Cyrsiau Cynhyrchu Bwyd Pwrpasol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Canolfan Technoleg Bwyd, Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Mae hyd y cyrsiau yn amrywio
Cyrsiau Cynhyrchu Bwyd PwrpasolCyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae gweithgynhyrchu bwyd yr un mor amrywiol â'r bwydydd sydd ar y farchnad heddiw. Gallwn ladd, trin a phrosesu cig, pysgod a bwyd môr. Gallwn basteureiddio llaeth neu ei ddefnyddio i wneud caws neu iogwrt. Gallwn sychu, rewi neu roi ffrwyth neu lysiau i gadw. Caiff cnydau eu prosesu a'u troi'n flawd, bara, bisgedi neu'n rawnfwyd. Cynhyrchir siocled a melysion o goco a siwgr. Gallwn becynnu braster, olew a margarin ac ychwanegu blas atynt. Mae cynnal safon a diogelwch bwyd yn hanfodol yn y diwydiant Cynhyrchu Bwyd.
Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd (CTB) yn Llangefni yn un o dair Canolfan Technoleg Bwyd yng Nghymru. Dyma brif ddarparwr cyrsiau cynhyrchu bwyd arbenigol Gogledd Cymru. Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol i gwmnïau sy'n cynhyrchu bwyd a gallwn eu cynnig un ai yn ein cyfleusterau dynodedig yn y Ganolfan neu unrhyw leoliad yn y DU.
Rhai enghreifftiau o'r cyrsiau pwrpasol
- Dechrau Busnes Bwyd neu Diod
- Gweithdai Cigyddiaeth (Chwarthor blaen Cig Eidion, Chwarthor Ôl Cig Eidion, cig oen, porc),
- Gweithgynhyrchu Cig (halltu cig a gwneud selsig)
- Sgiliau Cigyddiaeth
- Gwneud Caws
- Archwiliadau Rheoli Ansawdd yn y Diwydiant Bwyd a Diod
- Bragu Cwrw
- Synhwyraidd
- Diogelwch bwyd - cwrs gloywi
- Hylendid ym maes Cynnyrch llaeth
Cysylltwch â CTB yn uniongyrchol i holi am le:
01248 383345
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y rhan fwyaf o'r cyrsiau.
Cyflwyniad
Mae pob cwrs yn cynnwys cymysgedd o gyflwyniadau tiwtor, ymarferiadau byr, ac astudiaeth achos gyda digon o drafodaethau ac ymarfer.
Asesiad
Cynhelir yr asesiad yn ystod y cwrs gan y tiwtor, oni nodir yn wahanol.
Dilyniant
Ar gyfer dilyniant pellach, mae llwybrau'n cysylltu â'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn uniongyrchol.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Cynhyrchu Bwyd
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Llangefni