CompTIA ITF+ Hanfodion TG (FCO-U61 Core Series)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Online
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
12 mis
CompTIA ITF+ Hanfodion TG (FCO-U61 Core Series)Proffesiynol
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae CompTIA ITF+ yn cynorthwyo gweithwyr i benderfynu ydy gyrfa ym maes TG yn addas iddyn nhw, neu gall fod yn gyfle i ddatblygu gwell dealltwriaeth o TG.
ITF+ ydy'r unig dystysgrif cyn dechrau ar yrfa sy'n cynorthwyo myfyrwyr neu unigolion sy'n newid gyrfa i benderfynu ar eu gallu ym maes technoleg gwybodaeth neu benderfynu ai dyma'r yrfa iddyn nhw.
ITF+ ydy'r unig dystysgrif unigol sy'n ymdrin â phob maes sylfaenol TG, gan ddatblygu dealltwriaeth ehangach o TG. Mae hynny'n golygu ei fod yn berffaith ar gyfer gweithwyr heb gefndir technegol.
Mae ITF+ yn sefydlu fframwaith addysg TG i fyfyrwyr mewn lleoliadau eilaidd a thu hwnt i leoliadau eilaidd.
Mae’r cwrs hwn ar gael i drigolion sy’n byw yn chwe sir Gogledd Cymru sef Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Sir y Fflint a Wrecsam.
Gofynion mynediad
Dim.
Cyflwyniad
Darperir ar-lein drwy gyfrwng e-ddysgu.
Asesiad
Arholiad ar-lein swyddogol o bell
Dilyniant
Bydd cwblhau tystysgrif CompTIA IT Fundamentals+ yn golygu y gallwch ddangos i gyflogwyr eich bod yn gallu defnyddio'r adnoddau TG y bydd eich sefydliad yn eu defnyddio, yn gallu arddangos eich sgiliau technolegol, ac yn golygu y byddwch o fudd i'r busnes.
Y dystysgrif ydy'r cam cyntaf tuag at yrfa ym maes TG ac, ynghyd â thystysgrifau CompTIA eraill gallwch fynd ymlaen i weithio mewn meysydd fel:
- Dadansoddwr Cymorth TG Iau
- Technegydd Cymorth TG
- Peiriannydd Rhwydwaith Iau
- Datblygwr Meddalwedd Iau
- Dadansoddwr Iau ym maes Busnes
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol
Lefel:
3