Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Astudiaethau Busnes Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Pwllheli
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa heriol ym maes busnes? A fyddech chi'n elwa o feithrin sgiliau galwedigaethol defnyddiol? Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn amrywiaeth o feysydd ym myd busnes yn cynnwys rheoli, cyllid, y gyfraith, manwerthu ac adnoddau dynol. Byddwch hefyd yn ennyn nifer o gymwysterau ac yn dysgu sut i gychwyn eich busnes eich hun.

Oes gennych uchelgais i fod yn llwyddiannus? Yn anelu at yrfa mewn busnes, y Gyfraith, Cyllid, Manwerthu, Rheoli neu Farchnata? Ydych chi'n meddwl am ddechrau eich busnes eich hun? Os felly mae'r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes yn addas ar eich cyfer. Mae'r Diploma Estynedig lefel 3 BTEC yn cyfateb i dri Lefel A.

  • Blwyddyn Un: Cyflawni'r Diploma 90 credyd (yn cyfateb i 1.5 lefel A)
  • Blwyddyn Dau: ychwanegu at hynny i ennill y Diploma Estynedig

Marchnata Sut mae busnesau yn cystadlu mewn amgylchedd o weithio cyflym a heriol? Byddwch yn dysgu sut mae busnesau yn defnyddio marchnata i ennill mantais gystadleuol a chynyddu'r siar o'r farchnad. Byddwch yn dysgu sut i ddeall a chyfarfod ag anghenion cwsmer a datblygu strategaethau marchnata gan ddefnyddio ystod o ddulliau cyfryngau creadigol, gan gynnwys platfformau cyfryngau cymdeithasol. Manwerthu Mae'r amgylchedd manwerthu yn esblygu yn gyson! Mae Datblygiadau mewn technoleg a'r newid yn y galw gan ddefnyddwyr yn dylanwadu ar y ffordd mae manwerthwyr yn gwneud busnes. Siopa rhithwir, seicoleg defnyddwyr a'r defnydd o'r rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol yw rhai yn unig o flaenoriaethau'r sector. Yn y pwnc hwn byddwch yn dysgu hefyd am sectorau manwerthu penodol gan gynnwys ffasiwn a bwyd. Rheoli ac Arwain Sut mae busnesau yn cael y gorau o'u pobl? Nid yn unig byddwch yn ennill sgiliau mewn rheoli pobl a gweithio gydag eraill ond bydd y pwnc hwn yn darparu'r cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau ymarferol sydd yn cynnwys: cymryd rhan mewn gweithgareedd awyr-agored, cyfle ar gyfer ymgymryd â'r rôl o arweinydd a digon o waith tîm. Cyllid / Cyfrifeg Dysgwch am bwrpas cyfrifyddu, y prosesau cysylltiedig â'r rôl wrth reoli busnes. Gall rheoli perfformiad ariannol yn effeithiol ddarparu cyfleoedd i fusnesau fod yn fwy cost effeithiol, yn fwy cystadleuol ac yn fwy tebygol o 'fantoli'r cyfrifon'. Mae'r elfen hon o'r cwrs yn golygu defnyddio sgiliau dadadansoddol drwy ddatblygu a dehongli cyfrifon ariannol. Y Gyfraith Dysgu sut mae cyfreithiau yn cael eu datblygu a phwy yw'r bobl allweddol o fewn y system gyfreithiol. Bydd hyn yn eich cyflwyno i elfennau o gyfraith busnes, contractau a chyflogaeth drwy'r defnydd o achosion go iawn a'r cymhwyisad ymarferol o'r gyfraith. Busnes Rhyngwladol Ydych chi eisiau bod yn rhan o'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes byd eang? Deallwch sut i groesawu cyfleoedd a heriau busnes rhyngwladol a sut mae cwmnïau yn gweithredu ac ehangu mewn cymdeithas cynyddol fyd-eang.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af)
  • Gradd Teilyngdod mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Bydd angen hefyd i chi fod wedi cael presenoldeb o 86% yn eich blwyddyn astudio flaenorol.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Ymweliadau addysgol
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Gwaith portffolio
  • Perfformio ac arsylwi

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith.

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni addysg uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • BA (Anrh) Rheoli a Busnes
  • Graddau Sylfaen (FdA) Rheoli a Busnes
  • HND/HNC Astudiaethau Busnes

Gallech hefyd ddilyn un o'n cyrsiau AAT i hyfforddi ym maes cyfrifydda.

Os byddwch yn dewis mynd yn syth i weithio, byddwch yn gallu gweithio ym maes gweinyddu arbenigol yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Gallwch hefyd ddefnyddio eich sgiliau a'ch cymwysterau i gael swydd ran-amser neu swydd achlysurol mewn proffesiwn. Dewis arall fyddai cofrestru ar raglen hyfforddi rheoli i hybu eich gyrfa.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau
  • Pwllheli
  • Llandrillo-yn-Rhos

Business and Management

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Business and Management

Myfyrwyr mewn llyfrgell