Datgarboneiddio Cartrefi: Rôl Inswleiddio (Modiwl unigol)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu o bell
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Byddem yn argymell neilltuo o leiaf 70 awr o amser astudio i gwblhau'r cwrs Datgarboneiddio Cartrefi llawn, a rhwng 15 ac 20 awr arall ar gyfer asesiadau.
Byddem yn awgrymu neilltuo 7 awr ar gyfer astudio'r modiwl hwn, a 2-3 awr ychwanegol ar gyfer asesiadau.
Datgarboneiddio Cartrefi: Rôl Inswleiddio (Modiwl unigol)Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Bydd y ddealltwriaeth a'r wybodaeth a geir o'n hyfforddiant yn berthnasol i unrhyw un a all fod yn cynghori neu'n cefnogi defnyddwyr sydd ar incwm isel neu'n fregus ynghylch gwres ac ynni adnewyddadwy neu garbon isel, gan gynnwys darparwyr tai, asiantau cynghori a gosodwyr.
Gall dysgwyr ddilyn y cwrs Datgarboneiddio Cartrefi cyfan a chwblhau asesiad i ennill y cymhwyster Lefel 4. Fel arall, gall dysgwyr gwblhau modiwlau unigol sy'n ymwneud yn benodol â'u gwaith gan dderbyn tystysgrifau credyd am bob adran a gwblheir.
Gofynion mynediad
Cwrs e-ddysgu yw hwn, felly bydd ar ddysgwyr angen sgiliau cyfrifiadura sylfaenol i gyrchu a defnyddio'r sleidiau.
Ar lefel 4, mae'r asesiadau ar-lein hefyd a bydd gofyn i'r dysgwyr ddangos gallu i werthuso gwybodaeth, dadansoddi data a chynnig atebion ar ffurf traethodau byr.
Disgwylir y bydd gan ddysgwyr y cwrs eisoes ddealltwriaeth dda o faterion cyffredinol sy'n ymwneud ag effeithlonrwydd ynni domestig a gwybodaeth am systemau gwresogi, mesur y defnydd o ynni, biliau tanwydd ac ati. Yn ddelfrydol, bydd y dysgwyr eisoes wedi ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Ymwybyddiaeth o Ynni.
Cyflwyniad
Mae'r cwrs ar gael drwy e-ddysgu. Mae'r cwrs cyfan yn cynnwys 8 modiwl pwnc ynghyd â modiwl rhagarweiniol byr.
Gall y dysgwyr ddewis cwblhau'r cwrs llawn neu ddewis modiwlau unigol, ond mae'n rhaid i bawb gwblhau'r modiwl rhagarweiniol.
Unwaith y bydd y dysgwyr wedi archebu'r cwrs, bydd pob modiwl ar gael iddynt am ddwy wythnos. Os ydych yn archebu mwy nag un modiwl, bydd y rhain ar gael yn olynol (h.y. 1 modiwl = 2 wythnos, 2 fodiwl = 4 wythnos ac ati).
Er bod yr e-ddysgu'n hunangyfeiriedig, gellir gofyn i diwtoriaid arbenigol yr NEA am gymorth.
Asesiad
Bydd y dysgwyr yn cael cyfle i gwblhau asesiad ar gyfer pob modiwl (nid oes asesiad yn y modiwl rhagarweiniol). Ar ôl cwblhau'r 8 modiwl a'r asesiadau'n llwyddiannus, bydd y dysgwr yn ennill cymhwyster Lefel 4 yr NCFE.
Yn ogystal, bydd tystysgrifau credyd ar gael i'r dysgwyr sydd am gwblhau modiwlau unigol yn hytrach na'r cwrs cyfan.
Bydd yr asesiadau’n rhai llyfr agored ac fe'u rhennir â'r dysgwyr fel ffurflen ar-lein. Nid oes dyddiadau wedi'u gosod i'r 'arholiadau'. Bydd y dysgwyr yn cwblhau'r asesiadau yn eu hamser eu hunain ac yn cyflwyno eu hatebion unwaith y maent yn barod.
Yr amser astudio a awgrymir ar gyfer pob asesiad yw rhwng 2 a 3 awr.
Dilyniant
Cyrsiau pellach y gellir eu dewis:
- Dyfarniad Lefel 2 mewn Rhoi Cyngor ar Ddyledion Tanwydd yn y Gymuned
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Ymwybyddiaeth o Ynni
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Datgarboneiddio Cartrefi: Technolegau, Effeithiau a Datrysiadau (angen modiwlau eraill i gwblhau'r cymhwyster llawn)
- Cyrsiau NEA eraill
- Cyrsiau eraill gan y Grŵp
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Maes rhaglen:
- Peirianneg