CIM Dyfarniad Lefel 4 mewn Cynllunio Ymgyrchoedd (Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    10 wythnos

Gwnewch gais
×

CIM Dyfarniad Lefel 4 mewn Cynllunio Ymgyrchoedd (Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Proffesiynol

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

I gwblhau cwrs CIM Lefel 4 bydd angen i chi fod mewn rôl farchnata iau mewn sefydliad neu farchnatwr o fewn BBaCh.

Mae'r modiwl hwn yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi gynllunio a gweithredu ymgyrchoedd llwyddiannus sy'n sicrhau canlyniadau gwirioneddol i sefydliad. Byddwch yn dysgu’r broses cynllunio ymgyrch gan gynnwys sut i ddadansoddi sefyllfa bresennol sefydliad. Byddwch hefyd yn dysgu sut i osod amcanion ymgyrch, gweithredu ymgyrch yna mesur a gwerthuso ei llwyddiant i gynorthwyo gwelliant parhaus yn y byd marchnata sy'n newid yn gyflym.

Dyma’r manteision o astudio cwrs CIM:

  • Ennill cymhwyster marchnata proffesiynol cydnabyddedig sy'n agor rhagolygon gyrfa a swyddi newydd
  • Ennill sgiliau marchnata newydd
  • Rhowch y sgiliau newydd ar waith yn eich rôl
  • Adeiladu eich galluoedd marchnata proffesiynol
  • Datblygu sgiliau cyfathrebu gwell gyda'ch cwsmeriaid

Gofynion mynediad

Bydd angen o leiaf blwyddyn o brofiad yn y diwydiant neu gymhwyster Lefel 3 perthnasol i astudio'r Dystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol neu Dystysgrif mewn Marchnata Digidol Proffesiynol.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs hwn yn dechrau ar 16eg Ebrill 2024 ac yn cael ei gyflwyno bob dydd Mawrth o 9.30yb tan 2.30yh am 10 wythnos.

Addysgir y cwrs hwn gan ddefnyddio ystafell ddosbarth ar-lein, gyda mynediad at adnoddau, gwaith grŵp, astudiaeth bersonol a chymorth tiwtor. Rhoddir cefnogaeth i ysgrifennu'r aseiniad i'r rhai sydd angen.

Asesiad

Asesir trwy aseiniad seiliedig ar waith, a all fod yn seiliedig ar sefydliad o'ch dewis.

Dilyniant

  • CIM Dyfarniad Lefel 4 mewn Marchnata Cymhwysol
  • CIM Dyfarniad Lefel 4 mewn Technegau Marchnata Digidol
  • CIM Tystysgrif Lefel 4 mewn Marchnata Digidol Proffesiynol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Business and Management

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Business and Management

Myfyrwyr mewn llyfrgell