Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol a Datblygu Gemau Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol a Datblygu Gemau Lefel 2Llawn Amser (Addysg Bellach)
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Oes gennych chi ddiddordeb mewn Datblygu Cyfryngau Creadigol a Gemau?
Gall y rhaglen hon fynd â chi gam yn nes at ymuno â byd cyffrous cynhyrchu cyfryngau. Byddwch yn dysgu ffilmio a golygu fideos byr, dylunio a chreu gemau ar-lein ac atgynhyrchu ac arddangos eich gwaith ffotograffiaeth.
Byddwch hefyd yn dysgu sut i gyfleu eich syniadau, gan dargedu cynulleidfaoedd penodol a chan ymchwilio i sector y cyfryngau a'r swyddi sydd ar gael yn y diwydiant.
Cynhelir y darlithoedd mewn adeilad modern, pwrpasol sy'n cynnwys gweithdai llawn cyfarpar arbenigol a chyfleusterau dysgu ym maes Amlgyfryngau ac Astudio'r Cyfryngau.
Yn ogystal â dysgu pethau diddorol am y byd gweledol, clywedol ac electronig, cewch hyfforddiant hanfodol mewn defnyddio rhaglenni ymarferol allweddol. Byddwch hefyd yn cywain gwybodaeth hanfodol am y busnes cyfryngau a'r effaith a gaiff ar y byd heddiw.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- 3 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
- Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol
- Profiad perthnasol mewn diwydiant
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Gwaith grŵp
- Dysgu yn y dosbarth
- Cefnogaeth tiwtor
- Ymweliadau addysgol
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
Bydd y cyfleusterau ardderchog a'r dechnoleg ddiweddaraf (ystafell gyfryngau ac ynddi feddalwedd proffesiynol, adnoddau cynhyrchu gydag amryw o gamerâu, ac ystafell sain) yn golygu y bydd eich sgiliau'n gyfoes ac yn hynod o ddefnyddiol.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
- Cyflwyniadau ac arddangosiadau
- Portffolios gwaith
- Perfformio ac arsylwi
Dilyniant
Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
- Animeiddio 3D a Datblygu Gemau Lefel 3
- Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Lefel 3
- Cynhyrchu Cyfryngau Lefel 3 (Teledu a Ffilm)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
2
Dwyieithog:
n/a