiaeth Gradd

Graddau (Addysg Uwch)

Disgrifiad o'r Cwrs

Cyflwynir y Radd-brentisiaeth Systemau Peirianneg Drydanol/Electronig Gymhwysol hon gan Brifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai. Mae prentisiaethau gradd yn rhoi llwybr arall at addysg uwch draddodiadol - yn cyfuno gwaith gydag astudio yn y coleg a'r brifysgol.

Nod y cwrs yw rhoi dealltwriaeth eang i'r myfyrwyr o beirianneg drydanol ac electronig ac egwyddorion busnes i'w cynorthwyo i ddod yn beirianwyr cymwys gyda'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer gyrfa broffesiynol yn y diwydiant peirianneg drydanol ac electronig. Mae'r rhaglen yn datblygu gwybodaeth benodol o egwyddorion peirianneg mewn theori drydanol/electronig a mecanyddol er mwyn eu defnyddio mewn sefyllfaoedd go iawn. Mae'n darparu sgiliau ymarferol mewn dylunio, profi, iechyd a diogelwch. Mae'n datblygu dulliau gweithredu mathemategol sy'n gysylltiedig â pheirianneg a theori, gyda hyn i’w weld gliriaf yn y flwyddyn olaf gyda Pheirianneg Pŵer a Systemau Rheoli.

Gofynion mynediad

  • Rhaid i'r prentisiaid fod naill ai mewn cyflogaeth lawn-amser neu ran-amser (o leiaf 16 awr yr wythnos) mewn cyflogaeth berthnasol yng Nghymru.
  • Caiff pob ymgeisydd ei ystyried fesul achos a bydd disgwyl iddynt ddod am gyfweliad anffurfiol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs trwy ddarlithoedd rhyngweithiol, tiwtorialau a gweithdai. Bydd cyflwyniadau hefyd gan siaradwyr gwadd. Mae’r dysgu'n ymarferol ac yn anffurfiol.

Asesiad

Cewch eich asesu trwy amrywiaeth o ddulliau fel aseiniadau ymarferol a damcaniaethol, adroddiadau, cyflwyniadau llafar, gwaith project, portffolios ac aseiniadau tîm.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4-6

Maes rhaglen:

  • Peirianneg

Sefydliad dyfarnu: Bangor University

Peirianneg

Myfyriwr yn gweithio ar fwrdd trydanol

Sefydliad dyfarnu