Prentisiaeth Uwch - Adeiladu/Rheoli Safle Peirianneg Sifil
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos, 09:00 - 16:00 ynghyd ag amser asesu ychwanegol yn y gwaith
Prentisiaeth Uwch - Adeiladu/Rheoli Safle Peirianneg SifilPrentisiethau
I gael gwybodaeth bellach neu i wneud cais am brentisiaeth, cliciwch y botwm isod a chwblhau'r ffurflen.
Ffurflen ymholi am brentisiaethDisgrifiad o'r Cwrs
Mae’r Brentisiaeth Lefel Uwch mewn Goruchwylio Safle Adeiladu/Peirianneg Sifil (Adeiladu) – Lefel 4 (HNC) wedi’i datblygu i ddiwallu anghenion y sectorau canlynol, Peirianneg Adeiladu a Sifil, Atgyweirio Priffyrdd a Chynnal a Chadw, Datblygiad Preswyl, Cadwraeth, Dymchwel a Thwnelu. Mae'r ystod eang hon o feysydd galwedigaethol wedi'u cynllunio i asesu cymhwysedd galwedigaethol yn y gweithle a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth trwy'r dystysgrif dechnegol, ar gyfer ymgeiswyr sydd â phrofiad blaenorol priodol o waith yn y sectorau a nodwyd.
Bydd y Brentisiaeth Lefel 4 Uwch yn mynd i’r afael â’r canlynol:
- Darparu dilyniant o Oruchwyliaeth Gwaith Galwedigaethol
- Darparu dilyniant i Lefel 5 ac uwch
- Caniatáu mynediad i raglenni gradd
- Cynorthwyo i gadw a darparu llwybr ar gyfer gweithwyr profiadol
- Gwella sgiliau goruchwylio, rheoli ac arwain
Cyflwynir y dystysgrif dechnegol hon ar dir y coleg un diwrnod yr wythnos, ochr yn ochr â sesiynau arweiniad ac adolygu ar gyfer casglu tystiolaeth yn y gwaith sydd ei hangen i gwblhau'r CGC.
Cyflwynir y dystiolaeth hon i lwyfan ar-lein sy'n galluogi mynediad cyson i'r portffolio a ffordd gyfannol o reoli'r meini prawf. Mae cynlluniau dysgu unigol yn rhoi cyfeiriad clir i bob prentis o ran eu cynnydd gydag adolygiadau rheolaidd yn rhoi cyfle i gyflogwyr fonitro eu buddsoddiad.
Gofynion mynediad
Hanfodol: Rhaid bod gan ymgeiswyr o leiaf dwy flynedd o brofiad yn y diwydiant ac ar hyn o bryd mewn swydd oruchwylio i fod yn gymwys ar gyfer y llwybr hwn.
TGAU mewn Saesneg/Cymraeg iaith neu lenyddiaeth hyd at o leiaf gradd C, neu Sgiliau Hanfodol cyfatebol
TGAU mewn Mathemateg hyd at o leiaf gradd C, neu Sgiliau Hanfodol cyfatebol
Cymwysterau addas eraill fel: Cymhwyster Safon Uwch/UG mewn Cymraeg/Saesneg neu lenyddiaeth hyd at o leiaf gradd D
Cymhwyster Safon Uwch/UG mewn Mathemateg hyd at radd D o leiafTystysgrif NVQ Lefel 2 mewn Gweithrediadau Adeiladu
NVQ Lefel 3 diwydiant perthnasol
Prentisiaeth Lefel 3 diwydiant perthnasol
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy ddysgu cyfunol:
- Darlithoedd
- Seminarau
- Tiwtorialau
- Ymweliadau safle
- Teithiau maes
- Cymhwyso sgiliau a gwybodaeth yn ymarferol
- Profiad gwaith
Asesiad
Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Aseiniadau
- Tasgau ymarferol
- Cyflwyniadau
- Arholiad Allanol
Portffolio yn cynnwys tystiolaeth sy’n seiliedig ar waith
Dilyniant
Bydd ystod eang o gyfleoedd y gall prentisiaid fod yn rhan ohonynt mewn llwybr gyrfa strwythuredig, megis Adeiladu, Peirianneg Sifil a galwedigaethau Arbenigol.
Mae llwybrau dilyniant yn cynnwys Diploma NVQ Lefel 6 mewn Gweithrediadau Contractio Adeiladu neu Ddiploma Lefel 6 NVQ mewn Rheoli Safle Adeiladu.
Fel arall, gellid dilyn dilyniant i gymwysterau Addysg Uwch megis Gradd Sylfaen mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig, Peirianneg Sifil, Rheoli Adeiladu, Cadwraeth ac Adfer, Mesur Meintiau, Pensaernïaeth/Dylunio, Technoleg Bensaernïol neu Syrfeo Adeiladau.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
4