Diploma NVQ Lefel 3 City & Guilds mewn Coginio Proffesiynol (Paratoi a Choginio)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Diploma NVQ Lefel 3 City & Guilds mewn Coginio Proffesiynol (Paratoi a Choginio)Llawn Amser (Addysg Bellach)
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bwyd ac awydd i weithio yn un o ddiwydiannau mwyaf cyffrous y byd, efallai mai dyma'r cwrs i chi gael ehangu eich sgiliau a'ch gwybodaeth. Mae'r swyddi sydd ar gael yn y diwydiant yn amrywio o gogyddion cyffredinol i gogyddion sous a phrif gogyddion, i enwi dim ond rhai.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- Cymhwyster Lefel 2 perthnasol
- Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif
- Profiad perthnasol mewn diwydiant
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd
- Sesiynau trafod a dosbarthiadau tiwtorial
- Gwaith grŵp
- Profiad gwaith
- Ymweliadau â diwydiant
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol
- Unedau Agored
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
- Asesiadau ymarferol
- Gwaith portffolio
- Profiad o'r diwydiant
Dilyniant
Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn rhoi dewisiadau amrywiol i chi o ran addysg a chyflogaeth.
Byddwch wedi meithrin sgiliau uwch a dysgu am safonau'r diwydiant, gan ei gwneud yn bosibl i chi weithio tuag at yrfaoedd amrywiol yn syth ar ôl i chi gwblhau'r cwrs.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach), Rhan amser
Lefel:
3
Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :
- Bangor