Tystysgrif Addysg Uwch mewn Peirianneg Sifil
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser, Llawn amser
- Hyd:
Llawn amser: 2 ddiwrnod yr wythnos am 1 flwyddyn neu ran-amser: 1 diwrnod yr wythnos am 2 flynedd. Dim nosweithiau.
Llangefni: Dydd Iau, 9:10yb - 5:45yp
Rhos: Dydd Llun, 9yb -5yp
Tystysgrif Addysg Uwch mewn Peirianneg SifilGraddau (Addysg Uwch)
Rhan Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ar hyn o bryd mae'r cwrs hwn yn cael ei ail-ddilysu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr a rhanddeiliaid. Mae hyn er mwyn diweddaru'r cynnwys erbyn Medi 2025.
Mae'r cymhwyster hwn yn addas i ymgeiswyr sy'n gweithio yn y Diwydiant Peirianneg Sifil.
Fel rheol, bydd sgiliau'r rhai sy'n cwblhau'r cymhwyster yn cael eu cydnabod yn ffurfiol. Mae hefyd yn debygol eu bod yn awyddus i symud ymlaen i swyddi uwch sy'n gofyn am sgiliau goruchwylio neu reoli ychwanegol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Costau Ychwanegol:
Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:
- Deunyddiau ar gyfer astudio'n annibynnol, fel gliniadur neu gyfrifiadur pen desg
- Gwerslyfrau sy'n cael eu hystyried yn ddarllen hanfodol
- Ymweliadau allanol megis safleoedd adeiladu, canol dinasoedd, henebion, stadia, amgueddfeydd / orielau / arddangosfeydd
- Meddalwedd i allu gweithio gartref
- Offer Amddiffyn Personol (PPE), amcangyfrif cyllideb £30 - £150
- Cyfrifiannell Gwyddonol
- Apiau sydd am ddim yn gyffredinol ond sydd â chostau ar gyfer fersiynau wedi'u huwchraddio
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).
Gwybodaeth am fodiwlau
Mae gwybodaeth fanylach am fodiwlau i'w gweld yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol am y Campws / Cwrs.'
Dyddiad cychwyn
Mis Medi
Gofynion mynediad
Gofynion Ieithyddol
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf, neu gymhwyster cyfwerth
- Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)
Gofynion academaidd
- o leiaf 64 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster lefel 3, yn cynnwys gradd llwyddo, neu radd C neu uwch mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.
- Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol
Mae enghreifftiau o ofynion mynediad derbynion yn cynnwys:
- Dwy lefel A, gyda gradd C neu uwch mewn o leiaf un pwnc A2 perthnasol. Graddau D yw'r isafswm a dderbynnir. Mae'r enghreifftiau o bynciau Lefel A sy'n addas ar gyfer y cwrs yn cynnwys: Mathemateg, Ffiseg, Cemeg, Bioleg, Dylunio a Thechnoleg, Daearyddiaeth, Daeareg, Economeg, Busnes
- Neu Ddiploma Estynedig BTEC neu gymhwyster cyfwerth (T, Ll, Ll neu uwch).
- Neu Ddiploma BTEC neu uwch, neu gymhwyster cyfwerth (T, T) gyda dwy flynedd o brofiad mewn diwydiant.
- Neu Ddiploma Atodol BTEC neu uwch, neu gymhwyster cyfwerth (T neu uwch) gyda thair blynedd o brofiad mewn diwydiant.
- Neu bum mlynedd neu ragor o brofiad mewn diwydiant sy'n dangos arbenigedd a gallu i reoli.
Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:
- Rhyddau am y dydd
- Dysgu yn yr ystafell ddosbarth
- Tiwtorialau
- Gwaith grŵp
- MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir)
- Sesiynau ymarferol mewn amgylchedd gwaith realistig (RWE)
Amserlen:
- 2 flynedd (1 dydd a noson yr wythnos)
Cyswllt:
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
Dwynwen Parry (Rhaglen Arweinydd): parry4d@gllm.ac.uk
Karen Price (Gweinyddiaeth): price1k@gllm.ac.uk
Dave Roberto (Rhaglen Arweinydd): robert1d@gllm.ac.uk
Sian Backhouse (Gweinyddiaeth): eckers1s@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Mae'r cwrs hwn yn cael ei asesu drwy ystod o weithgareddau sy'n medru cynnwys:
- Arholiad ysgrifenedig ffurfiol
- Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
- Cyflwyniadau ac arddangosiadau
- Portffolios o waith
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r Dystysgrif yn llwyddiannus, gall ymgeiswyr fynd ymlaen i astudio cwrs Addysg Uwch pellach yn yr un pwnc neu mewn pwnc perthnasol.
Mae Grŵp Llandrillo Menai'n cynnig amrywiaeth o ddewisiadau, neu gall ymgeiswyr wneud cais i astudio mewn sefydliad arall.
Gwybodaeth campws Llangefni
Bydd y dyfarniad hwn yn galluogi dysgwyr sy'n gweithio yn y diwydiant i ehangu eu sylfaen sgiliau y tu hwnt i orwelion eu cyflogaeth bresennol ac felly wella eu rhagolygon gyrfaol ym mhedwar prif faes peirianneg sifil - trawsgludiaeth, dŵr, strwythurau ac adeiladwaith.
Mae'r cwrs hwn yn gweddu'n berffaith i'r rhai sydd yn dymuno gweithio fel Technegwyr Peirianneg Sifil. Wedi cwblhau'r cwrs, gall dysgwyr sydd â chymwysterau addas fynd ymlaen i gwrs gradd.
Bydd y dyfarniad hefyd yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i ennill statws Peiriannydd Corfforedig ac yn ofyniad ar gyfer ennill statws technegydd yn y diwydiant.
Gwybodaeth Uned
Ar gyfer pob 9 credyd, dylai'r myfyrwyr gwblhau tua 100 o oriau dysgu tybiannol. Bydd tua 30% o hyn yn gyswllt dysgu uniongyrchol, a 70% yn ddysgu annibynnol.
Cwblheir cyfanswm o 9 uned yn ystod y 2 flynedd, mae'r rhain yn gysylltiedig â phynciau adeiladu, cynllunio a pheirianneg sifil a fydd yn paratoi ymgeiswyr tuag at ddatblygiad gyrfaol pellach.
Lefel 4:
Dysgu gyda Chyflogwr (10 credyd, gorfodol)
Mae newidiadau mewn technoleg, deunyddiau, prosesau, deddfwriaethau ac arferion yn golygu bod y diwydiant adeiladu'n newid yn gyson hefyd. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i adfyfyrio a rhoi'r hyn a ddysgant o weithio yn y diwydiant mewn cyd-destun er mwyn asesu eu hanghenion dysgu unigol a chynllunio at y dyfodol. (Portffolio 100%)
Gwyddor yr Amgylchedd a Deunyddiau (20 credyd, gorfodol)
Mae'r uned hon yn cefnogi'r myfyrwyr i ddewis a gwerthuso'r deunyddiau maent yn eu defnyddio i gyflawni briff. Trwy hyn gallant weld a yw deunyddiau yn addas i bwrpas ar sail safonau a nodweddion profi, ac a ydynt yn bodloni'r gofynion o ran cyfforddusrwydd. Byddant yn dysgu am gynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol deunyddiau, ac am y gofynion iechyd a diogelwch sydd angen eu bodloni o dan y ddeddfwriaeth gyfredol. (Adroddiad / cynnig / poster 40%, Astudiaeth achos 60%)
Drafftio â Llaw a Chynllunio trwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw galluogi'r myfyrwyr i feithrin eu dealltwriaeth o egwyddorion a dulliau adeiladu sy'n gysylltiedig ag adeiladau domestig isel trwy gyfrwng y sgiliau braslunio â llaw a braslunio technegol sy'n addas ar gyfer cyfathrebu â chleientiaid ar y safle yn ystod camau 0 i 1 Cynllun Gwaith RIBA. (Cyflwyniad / cynnig / poster 100%)
Mathemateg ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig (20 credyd, craidd)
Nod y modiwl hwn yw codi hyder y myfyrwyr ym maes rhifedd a mathemateg trwy adolygu ac atgyfnerthu sgiliau rhifedd sylfaenol fel y gallant ddefnyddio algebra a graffiau i drosi a datrys hafaliaid. (Arholiad 40%, Arholiad 60%)
Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (10 credyd, gorfodol)
Bydd yr uned hon yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd, ac i roi amrediad o ddulliau ymchwil ar waith i chwilio am wybodaeth. (Portffolio 100%)
Tirfesur Safleoedd (10 credyd, gorfodol)
Modiwl ymarferol yw hwn a'r bwriad yw sicrhau bod y myfyrwyr yn gallu defnyddio offer tirfesur modern a gwneud yr amrywiol dasgau tirfesur sy'n gyffredin yn y diwydiant adeiladu cyfoes. (Adroddiad 50%, Arholiad 50%)
Gweithrediadau ar Safleoedd Peirianneg Sifil
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno'r myfyrwyr i hanfodion datblygu a gweithredu prosiect peirianneg sifil mawr. Edrychir ar dechnegau adeiladu modern ac ar y deddfwriaeth sy'n berthnasol i'r broses adeiladu o ran iechyd a diogelwch, lles a'r amgylchedd. (Adroddiad 75%, Cyflwyno cynnig 25%)
Dadansoddi Adeileddau (10 credyd, gorfodol)
Edrychir ar egwyddorion adeileddol megis mecaneg a ffiseg adeileddau. Dadansoddir ymddygiad adeileddau a bydd hyn yn cynnwys cyfrifo momentau plygu, croesrymoedd, dirdroeon ac allwyriadau mewn amrywiaeth o adeileddau syml. (Portffolio x 2 100%)
Daeareg (10 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn dysgu gwahaniaethu rhwng ffurfiannau mathau cyffredin o gerrig, eu dosbarthiad, eu mwynoleg a'u dosraniad daearegol. (Adroddiad 100%)
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Bydd y dyfarniad hwn yn galluogi dysgwyr sy'n gweithio yn y diwydiant i ehangu eu sylfaen sgiliau y tu hwnt i orwelion eu cyflogaeth bresennol ac felly wella eu rhagolygon gyrfaol ym mhedwar prif faes peirianneg sifil - trawsgludiaeth, dŵr, strwythurau ac adeiladwaith.
Mae'r cwrs hwn yn gweddu'n berffaith i'r rhai sydd yn dymuno gweithio fel Technegwyr Peirianneg Sifil.
Wedi cwblhau'r cwrs, gall dysgwyr sydd â chymwysterau addas fynd ymlaen i gwrs gradd. Bydd y dyfarniad hefyd yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i ennill statws Peiriannydd Corfforedig ac yn ofyniad ar gyfer ennill statws technegydd yn y diwydiant.
Gwybodaeth Uned
Ar gyfer pob 10 credyd, dylai'r myfyrwyr gwblhau tua 100 o oriau dysgu tybiannol. Bydd tua 30% o hyn yn gyswllt dysgu uniongyrchol, a 70% yn ddysgu annibynnol.
Cwblheir cyfanswm o 9 uned yn ystod y 2 flynedd, mae'r rhain yn gysylltiedig â phynciau adeiladu, cynllunio a pheirianneg sifil a fydd yn paratoi ymgeiswyr tuag at ddatblygiad gyrfaol pellach.
Lefel 4:
Dysgu gyda Chyflogwr (10 credyd, gorfodol)
Mae newidiadau mewn technoleg, deunyddiau, prosesau, deddfwriaethau ac arferion yn golygu bod y diwydiant adeiladu'n newid yn gyson hefyd. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i adfyfyrio a rhoi'r hyn a ddysgant o weithio yn y diwydiant mewn cyd-destun er mwyn asesu eu hanghenion dysgu unigol a chynllunio at y dyfodol. (Portffolio 100%)
Gwyddor yr Amgylchedd a Deunyddiau (20 credyd, gorfodol)
Mae'r uned hon yn cefnogi'r myfyrwyr i ddewis a gwerthuso'r deunyddiau maent yn eu defnyddio i gyflawni briff. Trwy hyn gallant weld a yw deunyddiau yn addas i bwrpas ar sail safonau a nodweddion profi, ac a ydynt yn bodloni'r gofynion o ran cyfforddusrwydd. Byddant yn dysgu am gynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol deunyddiau, ac am y gofynion iechyd a diogelwch sydd angen eu bodloni o dan y ddeddfwriaeth gyfredol. (Adroddiad / cynnig / poster 40%, Astudiaeth achos 60%)
Drafftio â Llaw a Chynllunio trwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw galluogi'r myfyrwyr i feithrin eu dealltwriaeth o egwyddorion a dulliau adeiladu sy'n gysylltiedig ag adeiladau domestig isel trwy gyfrwng y sgiliau braslunio â llaw a braslunio technegol sy'n addas ar gyfer cyfathrebu â chleientiaid ar y safle yn ystod camau 0 i 1 Cynllun Gwaith RIBA. (Cyflwyniad / cynnig / poster 100%)
Mathemateg ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig (20 credyd, craidd)
Nod y modiwl hwn yw codi hyder y myfyrwyr ym maes rhifedd a mathemateg trwy adolygu ac atgyfnerthu sgiliau rhifedd sylfaenol fel y gallant ddefnyddio algebra a graffiau i drosi a datrys hafaliaid. (Arholiad 40%, Arholiad 60%)
Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (10 credyd, gorfodol)
Bydd yr uned hon yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd, ac i roi amrediad o ddulliau ymchwil ar waith i chwilio am wybodaeth. (Portffolio 100%)
Tirfesur Safleoedd (10 credyd, gorfodol)
Modiwl ymarferol yw hwn a'r bwriad yw sicrhau bod y myfyrwyr yn gallu defnyddio offer tirfesur modern a gwneud yr amrywiol dasgau tirfesur sy'n gyffredin yn y diwydiant adeiladu cyfoes. (Adroddiad 50%, Arholiad 50%)
Gweithrediadau ar Safleoedd Peirianneg Sifil
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno'r myfyrwyr i hanfodion datblygu a gweithredu prosiect peirianneg sifil mawr. Edrychir ar dechnegau adeiladu modern ac ar y deddfwriaeth sy'n berthnasol i'r broses adeiladu o ran iechyd a diogelwch, lles a'r amgylchedd. (Adroddiad 75%, Cyflwyno cynnig 25%)
Dadansoddi Adeileddau (10 credyd, gorfodol)
Edrychir ar egwyddorion adeileddol megis mecaneg a ffiseg adeileddau. Dadansoddir ymddygiad adeileddau a bydd hyn yn cynnwys cyfrifo momentau plygu, croesrymoedd, dirdroeon ac allwyriadau mewn amrywiaeth o adeileddau syml. (Portffolio x 2 100%)
Daeareg (10 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn dysgu gwahaniaethu rhwng ffurfiannau mathau cyffredin o gerrig, eu dosbarthiad, eu mwynoleg a'u dosraniad daearegol. (Adroddiad 100%)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)
Lefel:
4
Sefydliad dyfarnu: Bangor University
Dwyieithog:
n/a