Tystysgrif mewn Systemau ac Egwyddorion TGCh
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
6 awr yr wythnos am 15 wythnos (ar sail dyddiau astudio)
Tystysgrif mewn Systemau ac Egwyddorion TGChCyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Cwrs rhagarweiniol yw hwn fydd yn rhoi cyfle i chi feithrin sgiliau mewn amrywiaeth o feysydd gwahanol. Mae'r unedau'n cynnwys ystod eang o feysydd technolegol. Er mwyn i chi allu gweithio mewn swyddi amrywiol, mae'r cwrs wedi'i gynllunio i'ch cyflwyno i ystod o wahanol dechnolegau: creu gwefannau, rhaglennu a systemau cyfrifiadurol.
Nid oes disgwyl i chi gael gwybodaeth dechnegol fanwl, ond byddai sgiliau TG sylfaenol yn fantais. Mae'n addas i unrhyw un sy'n awyddus i ailhyfforddi er mwyn gweithio ym maes technoleg, neu am ddechrau ar lwybr dysgu lefel uwch.
Gofynion mynediad
4 TGAU gradd C neu uwch, gorau oll os ydynt yn cynnwys Cymraeg/Saesneg neu Fathemateg
Cyflwyniad
Mae'r cymhwyster yn cael ei addysgu mewn sawl dull.Bydd y dysgu'n digwydd yn y dosbarth drwy gyfrwng darlithoedd, tasgau ymchwil a gwaith grŵp.I gwblhau'r asesiadau bydd angen i chi wneud peth gwaith y tu allan i'r dosbarth.
Asesiad
Mae'r holl asesu'n seiliedig ar aseiniadau gwaith cwrs.
Dilyniant
Gallech barhau â'ch astudiaethau yn y maes gan fynd ymlaen i astudio ar lefel gradd yn y pen draw.
Mae'r swyddi sydd ar gael yn amrywiol iawn, e.e.
- Gweinyddwr Cronfa Ddata
- Datblygwr Cynnyrch TG
- Technegydd Desg Gymorth
- Dylunydd Gwefannau
- Datblygwr Meddalwedd
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
3
Dwyieithog:
n/a