BSc (Anrh) Cyfrifiadura (Datblygu Meddalwedd) (Atodol)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn amser
  • Hyd:

    Llawn-amser: 1 flwyddyn; Rhan-amser: 2 flynedd NEU'n fodiwlaidd

    Dydd Mawrth a dydd Gwener, 9am-5pm

  • Cod UCAS:
    G402
Gwnewch gais
×

BSc (Anrh) Cyfrifiadura (Datblygu Meddalwedd) (Atodol)

Graddau (Addysg Uwch)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Os ydych chi eisoes wedi cwblhau Gradd Sylfaen (FdSc) Cyfrifiadura (Datblygu Meddalwedd) (neu debyg), mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi symud ymlaen i Lefel 6 ac ennill gradd anrhydedd lawn.

Bydd y cwrs yn adeiladu ar eich sgiliau a'ch gwybodaeth bresennol gydag ieithoedd rhaglennu a chysyniadau newydd.

Bydd gwaith unigol a grŵp yn eich galluogi i archwilio meysydd sydd o ddiddordeb i chi ac yn datblygu eich gallu i ddysgu'n annibynnol.

Mae modiwlau yn cynnwys:

  • Uwch Raglennu
  • Cyfrifiadura Ffisegol
  • Peirianneg Meddalwedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd:

Bydd dilyniant i lefel 6 yn digwydd yn uniongyrchol yn achos y myfyrwyr hynny sy'n mynd ymlaen o Radd Sylfaen i Radd BA (Anrh) mewn Cyfrifiadura yn GLlM yn dilyn cwblhau'r radd sylfaen yn llwyddiannus. Rhaid i fyfyrwyr sy'n symud ymlaen aros ar eu llwybr dewisol (Datblygu Meddalwedd neu Rwydweithio).

Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.

Bydd ymgeiswyr allanol ar gyfer y cwrs lefel 6 yn cael eu hystyried ar sail unigol yn unol â pholisi GLlM ynghylch trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi).

Gofynion Iaith

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd rhyngweithiol
  • Gweithdai ymarferol
  • Trafodaethau / gweithgareddau grŵp
  • Siaradwyr gwadd
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Mae'r dysgu yn gyfranogol ac yn anffurfiol, ac yn llawn cyfleoedd i'r unigolyn archwilio eu creadigrwydd.

Amserlen

  • Llawn amser: 1 blwyddyn, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)
  • Rhan-amser: 2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Bydd arnoch angen cyfrifiadur neu liniadur yn eich cartref ynghyd â gwasanaeth rhyngrwyd dibynadwy.

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Inge Powell (Rhaglen Arweinydd): powell1i@gllm.ac.uk

David Clarke (Gweinyddiaeth): clarke1d@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Aseiniadau ymarferol ac aseiniadau wedi'u seilio ar theori
  • Asesiadau i'w gwneud mewn amser penodol
  • Adroddiadau
  • Cyflwyniadau llafar
  • Gweithio ar brosiect
  • Portffolios
  • Asesiad yn y gweithle
  • Aseiniadau grŵp/tîm
  • Llyfrau log a gwaith adfyfyriol

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi at amrywiaeth o yrfaoedd mewn datblygu rhaglenni gwe, peirianneg meddalwedd, rhaglennu, cyfathrebu a rhwydweithio, cymwysiadau cyfrifiadurol, rheoli TG, gwerthu cyfrifiaduron a marchnata.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mae'r cwrs hwn yn adeiladu ar y sgiliau a feithrinwyd eisoes wrth astudio am gymhwyster Lefel 5 mewn Datblygu Meddalwedd.

Am bob 10 credyd, dylai'r myfyrwyr gwblhau tua 100 o oriau dysgu tybiannol. Bydd tua 30% o hyn yn gyswllt dysgu uniongyrchol, a 70% yn ddysgu annibynnol.

Mae'r cyfuniad hwn o fodiwlau'n arwain at Radd BSc (Anrh) mewn Cyfrifiadura (Datblygu Meddalwedd). Mae cwrs BSc (Anrh) arall ar gael sy'n arbenigo mewn Rhwydweithio.

Uwch Raglennu:

Bydd y modiwl hwn yn rhoi arweiniad pellach i'r dysgwyr ar wahanol gysyniadau rhaglennu gan ganolbwyntio ar y defnydd a wneir ohonynt. Bydd y dysgwyr yn dysgu am y broses sy'n gysylltiedig â rhoi technegau uwch raglennu ar waith, gan ddefnyddio iaith neu ieithoedd rhaglennu addas a fydd yn caniatáu i wahanol raglenni integreiddio data. (Gwaith ymarferol 100%)

BSc Traethawd Estynedig:

Mae'r modiwl hwn yn caniatáu i ddysgwyr unigol archwilio rhan ddewisol o ddiwydiant cyfrifiadura a gemau yn fanylach drwy draethawd estynedig wedi'i selio ar ymchwil neu brosiect. (Adroddiad 85% / Cyflwyniad / arddangosiad 15%)

Prosiect Grŵp:

Mae'r modiwl hwn yn caniatáu i ddysgwyr weithio mewn grwpiau o 3-5 fel arfer i archwilio rhan ddewisol o'r diwydiant cyfrifiadura drwy gyfrwng prosiect a fydd yn rhoi cyfle iddynt feithrin gwybodaeth a sgiliau newydd, defnyddio gwybodaeth a sgiliau a ddysgwyd yn flaenorol a pharhau i feithrin sgiliau gweithio mewn grŵp. (Adroddiad 10% / Gwaith ymarferol 60% / Cyflwyniad / arddangosiad 30%)

Cyfrifiadura Ffisegol:

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno dysgwyr i ryngweithiad caledwedd a meddalwedd. Caiff mwyafrif yr amser yn y dosbarth ei defnyddio ar gyfer ymarferion ymarferol ac arbrofi (Asesiad â chyfyngiad amser 10% / Gwaith ymarferol 80% / arddangosiad 10%)

Peirianneg Meddalwedd:

Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar wybodaeth flaenorol y myfyrwyr am ddatblygu meddalwedd a rheoli prosiectau. Y nod yw caniatáu dysgwyr i ddatblygu ac ymarfer y sgiliau angenrheidiol i weithio'n llwyddiannus gyda neu ddatblygu systemau cyfrifiadurol o wahanol fathau. (Adroddiad 20% / Gwaith ymarferol 70% / adlewyrchiad 10%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 6

Sefydliad dyfarnu: Bangor University

Dwyieithog:

n/a

Sefydliad dyfarnu