Helpu eich Plentyn gyda Mathemateg (Ysgol Gynradd)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Lleoliad Cymunedol
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 awr

Gwnewch gais
×

Helpu eich Plentyn gyda Mathemateg (Ysgol Gynradd)

Maes Ni
Dydd Mawrth, 27/08/2024

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd erioed wedi meddwl "Beth ar y ddaear mae fy mhlant yn ei wneud yn eu gwersi mathemateg y dyddiau hyn?!" neu "Sut mae'n bosib i mi helpu fy mhlentyn gyda'i waith cartref mathemateg?" Mae'n debyg bod y ffordd y caiff mathemateg ei ddysgu yn yr ysgol y dyddiau hyn yn wahanol iawn i'r ffordd y cawsoch chi eich dysgu. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych ddealltwriaeth dda o'r holl feysydd mathemateg gwahanol a sut maen nhw'n cael eu defnyddio gan ddisgyblion mewn ysgolion cynradd y dyddiau hyn. Byddwn hefyd yn rhoi llawer o awgrymiadau i chi ar sut i wneud mathemateg yn ymarferol ac yn hwyl.

Gofynion mynediad

I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:

  • fod yn 19 oed neu'n hŷn;
  • yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.

Cyflwyniad

Sesiynau grŵp bach cyfeillgar

Asesiad

Dim.

Dilyniant

Cyrsiau mathemateg pellach

Mwy o wybodaeth

Lefel: 0

Maes rhaglen:

  • Multiply