Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Gwallt Priodasol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Gyda'r nos neu yn y prynhawn. 3 awr yr wythnos i gynnwys gwybodaeth theori a sgiliau ymarferol. 12 wythnos.
£190 gan gynnwys ffi arholiad
Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Gwallt PriodasolRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Cwrs byr proffesiynol - mae'r Dyfarniad mewn Steilio Gwallt Priodasol wedi'i anelu at unigolion sydd eisiau ehangu eu sgiliau gosod y gwallt i fyny a gwella eu hyder gyda steilio gwallt priodasol.
Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi i chi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddefnyddio gwahanol dechnegau i osod y gwallt i fyny a chreu gwahanol edrychiadau.
Byddwch yn llunio llyfr steiliau i adlewyrchu'r technegau a ddysgwyd ac yn ei gyflwyno fel aseiniad i'w farcio.
Bydd arnoch angen tri model gwallt hir ar gyfer eich asesiadau gan greu tri edrychiad gwahanol.
Ar y cwrs hwn, cewch ddysgu pa steiliau priodasol sy’n ffasiynol, gan feithrin technegau newydd a sgiliau traddodiadol. Byddwch yn magu hyder ac yn cael syniadau newydd ar gyfer trin gwallt priodasferch. Mae'r cwrs yn addas ar gyfer unrhyw un sydd am ddatblygu ei sgiliau trin gwallt neu sydd am ddysgu sut i greu steiliau gwallt hir clasurol ffasiynol a chyfoes sy'n berffaith ar gyfer priodferched. Bydd y cwrs hwn yn eich ysbrydoli i greu steiliau priodasol arbennig, gan gynnwys edrychiadau ar gyfer y dydd a'r min nos.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys:
- Steilio gwallt hir gan gynnwys rholiau, clymau, troelliadau, plethi, cyrlau ac effeithiau gwehyddu
- Darnau gwallt, addurniadau - defnyddio darnau ac addurniadau dros dro i greu steiliau trawiadol
- Creu steiliau priodasol clasurol a chyfoes
Gofynion mynediad
Rhaid i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig, yn ymrwymedig a gyda dawn artistig.
Nid oes angen unrhyw brofiad arnoch, oherwydd efallai bod gennych ddiddordeb mewn gwallt priodasol eisoes
Angen llythrennedd sylfaenol.
Bydd gofyn i bob dysgwr ddod â'u pen model gwallt hir ar gyfer ymarfer a'u taclau trin gwallt eu hunain.
Cyflwyniad
- Tasgau ymarferol a gweithdy
- Theori
Asesiad
- Tasgau ymarferol / arsylwi
- Aseiniad
Dilyniant
Gallai'r cymhwyster hwn eich helpu i gael swydd fel steilydd gwallt priodasol neu symud ymlaen i gymhwyster trin gwallt Lefel 2.
Dilyniant i:
- VRQ / NVQ Lefel 2 mewn Trin Gwallt
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
3