Tystysgrif Addysg Uwch mewn Arferion Gofal Iechyd

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Online
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Rhan-amser flwyddyn: un diwrnod yr wythnos (9yb-5yh).

Gwnewch gais
×

Tystysgrif Addysg Uwch mewn Arferion Gofal Iechyd

Graddau (Addysg Uwch)

Os hoffech wneud ymholiad neu wneud cais am y cwrs hwn, e-bostiwch hcpapplications@gllm.ac.uk neu ffoniwch 01492 546 666 est. 1307.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Arferion Gofal Iechyd yn datblygu a gwella sgiliau Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd sydd un ai'n gweithio i neu'n fodlon ac yn gallu derbyn lleoliad gwaith gyda Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu gyda chyflogwr clinigol arall a gymeradwywyd. Mae mwyafrif y myfyrwyr yn cael secondiad gan eu cyflogwr i ddilyn y rhaglen hon. Mae'r rhaglen yn cyfuno profiad ac ymarfer seiliedig ar waith ag astudiaethau academaidd lefel uwch hyd at Lefel 4. Yn ystod neu'n dilyn eu hastudiaethau gall myfyrwyr llwyddiannus yn aml symud ymlaen yn eu gweithle, ac aiff nifer ymlaen i ddilyn gyrfa ym maes nyrsio.

Cost:
Ariennir ffi'r cwrs yn llawn i bob ymgeisydd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Fodd bynnag, wrth gynllunio'u hastudiaethau, bydd angen i fyfyrwyr ystyried y costau ychwanegol, nad ydynt wedi'u cynnwys yn y ffioedd dysgu, y gallent eu hwynebu yn ystod y rhaglen.

Gallai hyn gynnwys costau gofal plant, teithio'n ôl ac ymlaen i'r coleg a lleoliadau profiad gwaith, ymweliadau allanol, teithiau maes, dillad addas ar gyfer gwaith/profiad gwaith, argraffu dros ben y lwfans, cofion bach a chostau deunyddiau swyddfa eraill.

I wneud cais:
Os ydych chi'n cael eich cyflogi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac yr hoffech chi wneud cais i ddilyn y cwrs, anfonwch neges e-bost i BCU.HCSWTrainingGroup@wales.nhs.uk, os gwelwch yn dda.

Os ydych chi'n cael eich cyflogi gan Fwrdd Iechyd Powys, ac yr hoffech chi wneud cais i ddilyn y cwrs, anfonwch neges e-bost at PowysPEF@wales.nhs.uk, os gwelwch yn dda.

Os nad ydych chi'n cael eich cyflogi gan Fwrdd Iechyd GIG, cliciwch ar 'Gwneud Ymholiad Nawr' ar frig y dudalen hon.

Caiff y rhaglen ei chyflwyno dros gyfnod o flwyddyn a derbynnir myfyrwyr ym mis Medi a mis Chwefror ym mhob blwyddyn academaidd. Yn ystod yr wythnosau academaidd, bydd angen i'r myfyrwyr ddilyn y rhaglen am un diwrnod bob wythnos.

Rydym yn cynnig cyrsiau hybrid yn Llandrillo-yn-Rhos a Wrecsam yn ogystal â chwrs ar-lein lle mae'r dysgu i gyd yn digwydd o bell. Mae hyfforddiant sgiliau digidol yn rhan o'n holl raglenni dysgu.

Dyddiad cychwyn

Bydd ein derbyniadau ar gyfer 24/25 yn dechrau'r wythnos sy'n dechrau 9 Medi 2024 a 10 Chwefror 2025.

Gofynion mynediad

Mae meini prawf mynediad fel arfer yn gymhwyster galwedigaethol Lefel 3 neu ofynion cyfatebol eich gweithle. Ar gyfer gweithwyr BIPBC, y gofyniad yw'r FfCCh Lefel 3. Mae llythrennedd a rhifedd yn rhan o'r cwrs, felly ni ofynnir am gymwysterau ffurfiol eraill. Yn ogystal, bydd angen i chi fod un ai'n gweithio mewn lleoliad clinigol addas, neu'ch bod yn gallu cael eich cefnogi gan leoliad o'r fath. Mewn rhai achosion, gallwn helpu yn hyn o beth. Mae cyfraddau llwyddiant ein dysgwyr sy'n dilyn y rhaglen addysg uwch hon yn eithriadol o dda. Bob blwyddyn mae'r cyfraddau llwyddiant dros 90% gyda nifer o'r dysgwyr yn cael graddau Rhagoriaeth a Theilyngdod.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd ffurfiol yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein
  • Mae adnoddau ar-lein ar gael drwy MOODLE, amgylchedd dysgu rhithwir y coleg
  • Grwpiau trafod
  • Ymarfer adfyfyriol
  • Sesiynau datrys problemau
  • Gweithgareddau grŵp
  • Siaradwyr gwadd
  • Astudio hunan-gyfeiriedig
  • Dysgu wedi'i seilio ar astudiaethau achos
  • Ymarfer (defnyddio'r theori mewn ymarfer proffesiynol)

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Dogfen Asesiad Ymarferol (sy'n cynnwys isafswm o 767 o oriau ymarfer clinigol yn ystod cyfnod y cwrs)
  • Traethodau
  • Astudiaeth Achos
  • Ffug arholiad ymarferol ar sgiliau clinigol hanfodol (OSCE)
  • Cynllun Gofal
  • Cyflwyniad
  • Poster Academaidd
  • Adfyfyrio
  • Aseiniad unigol
  • Arholiad

Dilyniant

Mae'r rhaglen hon yn caniatáu dilyniant i bob llwybr nyrsio mewn prifysgolion yng Nghymru a thu hwnt. Yn benodol, mae'r rhaglen yn cyfateb yn llawn i flwyddyn gyntaf y cwrs BN (Anrh.) mewn Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam. Golyga hyn y gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen yn uniongyrchol i Lefel 5, sef ail flwyddyn rhaglenni Nyrsio er mwyn cwblhau'r rhaglen a dod yn nyrs gofrestredig. Yn ogystal, mae rhai cyflogwyr yn caniatáu dilyniant gyrfa, er enghraifft i swyddi Gweithwyr Gofal Cymorth Iechyd Band 4. Mae'r holl ddysgwyr llwyddiannus yn gwella a datblygu eu hymarfer.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Sefydliad dyfarnu: Bangor University

Dwyieithog:

Yn dibynnu ar y campws, mae'n bosib y gellir darparu rhai o'r deunyddiau dysgu'n ddwyieithog er mwyn i fyfyrwyr allu dilyn elfennau o'r rhaglen yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Cewch fanylion yn y cyfweliad.

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth

Sefydliad dyfarnu