Tystysgrif TESOL - Addysgu Saesneg i Siaradwyr o Ieithoedd Eraill

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    32 wythnos (cwrs rhan amser) neu 5 wythnos (cwrs dwys)

Cofrestrwch
×

Tystysgrif TESOL - Addysgu Saesneg i Siaradwyr o Ieithoedd Eraill

Rhan amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

  • Ydych chi eisiau dysgu am hanfodion dysgu Saesneg fel ail iaith er mwyn gweithio dramor neu er mwyn gweithio yn y DU?
  • Ydych chi eisiau cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn fyd eang?
  • Ydi dysgu am ddiwylliannau eraill o ddiddordeb i chi?
  • A oes gennych sgiliau cyfathrebu Saesneg da?
  • Ydych chi’n barod i ymgymryd â her newydd?

Os felly, mae’n bosib mai hwn yw’r cwrs i chi!

Mae’r cymhwyster hwn wedi ei gynllunio i’ch galluogi i:

  • Ddod yn fwy cyfarwydd ag egwyddorion ac ymarfer dysgu Saesneg i oedolion
  • Ddatblygu y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer dysgu iaith i oedolion
  • Ddatblygu ymwybyddiaeth o iaith gan gynnwys gramadeg a chystrawen
  • Ddatblygu dealltwriaeth gychwynnol o’r cyd-destunau y gellir eu defnyddio i gefnogi oedolion i ddysgu Saesneg, yn ogystal a’u cymhelliant i ddysgu a swyddogaeth yr athro a’r dysgwr o fewn hynny
  • Ymgyfarwyddo gyda’r deunyddiau ac adnoddau dysgu priodol
  • Adnabod cyfleoedd ar gyfer eich datblygiad personol eich hun o fewn y maes

Cyfleoedd o ran gyrfa:

  • Dysgu Saesneg fel iaith dramor
  • Teithio a gweithio dramor
  • Dysgu SSIE yn y Deyrnas Unedig
  • Dysgu Saesneg fel iaith dramor ar lein
  • Tiwtora unigol

Gofynion mynediad

  • Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 neu hŷn
  • Rhaid i chi ddangos eich bod yn gallu gweithio yn effeithiol ar lefel is radd/prifysgol
  • I weithio fel athro ESOL proffesiynol, nid oes gofyn i chi fod yn siaradwr iaith gyntaf. Er hynny, bydd gofyn i chi allu siarad ac ysgrifennu Saesneg at y lefel briodol – IELTS 7/8; Lefel 3
  • Bydd gofyn i chi fod yn barod i weithio yn effeithiol o fewn eich grŵp ac i ymateb yn adeiladol i i’r adborth ar eich perfformiad unigol
  • Bydd gofyn i chi gwblhau tasgau cyn-gwrs a chyfweliad yn llwyddiannus

Oherwydd natur y cwrs, bydd y rhaglen yn cael ei haddysgu yn Saesneg.

Cyflwyniad

Cwrs 130 awr gyda 90 awr cyswllt. Yn ychwanegol at hynny, mae gofyn i chi ymgymryd â 6 awr o ymarfer dysgu gyda dysgwyr SSIE.

Cyflwynir ac asesir y cwrs drwy gyfrwng 5 uned:

  • Uned 1: Sgiliau Addysgu
  • Uned 2: Ymwybyddiaeth iaith gan gynnwys gramadeg a seinyddiaeth
  • Uned 3: Proffil dysgwr
  • Uned 4: Asesiad deunyddiau
  • Uned 5: Iaith anhysbys

Asesiad

Ystod o aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol gan gynnwys cyfnodolion, cynllunio gwersi, gwerthusiadau ysgrifenedig.

Dilyniant

Derbynnir y cymhwyster hwn gan y Cyngor Prydeinig ar gyfer dysgu Saesneg fel iaith dramor. Mae modd defnyddio’r credydau ar gyfer cyrsiau gradd o fewn rhai prifysgolion yn y Deyrnas Unedig.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: 5

Maes rhaglen:

  • Sgiliau ar gyfer gwaith

Sgiliau ar gyfer gwaith

Myfywryr yn trafod rhywbeth efo gwasanaethau dysgwyr