Prentisiaethau mewn Plant a Phobl Ifanc
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Lefel 3 = 15 mis
Lefel 5 = 18 mis
Cymhwyster rhan-amser yw hwn ac mae disgwyl i'r dysgwr ymgymryd â'i hastudiaethau uniongyrchol eu hunain.
Rhennir y cymhwyster Lefel 3 yn ddwy ran. Yn y cwrs craidd Lefel 2 ym maes Plant a Phobl Ifanc (sy'n seiliedig ar theori) mae angen cwblhau pum uned wybodaeth. Yna, er mwyn cwblhau’r cymhwyster bydd angen i chi sefyll prawf ar dair astudiaeth achos ac un prawf amlddewis ar un o safleoedd y coleg. Ar ôl cwblhau cwrs Craidd yn llwyddiannus cewch fynd ymlaen i ddilyn y cwrs Lefel 3 Ymarfer ym maes Plant a Phobl Ifanc. Mae'n bosibl gwneud elfen theori'r cwrs Lefel 2 ym maes Plant a Phobl Ifanc yn unig.
Prentisiaethau mewn Plant a Phobl IfancPrentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae ar ddysgwyr angen y cymhwyster hwn i weithio mewn swyddi penodol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol fel y nodir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant.
Bydd y cymhwyster Lefel 3 mewn Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) yn galluogi dysgwyr i ddatblygu a dangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth, eu hymddygiad, eu sgiliau a'u hymarfer mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol.
Rhaid i'r dysgwyr fod un ai'n gweithio ym maes gofal maeth neu'n gweithio mewn ysgol breswyl neu ganolfan gofal plant arbenigol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
07593 580 051 / 08450 460 460 neu busnes@gllm.ac.uk
Gofynion mynediad
- Bod dan gontract i weithio o leiaf 16 awr yr wythnos.
- Rhaid i'ch cyflogwr allu bodloni meini prawf y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF).
- Rhaid bod gennych ganlyniadau WEST (Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru) digonol.
- Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol
Cyflwyniad
Darperir y Cwrs Craidd Lefel 2 ym maes Plant a Phobl Ifanc trwy gyfrwng sesiynau ar-lein a gynigir yn ystod y dydd neu fin nos i fodloni gofynion eich patrymau gwaith.
Cyfarfodydd ar-lein bob mis gyda'ch asesydd.
Cwrs Lefel 3 Ymarfer ym maes Plant a Phobl Ifanc
- Arsylwadau, dysgu uniongyrchol, trafodaethau proffesiynol a thystiolaeth gan y cyflogwr.
- Bydd angen cwblhau adfyfyrion ar eich ymarfer gwaith yn ogystal â pharatoi ar gyfer cael eich arsylwi yn eich lleoliad gwaith trwy dasgau strwythuredig.
- Efallai y bydd angen i chi fynychu dosbarthiadau 'Cymwysterau Sgiliau Hanfodol' yn y coleg.
Asesiad
- Gwaith ysgrifenedig, arsylwadau, a thrafodaethau.
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth (yn electronig os posibl)
- Arholiad – i gynnwys prawf ar dair astudiaeth achos a phrawf amlddewis ar gyfer y cwrs craidd Lefel 2 ym maes Plant a Phobl Ifanc.
Dilyniant
Mae'n bosibl mynd ymlaen o Lefel 3 i Lefel 4 ac yna Lefel 5 (cyn belled â bod gennych swydd uwch yn y sefydliad).
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Children’s Development & Education
Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :
- Dysgu seiliedig ar waith
Dwyieithog:
Mae'r cwrs hwn ar gael yn ddwyieithog.
Children’s Development & Education
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Children’s Development & Education