BSc (Anrh) mewn Plismona Proffesiynol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Prifysgol Bangor
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    3 blynedd

Gwnewch gais
×

BSc (Anrh) mewn Plismona Proffesiynol

Graddau (Addysg Uwch)

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r hyfforddiant a roddir i'r heddlu yn newid ar draws Cymru a Lloegr o ganlyniad i raglen newydd sydd wedi ei sefydlu gan y Coleg Plismona. Mae'r newid hwn yn cael ei gyflawni'n rhannol trwy gyflwyno Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona, sy'n rhoi'r sgiliau priodol i recriwtiaid newydd yr heddlu i addasu i gymhlethdod proffesiynol plismona modern gan gynnwys natur newidiol troseddu a'r galwadau sydd ar wasanaethau'r heddlu.

Mae Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai, yn cynnig gradd israddedig mewn Plismona Proffesiynol sydd wedi ei thrwyddedu gan y Coleg Plismona. Bydd hyn yn cyflwyno sgiliau i'r myfyrwyr y byddant eu hangen i fod yn swyddogion heddlu.

Noder: Nid yw'r radd hon yn gwarantu'r cyfle i gael eich recriwtio i'r gwasanaeth heddlu. Cynghorir y rhai sy'n bwriadu dilyn gyrfa gyda'r heddlu i wirio'r meini prawf cymhwysedd y mae gwasanaethau heddlu unigol yn eu nodi.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i wefan Prifysgol Bangor: https://www.bangor.ac.uk/cy/courses/undergraduate/l436-plismona-proffesiynol

Gofynion mynediad

Ar gyfer mynediad yn 2025:

TGAU gradd C/4 mewn Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg, neu gymhwyster cyfwerth

Mae cynnig nodweddiadol yn seiliedig ar 96 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3*, e.e.

  • Lefel A, Diploma Cenedlaethol/Estynedig BTEC a Diploma Technegol Estynedig Cambridge:
  • Diploma Technegol Uwch / Estynedig City and Guilds: Teilyngdod
  • Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol:
  • Mynediad: Llwyddo
  • Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE: Gradd C
  • Derbynnir Bagloriaeth Cymru.

Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr hŷn.

*I gael rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com

I wneud cais, ewch i wefan Prifysgol Bangor: https://www.bangor.ac.uk/cours...

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Bydd y cwrs hwn yn cael ei addysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a gweithdai a'r bwriad yw trwytho'r myfyrwyr yn yr amrediad o faterion a themâu sy'n ofynnol i allu gweithio yn yr heddlu.

Amserlen:

Llawn Amser: 3 blynedd

  • Cyflwynir y cwrs ym Mhrifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Dewi Roberts (Rhaglen Arweinydd): robert17d@gllm.ac.uk

Sian Backhouse (Gweinyddiaeth): backho1s@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i wefan Prifysgol Bangor: https://www.bangor.ac.uk/cy/courses/undergraduate/l436-plismona-proffesiynol

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Mae'r radd BSc mewn Plismona Proffesiynol yn seiliedig ar wybodaeth academaidd o'r cwricwlwm cenedlaethol i gwnstabliaid. Bydd o ddiddordeb i'r sawl sy'n gobeithio cael gyrfa gyda'r heddlu (fel cwnstabliaid neu swyddogion eraill), a'r sawl sydd â diddordeb mewn gorfodi'r gyfraith ac mewn cyfiawnder troseddol yn gyffredinol.

Mae'r radd BSc mewn Plismona Proffesiynol yn parhau'n gyfredol am 5 mlynedd i ddibenion recriwtio i'r heddlu.

Noder: Nid yw'r radd hon yn gwarantu'r cyfle i gael eich recriwtio i'r gwasanaeth heddlu. Gall y prosesau recriwtio, y polisïau penodi a'r gofynion mynediad amrywio rhwng gwahanol heddluoedd. Cynghorir y rhai sy'n bwriadu dilyn gyrfa gyda'r heddlu i wirio'r meini prawf cymhwysedd y mae gwasanaethau heddlu unigol yn eu nodi.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i wefan Prifysgol Bangor: https://www.bangor.ac.uk/cy/courses/undergraduate/l436-plismona-proffesiynol

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Modiwlau Blwyddyn 1:

  • Deall Rôl y Cwnstabl Heddlu
  • Cyflwyniad i Gyfiawnder Troseddol
  • Cyflwyniad i Fframwaith Cyfreithiol Plismona
  • Cyflwyniad i Droseddeg

Mae Modiwlau Blwyddyn 2 a 3 yn cynnwys:

  • Rhoi Theori ar Waith
  • Troseddu a Chyfiawnder ym Mhrydain Heddiw
  • Plismona ar Sail Ymchwil a Thystiolaeth
  • Plismona yn y Gymuned: Gwerthoedd ac Egwyddorion
  • Plismona Arbenigol – E-droseddu a Phlismona Digidol, a Phlismona'r Ffyrdd
  • Ymchwilio i Droseddeg Gyfundrefnol
  • Deall Rôl y Cwnstabl Heddlu
  • Meddwl yn Strategol ym maes Plismona
  • Plismona a Chymdeithas
  • Persbectifau ar Droseddau Ieuenctid

Ym mlwyddyn 3 bydd myfyrwyr hefyd yn ysgrifennu traethawd estynedig (prosiect ymchwil ar bwnc o'ch dewis sydd o ddiddordeb arbennig i chi) a phortffolio ymarferol (i Gwnstabliaid Arbennig yn unig).

Rhoddir cynnwys y cwrs ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4-6

Sefydliad dyfarnu: Bangor University

Dwyieithog:

n/a

Sefydliad dyfarnu