Technoleg Cerddoriaeth ar Gyfrifiadur

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    8 wythnos - 2 awr yr wythnos.

Gwnewch gais
×

Technoleg Cerddoriaeth ar Gyfrifiadur

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Awydd creu cerddoriaeth gan ddefnyddio cyfrifiadur? Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr yn ogystal â'r rhai a hoffai ddatblygu eu sgiliau ymhellach. Bydd y cwrs hwn yn dysgu'r sgiliau hanfodol sy'n ofynnol drwy gyfrwng arddangos a gwneud gwaith ymarferol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â David Clarke: clarke1d@gllm.ac.uk

Gofynion mynediad

Dim.

Cyflwyniad

Cyflwynir trwy'r tiwtor yn dangos sut i greu cerddoriaeth ar gyfrifiadur a meithrin sgiliau trwy waith ymarferol.

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gwblhau tair tasg yn llwyddiannus:

  • Paratoi'r cyfrifiadur ar gyfer recordio a chymysgu
  • Golygu sain a MIDI (gwybodaeth nodau) gan ddefnyddio cyfrifiadur
  • Creu darn o gerddoriaeth.

Dilyniant

Mynd ymlaen i gyrsiau eraill rhan-amser neu lawn amser Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth yng Ngholeg Llandrillo.

Mwy o wybodaeth

Lefel: 0