Diploma Estynedig Technegol Uwch mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth (Lefel 3)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Glynllifon
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    Llawn Amser dros 2 flynedd. Mae’r cwrs fel arfer yn 4 diwrnod yr wythnos gyda 4 wythnos o brofiad gwaith ar ddiwedd blwyddyn 1.

Gwnewch gais
×

Diploma Estynedig Technegol Uwch mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth (Lefel 3)

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Glynllifon

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n awyddus i gael gyrfa ym maes coedwigaeth, coedyddiaeth neu rheoli cefn gwlad a'r amgylchedd? Hoffech chi ddatblygu'ch sgiliau ar lefel uwch?

Ar y cwrs, cewch ehangu'ch gwybodaeth am y sector, gan gynnwys agweddau ar fywyd gwyllt, cynefinoedd, ecoleg, chadwraeth, rheoli coedwigoedd a choedyddiaeth. Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi i ddilyn amrediad o yrfaoedd, gan gynnwys rhai sy'n ymwneud â sefydliadau cefn gwlad, eu polisïau a'u trefnau cynllunio, a'u perthynas â chyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru, yr RSPB, chynghorau lleol, Parciau Cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gwaith ystadau, contractio ym maes coedwigaeth a thrin coed. Mae hefyd yn llwybr galwedigaethol i Addysg Uwch.

Mae'r cwrs yn addas i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cwrs Lefel 2 perthnasol, i rai sydd newydd sefyll eu TGAU, neu i rai sydd â phrofiad blaenorol. Mae'r cwrs yn adlewyrchu angen y sector am reolwyr cefn gwlad a rheolwyr coedwigoedd cymwys sydd wedi derbyn hyfforddiant trylwyr. Canolbwyntia ar ddysgu drwy brofiad, gan gynnwys sesiynau hyfforddiant a gwaith ymarferol ar ystâd helaeth Glynllifon. Byddwch yn elwa ar y cyfleusterau rhagorol sydd ar ein campws ac ar arbenigedd ein staff.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 4 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af)
  • Gradd Teilyngdod mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Hyfforddiant ymarferol i feithrin sgiliau mewn technegau rheoli cefn gwlad/coedwigoedd
  • Gwersi yn y dosbarth i feithrin dealltwriaeth o systemau rheoli a'r ffordd y defnyddir hwy
  • Cyflwynir y cwrs yn ddwyieithog a bydd deunyddiau dysgu ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg

Saif Glynllifon ar 750 acer o dir amaethyddol a choetir. Bydd y sesiynau ymarferol yn gwneud defnydd llawn o'r adnoddau hyn ynghyd â'n cyfleusterau modern ar gyfer cynaeafu a phrosesu coed.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:

● Aseiniadau
● Asesiadau Synoptig
● Arholiadau

Dilyniant

  • Goruchwylio coedwigoedd
  • Rheoli Coetiroedd
  • Trin coed
  • Contractio ym maes coedwigaeth
  • Gwaith ystadau
  • Rheoli cefn gwlad
  • Parciau Cenedlaethol
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Awdurdodau Lleol
  • Prifysgol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Glynllifon