Cwrs Diweddaru DPP - CISRS i Sgaffaldwyr

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 ddiwrnod

Gwnewch gais
×

Cwrs Diweddaru DPP - CISRS i Sgaffaldwyr

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Lluniwyd y cwrs hwn i ddiweddaru gwybodaeth bresennol y dysgwyr, i sicrhau bod y dysgwyr yn gwybod am unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth ac arferion gweithio da ac i gynnig hyfforddiant ychwanegol er mwyn sicrhau bod eu sgiliau yn cyd-fynd â chynnwys y cyrsiau CISRS cyfredol i Sgaffaldwyr ac Uwch Sgaffaldwyr.

Amserlen y Cwrs: Cyflwyniad a chroeso, Amcanion y cwrs, Iechyd a Diogelwch Cyffredinol ar Safle Arferion amgylcheddol da, Archwilio sgaffald Hyfforddiant Tŵr Aloi
Arfer da gyda Sgaffald Cyfrifoldebau Gwaith Dros Dro, Prawf Iechyd a Diogelwch ac Ymddygiad ym maes gwaith Sgaffald, Crynodeb a Gorffen

Gofynion mynediad

Mae’r cwrs hwn yn addas i rai sydd â cherdyn Sgaffaldiwr a Sgaffaldiwr Uwch CISRS yn barod ac sy'n dymuno adnewyddu eu cardiau. Nodwch - dim ond y rhai sydd â chardiau sydd wedi dod i ben, neu gardiau a fydd yn dod i ben ddim mwy na chwe mis cyn dechrau'r cwrs sy'n gymwys i fynychu'r cwrs hwn.

Asesiad

Dysgu yn y dosbarth a gweithgaredd ymarferol: Cyflwynir y cwrs gan diwtor gan ddefnyddio cyflwyniadau PowerPoint, gweithgareddau a thrafodaeth unigol ac mewn grŵp yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal â gweithgareddau ymarferol.

Dilyniant

Cyrsiau eraill y Grŵp

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Arbenigol/Arall
  • Iechyd a Diogelwch

Dwyieithog:

No

Iechyd a Diogelwch

Dau fyfyriwr yn trafod gwaith ar liniadur