CITB Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod

Gwnewch gais
×

CITB Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch

Cyrsiau Byr

CIST-Llangefni
Dydd Mercher, 04/12/2024

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs CITB Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch yn addas ar gyfer pobl sydd eisiau gweithio neu sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant adeiladu a pheirianneg sifil. Mae'r cwrs ychwanegol ar ddiogelwch ar safle yn rhoi gwybodaeth a chrynodeb ymarferol o iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr a'r cyhoedd.

Mae'r cwrs yn trafod eu cyfrifoldebau a'u dyletswyddau a'r hyn dylen nhw ei wneud os bydd perygl i iechyd a diogelwch unigolyn.

Amcanion y cwrs:

Ar ddiwedd y cwrs Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch bydd myfyrwyr llwyddiannus yn deall:

  • Y rheswm dros gyflawni dyletswyddau penodol
  • Yr hyn a ddisgwylir ganddynt yn eu rôl
  • Sut y dylent gyfrannu at iechyd a diogelwch yn y gweithle

Trosolwg o'r Cwrs:

Bydd y cwrs CITB Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch yn trafod yr isod: -

  • Yr angen i rwystro damweiniau
  • Dealltwriaeth gyfreithiol o iechyd a diogelwch
  • Adnabod cyfraniad rôl pob gweithiwr i reolaeth a gwaith rheoli safle
  • Deall yr angen am asesiadau risg a datganiadau dull
  • Dealltwriaeth o'r angen i weithio'n ddiogel ac i aros a gofyn am gyngor pan fydd angen gwneud hynny
  • Y ddyletswydd i adrodd am weithredoedd peryglus er mwyn rhwystro damwain


Dyddiadau Cwrs

CIST-Llangefni

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
04/12/202409:00 Dydd Mercher7.001 £1200 / 12D0018802

Cyflwyniad

Byddwch yn dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o addysgu ac ymarferion ymarferol yn y dosbarth.

Asesiad

Bydd asesiad y cwrs yn cynnwys 25 o gwestiynau amlddewis, 3 yn canolbwyntio ar ddiogelwch. Gofynnir am leiafswm o 86% i gael cymhwyster (20 o 25) a rhaid ateb pob un o'r cwestiynau diogelwch yn gywir.

Dilyniant

Gallech ddewis un o blith amryw o gyrsiau gwahanol sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Cwblhau prawf CSCS HSE (Sgrin Gyffwrdd) er mwyn gwneud cais am eich cerdyn CSCS.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Diogelwch

Dwyieithog:

n/a

Iechyd a Diogelwch

Dau fyfyriwr yn trafod gwaith ar liniadur