Plant a Phobl Ifanc - Prentisiaeth Uwch
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor, Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Dysgu seiliedig ar waith, Caernarfon
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
18 mis
Plant a Phobl Ifanc - Prentisiaeth UwchPrentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r Diploma Lefel 5 mewn Ymarfer Uwch/Rheoli yn ehangu ar wybodaeth a sgiliau Diploma Lefel 3, yn cefnogi gwaith Is-reolwyr dan Hyfforddiant, Is Reolwyr, Rheolwyr a swyddi eraill, ac yn arwain at gymhwyster uwch.
Gofynion mynediad
- Ennill cyflog a Dysgu! Bydd gofyn eich bod wedi cwblhau Diploma Lefel 3 City and Guilds ym maes Plant a Phobl Ifanc, ac yn gweithio 16 awr neu ragor yr wythnos.
- Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Bydd disgwyl i chi gyflwyno gwaith ysgrifenedig fel tystiolaeth o'r dysgu. Bydd hyn yn waith annibynnol, a bydd gofyn i chi wneud gwaith ymchwil i bynciau perthnasol.
Asesiad
I gyflawni lefel 5, disgwylir i chi gynhyrchu amrywiaeth o dystiolaeth i greu portffolio yn y meysydd pwnc sy'n berthnasol i faes plant a phobl ifanc. Fe all hyn gynnwys gwaith ysgrifenedig, cynnyrch gwaith a/neu dystiolaeth ar lafar. Caiff eich sgiliau eu hasesu a'u harsylwi yn eich gweithle yn dilyn sesiwn gynllunio gyda'ch asesydd penodedig.
Dilyniant
Dilyniant i astudiaeth lefel gradd.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
5
Maes rhaglen:
- Children’s Development & Education
Dwyieithog:
n/aChildren’s Development & Education
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Children’s Development & Education