Cyrsiau Undydd (STEPS) - Dolgellau
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dolgellau
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Mae y rhan fwyaf o'r cyrsiau yma am hanner diwrnod ac am 28 wythnos y flwyddyn .
Cyrsiau Undydd (STEPS) - DolgellauRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cyrsiau yma ar gyfer dysgwyr sydd gydag anghenion cefnogaeth ychwanegol, er mwyn iddynt gael cymorth i fanteisio ar fyw bywyd llawn.
Dyma'r cyrsiau sydd ar gael :
- Coginio
- Cerdd a Pherfformio
- Gwaith Coed
- Menter a Chrefftau
- Garddio (sydd yn gwrs diwrnod cyfan)
Bydd pwyslais ar ddatblygu hyder ac annibyniaeth.
Byddwn yn codi ffi am y cwrs (cysylltwch am fanylion).
Gofynion mynediad
Dim anghenion mynediad ffurfiol.
Cyflwyniad
Gweithgareddau ymarferol.
Cewch eich dysgu mewn grwpiau bach, ac awyrgylch gartrefol, hwyliog a chymdeithasol. Bydd pwyslais ar ddysgu pob unigolyn i'r lefel priodol.
Asesiad
Byddwn yn gweithio at gymhwysterau allanol .Byddwn yn casglu tystiolaeth o'r gwaith ar gyfer ei asesu.
Dilyniant
Parhau ar y cwrs am flwyddyn er mwyn datblygu sgiliau pellach
Neu
Gallwch ystyried dewis cwrs undydd mewn maes gwahanol.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Dwyieithog:
n/a