Prentisiaethau mewn Gwaith Brics

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, CaMDA Dolgellau
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:
    • 3 flynedd
Gwnewch gais
×

Prentisiaethau mewn Gwaith Brics

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae prentisiaeth ym maes adeiladu yn hyfforddiant galwedigaethol ble mae'r prentis yn dilyn fframwaith Sgiliau Adeiladu cydnabyddedig er mwyn datblygu sgiliau a gwybodaeth, ac yna yn eu harddangos ac yn casglu tystiolaeth o hynny mewn amgylchedd adeiladu.

Er mwyn cwblhau Prentisiaeth ym maes Adeiladu, rhaid bod y prentis yn gweithio yn ystod y brentisiaeth ac ar ddiwedd y cwrs, a bod ganddo dystiolaeth o gymhwysedd mewn ystod o sgiliau galwedigaethol penodol.

Gofynion mynediad

I fodloni'r meini prawf mynediad ar gyfer y Brentisiaeth, dylai fod gennych gymhwyster ôl-16 Lefel 1 neu Lefel 2 mewn Adeiladu neu'ch bod wedi cael o leiaf flwyddyn o brofiad mewn sgiliau bywyd ar ôl gadael addysg orfodol.

Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr sy’n gallu bodloni meini prawf y cymhwyster prentisiaeth.

Cyflwyniad

  • Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 3

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau
  • Llangefni
  • Llandrillo-yn-Rhos