BEng (Anrh) Systemau Peirianneg Fecanyddol Gymhwysol - Prentisiaeth Gradd
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Y Rhyl
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
3 blynedd
BEng (Anrh) Systemau Peirianneg Fecanyddol Gymhwysol - Prentisiaeth GraddGraddau (Addysg Uwch)
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae’r Radd-brentisiaeth Systemau Peirianneg Fecanyddol Gymhwysol yn rhoi llwybr arall at addysg uwch draddodiadol - yn cyfuno gwaith gydag astudio yn y coleg a'r brifysgol.
Mae'r Radd-brentisiaeth Systemau Peirianneg Fecanyddol Gymhwysol yn datblygu dealltwriaeth eang o beirianneg fecanyddol ac egwyddorion busnes er mwyn eich cynorthwyo i ddod yn beiriannydd cymwys gyda'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer gyrfa broffesiynol yn y diwydiant peirianneg fecanyddol. Mae'r rhaglen yn datblygu gwybodaeth benodol o egwyddorion peirianneg mewn theori drydanol/electronig a mecanyddol er mwyn eu defnyddio mewn sefyllfaoedd go iawn. Mae'n darparu sgiliau ymarferol mewn dylunio, profi, iechyd a diogelwch. Mae'n datblygu dulliau gweithredu mathemategol sy'n gysylltiedig â pheirianneg a theori, gyda hyn i’w weld gliriaf yn y flwyddyn olaf gyda Pheirianneg Pŵer a Diwydiannol.
Gofynion mynediad
- Rhaid i'r prentisiaid fod naill ai mewn cyflogaeth lawn-amser neu ran-amser (o leiaf 16 awr yr wythnos) mewn cyflogaeth berthnasol yng Nghymru.
- Caiff pob ymgeisydd ei ystyried fesul achos a bydd disgwyl iddynt ddod am gyfweliad anffurfiol.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs trwy ddarlithoedd rhyngweithiol, tiwtorialau a gweithdai. Bydd cyflwyniadau hefyd gan siaradwyr gwadd. Mae’r dysgu'n ymarferol ac yn anffurfiol.
Asesiad
Cewch eich asesu trwy amrywiaeth o ddulliau fel aseiniadau ymarferol a damcaniaethol, adroddiadau, cyflwyniadau llafar, gwaith project, portffolios ac aseiniadau tîm.
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)
Lefel:
4-6
Maes rhaglen:
- Peirianneg
Sefydliad dyfarnu: Bangor University