Gweithdy ar Dechnegau Cerameg

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    30 wythnos (5 awr yr wythnos)

Gwnewch gais
×

Gweithdy ar Dechnegau Cerameg

Coleg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos
Dydd Mercher, 18/09/2024

Disgrifiad o'r Cwrs

Cyflwyniad i gerameg a chyfle i ddatblygu amrywiaeth eang o dechnegau cerameg sy'n ymwneud â sgiliau'r grefft. Adeiladu â llaw, llunio a thrin clai Cyflwyniad i staenio a sgleinio er mwyn meithrin arddull greadigol bersonol. Mae tanio'n rhan o'r cwrs a defnyddir ymchwil a dulliau ymarferol ym mhob rhan o'r broses er mwyn creu'r gwaith gorffenedig.

Mae croeso i fyfyrwyr sydd eisoes â rhai sgiliau ymuno â'r cwrs i wella'u gallu yn y grefft.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â David Clarke: clarke1d@gllm.ac.uk

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.

Cyflwyniad

Gwaith ymarferol, arddangosiadau a chyflwyniadau byr.

Asesiad

Caiff y gwaith ei asesu ar ddiwedd y cwrs.

Dilyniant

Datblygu portffolio er mwyn ymuno â chyrsiau llawn neu ran-amser eraill – er enghraifft, darpariaeth Lefel 2 neu 3 megis BTEC neu Astudiaethau Sylfaen mewn Celf a Dylunio.

Mwy o wybodaeth

Lefel: 2

Dwyieithog:

n/a