Coleg Llandrillo, Abergele
Dydd Llun, 28/04/2025
Cyfrifiadura a Sgiliau Digidol - Dechreuwyr
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele, Bangor, Llangefni, HWB Dinbych, Lleoliad Cymunedol, Llyfrgell Bae Colwyn, Caernarfon, Caergybi, Conwy Library, Guide Hall, Llanrwst, Llandudno Library, Prestatyn Library, Rhyl Library, Neuadd Pendre - Tywyn, The Dragon Theatre - Barmouth, Ty Cyfle - Bangor High Street
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Cynhelir y cwrs dros ystod o oriau ac wythnosau.
×Cyfrifiadura a Sgiliau Digidol - Dechreuwyr
Cyfrifiadura a Sgiliau Digidol - DechreuwyrRhan amser
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae ein cyfres o gyrsiau llythrennedd digidol yn addas i'r sawl sydd am ddysgu sut i ddefnyddio technoleg mewn amgylchedd hamddenol ac anffurfiol. Cyflwynir y sesiynau gan diwtoriaid cyfeillgar fydd yn cynllunio eu gwersi i fodloni diddordebau'r myfyrwyr, pa un ai a ydynt yn astudio er mwyn datblygu eu gyrfa neu er pleser yn unig.
- Byddwch yn dysgu am hanfodion defnyddio cyfrifiadur neu ddyfais. Bydd hyn yn cynnwys sgiliau sylfaenol teipio a defnyddio bysellfwrdd i lunio dogfennau.
- Byddwch hefyd yn dysgu: sut i gadw'n ddiogel ar-lein, am eich ôl-troed digidol, rhyngweithio ag eraill ar-lein a defnyddio nodweddion diogelwch ar ddyfeisiau.
- Byddwch yn dysgu sut i reoli eich gwybodaeth ddigidol o ffeiliau a ffotograffau i dudalennau gwe.
- Byddwch yn creu/defnyddio cyfrif e-bost i gyfathrebu ag eraill ac i gofrestru ar gyfer gwasanaethau ar-lein.
- Mae croeso i chi ddod â'ch dyfais eich hun i'r sesiynau.
Gall pynciau amrywio ar wahanol gampysau.
Dyddiadau Cwrs
Coleg Llandrillo, Abergele
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
28/04/2025 | 18:00 | Dydd Llun | 2.50 | 7 | Am ddim | 2 / 10 | CCD163449A |
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Cyflwyniad
- Dysgu yn y dosbarth
- Gwaith grŵp
Asesiad
- Perfformio ac arsylwi
- Dangos sgiliau ymarferol
- Portffolios gwaith
Dilyniant
- Cyfrifiadura a Sgiliau Digidol - Cwrs Gloywi
- Byddai modd i chi fynd yn eich blaen i astudio nifer o raglenni gyda Grŵp Llandrillo Menai.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
0