Prentisiaeth - Gwasanaeth i Gwsmeriaid Lefel 2 & 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
- Lefel 2: 14 mis
- Lefel 3: 15 mis
Prentisiaeth - Gwasanaeth i Gwsmeriaid Lefel 2 & 3Prentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r Brentisiaeth Gwasanaeth i Gwsmeriaid a'r Brentisiaeth Sylfaen yng Nghymru yn ymateb i angen cyflogwyr am well sgiliau ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid mewn ystod eang o sefydliadau. Gellir trosglwyddo'r sgiliau o sector i sector a'u defnyddio mewn llawer o swyddi.
Mae'r Prentisiaethau wedi eu hanelu'n bennaf at unigolion sy'n gweithio'n benodol ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid e.e. gall Prentisiaid Sylfaen fod yn Hyfforddeion, yn Gynorthwywyr ac yn Gynrychiolwyr/Asiantiaid yn y maes hwnnw a gall Prentisiaid fod yn Rheolwyr, yn Gydlynwyr ac yn Arweinwyr Tîm ym maes Cysylltiadau â Chwsmeriaid.
Bydd nifer o gyflogwyr hefyd yn dewis Prentisiaethau Gwasanaeth i Gwsmeriaid i ategu sgiliau technegol unigolion - e.e. gall Prentisiaid Sylfaen hefyd fod yn Werthwyr Tai, yn Nyrsys Meithrin neu'n Werthwyr Blodau ac ati a gall Prentisiaid fod yn Gynorthwywyr Gofal, yn Gynorthwywyr Dosbarthu mewn Fferyllfa, yn Nyrsys Deintyddol neu'n Weithwyr mewn Sinema.
Gofynion mynediad
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad ym maes Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn ddymunol.
- Dylai fod gan brentisiaid gyflogwr a fedr ateb gofynion meini prawf yr NVQ.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
- Fel rheol, caiff y fframwaith ei gyflwyno yn y gweithle.
- Mae'n bosib y bydd angen i ddysgwyr fynychu'r Coleg fel y cytunir â'r Aseswyr.
Asesiad
- Asesiad o bortffolio
- Arsylwadau ar waith ymarferol
Dilyniant
O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
2+3
Maes rhaglen:
- Business and Management
Dwyieithog:
Cymraeg neu Saesneg
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: