Prentisiaethau mewn Gofal, Dysgu a Datblygu Plant

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Dysgu seiliedig ar waith, Dolgellau, Caernarfon, Online
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Lefel 2: 16 mis a Lefel 3: 18 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaethau mewn Gofal, Dysgu a Datblygu Plant

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r fframwaith hwn wedi ei lunio i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau i roi a chynnig cymhwyster galwedigaethol i bobl sy'n gweithio gyda phlant (a'u teuluoedd) mewn lleoliadau neu wasanaethau (yn bennaf yn y blynyddoedd cynnar) sy'n canolbwyntio ar ofal, dysgu a datblygiad plant. Mae'n addas i bobl sydd am ymuno â'r sectorau blynyddoedd cynnar neu ofal dysgu a datblygu plant ac yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gyfer gweithwyr sydd eisoes yn gweithio o fewn y sector.

Lefel 2 – i'r rheini sy'n gweithio o dan oruchwyliaeth fel cymhorthydd mewn ysgol feithrin neu gymhorthydd mewn cylch chwarae. Mae'r gweithwyr hyn yn rhoi gofal sy'n cefnogi datblygiad corfforol, deallusol, ieithyddol a chymdeithasol y plant.

Lefel 3 – i'r rheini sy'n gweithio ar eu liwt eu hunain, yn cynllunio a threfnu eu gwaith eu hunain a/neu goruchwylio eraill er enghraifft, gweithiwr mewn ysgol feithrin, arweinydd cylch chwarae neu ofalwr yn y cartref. Bydd y gweithwyr hyn hefyd yn rhoi gofal sy'n cefnogi datblygiad corfforol, deallusol, ieithyddol, emosiynol a chymdeithasol y plant ond yn gweithio yn fwy annibynnol ac â pheth gweithgaredd datblygiadol neu oruchwylio ar gyfer staff eraill.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

07593 580 051 / 08450 460 460 neu busnes@gllm.ac.uk

Bywgraffiad

Megan Lewis. Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant

Dechreuodd Megan ar ei Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant fis Awst 2019 pan oedd yn gweithio mewn meithrinfa ddydd. Pan ddaeth y pandemig, daliodd Megan ati i fod yn weithiwr allweddol yn y feithrinfa drwy gydol y rhan fwyaf o'r cyfnod clo gan weithio mewn cartref gofal yn ogystal. Yn ystod y cyfnod hwn, daliodd Megan i ganolbwyntio ar ei Diploma gan barhau i gyrraedd ei thargedau.

Yn ôl Megan "mae astudio ar gyfer y cymhwyster lefel 3 wedi fy helpu i gael swydd lawn amser yn y tîm babanod. Wrth ddilyn y cwrs, rydw i wedi meithrin sgiliau newydd ac wedi magu hyder yn fy swydd. Rydw i wedi gwneud cymaint o gynnydd yn fy swydd ar ôl ennill fy nghymhwyster lefel 3."

"Mi wnes i fwynhau dilyn y cwrs lefel 3 gan fod fy asesydd mor hyfryd a hawdd gwneud efo hi; dim ond i mi anfon neges ati, roedd hi wastad yno os oeddwn angen i help. Mi fyddai bob amser yn rhoi adborth da i mi ac yn fy ngwthio i wneud fy ngorau yn fy ngwaith. Mi fyddai'n gwneud i mi deimlo'n gyfforddus pan fyddai hi'n dod i arsylwi arnaf. Ar y cyfan mae wedi bod yn gwrs llwyddiannus."

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ar gyfer Lefel 2, ond mae'n ofynnol i chi fod yn gweithio ym maes gofal plant. Ar Lefel 3, mae'n rhaid i chi allu dangos sgiliau goruchwylio.
  • Bod dan gontract i weithio o leiaf 16 awr yr wythnos.
  • Rhaid i'ch cyflogwr allu bodloni meini prawf y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF).
  • Rhaid bod gennych ganlyniadau WEST (Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru) digonol.
  • Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol

Cyflwyniad

  • Yn ddibynnol ar eich canlyniadau TGAU, efallai y bydd angen i chi fynychu dosbarthiadau 'Cymwysterau Sgiliau Hanfodol' yn y coleg
  • Bydd disgwyl i chi fynychu sesiynau theori ar-lein ar gyfer y cymhwyster craidd Lefel 2. Cynigir y rhain fin nos ac yn ystod y dydd er mwyn bodloni gofynion eich patrymau gwaith

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth (gan ddefnyddio'r e-bortffolio OneFile)
  • Darperir y cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant mewn dwy ran.
  • Mae'r cymhwyster craidd Lefel 2 yn orfodol ar gyfer y cymwysterau lefel 2 a 3.
  • Bydd gofyn i chi ymchwilio i bum uned graidd. Pan fyddwch yn barod i gwblhau'r cymhwyster craidd bydd gofyn i chi sefyll prawf ar dair astudiaeth achos ac un prawf amlddewis dan amodau arholiad ar un o safleoedd y coleg.
  • Ar ôl cwblhau'r cymhwyster L2 craidd byddwch yn symud ymlaen i'r cymhwyster L2/L3 Ymarfer ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant lle bydd asesydd yn eich arsylwi er mwyn cadarnhau eich cymhwysedd. Bydd angen i chi hefyd adfyfyrio ar eich ymarfer a chynllunio a pharatoi ar gyfer eich arsylwadau trwy gyflawni tasgau strwythuredig.
  • Gall fod yn ofynnol i chi gwblhau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn cyfathrebu a chymhwyso rhif. (Yn ddibynnol ar eich canlyniadau TGAU)

Dilyniant

O Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3. Gall Prentisiaeth Lefel 3 arwain at brentisiaeth gradd (ond i symud ymlaen i gymhwyster lefel 3 mae'n rhaid i chi fod mewn swydd oruchwyliol).

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 2+3

Maes rhaglen:

  • Children’s Development & Education

Dwyieithog:

Mae'r cwrs hwn ar gael yn ddwyieithog.

Children’s Development & Education

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Children’s Development & Education

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth