City and Guilds Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaeth Cwsmer
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
12-18 mis
City and Guilds Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaeth CwsmerRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Os ydych yn gweithio ym maes Gwasanaeth i Gwsmeriaid ac am ddarparu'r gwasanaeth gorau bosibl, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd anodd a chymhleth, ac os ydych wastad yn chwilio am ffyrdd i wella'ch perfformiad er mwyn i'r sefydliad barhau'n gystadleuol, dyma'r cwrs i chi.
Gofynion mynediad
- Cyflogaeth yn y maes Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Caiff cynllun dysgu unigol ei lunio mewn ymgynghoriad â chi a'ch rheolwr a bydd asesydd yn ymweld â chi'n rheolaidd yn y gweithle. Byddwch yn creu portffolio o dystiolaeth i ddangos sut yr ydych yn bodloni'r Safonau Cenedlaethol yn eich gwaith bob dydd ac i ddangos eich bod yn ymwybodol o ddeddfwriaeth berthnasol.
Asesiad
Byddwch yn cyflwyno i'ch asesydd dystiolaeth o sefyllfaoedd gwaith y gwnaethoch ddelio â hwy. Gall y dystiolaeth gynnwys :
- Astudiaethau Achos
- Cwestiynau ac Atebion
- Trafodaethau
- Negeseuon e-bost neu lythyrau i ategu'ch tystiolaeth ysgrifenedig
- Tystiolaeth Tystion gan eich cydweithwyr neu'ch rheolwr atebol
Bydd eich llyfrau gwaith, ynghyd â'r gwaith ymarferol a wnewch tuag at eich NVQ, yn cael eu marcio gan asesydd yn y gweithle a'u safoni gan y dilysydd mewnol.
Dilyniant
Mae cyfleoedd gwych i fynd ymlaen i astudio am gymhwyster Addysg Uwch megis Gradd Sylfaen ym maes Busnes.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Business and Management
Dwyieithog:
Cymraeg neu Saesneg
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: