Ffotograffiaeth Ddigidol Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    30 wythnos, 3 awr yr wythnos

Cofrestrwch
×

Ffotograffiaeth Ddigidol Lefel 2

Rhan amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr sydd am ddatblygu sgiliau ffotograffiaeth a dealltwriaeth gyd-destunol o'u gwaith eu hunain er mwyn mynd ymlaen i Addysg Uwch, neu i yrfa ym maes ffotograffiaeth.

Mae'r cymhwyster NCFE yn cynnwys 3 uned graidd a byddwch yn astudio 2 ohonynt AC unedau dewisol y mae'n rhain astudio o leiaf 1 ohonynt.

Uned 01 - Uned Graidd: Archwilio offer, technegau, deunyddiau ac adnoddau ffotograffig

Bydd yr uned hon yn rhoi cyfle i ddysgwyr archwilio gwahanol feysydd mewn ffotograffiaeth, ac i ddysgu am y dewislenni a'r gosodiadau a geir ar gamera, a sut i'w defnyddio'n gywir, i osod gweithrediadau perthnasol ac i addasu'r rheolyddion er mwyn newid pethau fel cyflymder y caead, yr agorfa, cydbwysedd o ran golau gwyn a ffocws gwahanol lensys. Bydd y rhain yn cynnwys yr effeithiau gweledol a gaiff eu creu wrth ddefnyddio gwahanol lensys a chyflymder caead.

Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu cyfres o ffotograffau gan arbrofi gyda gwahanol dechnegau ffotograffig. Byddant yn defnyddio meddalwedd prosesu delweddau i gynhyrchu a gwerthuso cyfres o ddelweddau arbrofol. Byddant hefyd yn dysgu hanfodion arferion gweithio'n ddiogel.

Uned 02 - Uned Graidd: Datblygu ac addasu syniadau ffotograffig

Gan ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd yn Uned 1 bydd dysgwyr yn dechrau arbrofi â gwahanol ddulliau o greu corff o waith a gefnogir gan ymchwil i waith ffotograffwyr eraill ac yn cael eu hannog i wneud cysylltiadau rhwng y gwaith hwnnw a'u syniadau eu hunain. Byddant yn gallu disgrifio'r dulliau a'r iaith weledol a ddefnyddiwyd gan y ffotograffwyr o'u dewis, gan ddefnyddio'r rhain yn sylfaen i'w prosiectau ffotograffig eu hunain. Bydd y dysgwyr yn dod i wybod pa adnoddau sy'n angenrheidiol ac yn dysgu pwyso a mesur unrhyw anghenion a all godi o ran iechyd a diogelwch. Bydd dysgwyr yn cofnodi camau datblygu arwyddocaol yn eu gwaith, yn adfyfyrio ar yr hyn a wnaethant ac yn gwneud addasiadau priodol mewn ymateb i adborth a ffactorau eraill.

Uned 03 - Uned Graidd: Cyflwyniad i'r diwydiant delweddau ffotograffig (A/506/0071)

Yn yr uned hon, bydd dysgwyr yn cael gwybodaeth am y gwahanol swyddi a chyfleoedd gyrfaol sydd ar gael yn y diwydiant delweddau ffotograffig, ac yn dod i'w deall. Byddant yn gallu disgrifio'r farchnad delweddau ffotograffig a chael dealltwriaeth sylfaenol o ddeddfau sy'n ymwneud â gwaith ffotograffig. Bydd hyn yn cynnwys hawlfraint, eiddo deallusol a hawliau ffotograffwyr.

Unedau dewisol

  • Tynnu Ffotograffau ar Leoliad
  • Ffotograffiaeth Fasnachol
  • Ffotograffiaeth Ddogfennol
  • Cyflwyno Portffolio o Ddelweddau Ffotograffig.

Drwy gwblhau Uned 2 bydd dysgwyr wedi arbrofi, addasu a datblygu syniadau a gefnogir gan ymchwil gyd-destunol. Yn yr uned olaf hon byddwch yn dewis maes i arbenigo arno er mwyn cynhyrchu corff cydlynol o ddelweddau terfynol.

I ennill Tystysgrif Lefel 2 NCFE mewn Ffotograffiaeth, rhaid i chi gael o leiaf 16 credyd – 3 uned.

Yn ystod eich cwrs, bydd eich Tiwtor/Asesydd yn gofyn i chi wneud gwaith naill ai yn yr ystafell ddosbarth, yn eich gweithle neu gartref, a byddwch yn cadw'r gwaith hwnnw'n dystiolaeth o'ch dysgu. Cewch gyfle i weld arddangosiadau ymarferol a gwrando ar ddarlithoedd ar wahanol agweddau ar ffotograffiaeth.

Bydd gofyn gwneud peth o'r gwaith y tu allan i'r oriau a ddynodwyd ar gyfer y cwrs.

Gofynion mynediad

Argymhellir y dylai dysgwyr fod wedi ennill cymhwyster Ffotograffiaeth Ddigidol Lefel 1 cyn dechrau ar gwrs Lefel 2, neu dylent fod â phrofiad cyfatebol ym maes ffotograffiaeth a'r defnydd o gyfrifiadur. Rhaid iddynt fod yn barod i ddangos portffolio o'u gwaith yn ystod cyfweliad.

Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Mae'r cymhwyster yn cynnwys 3 uned graidd a byddwch yn astudio 2 ohonynt AC unedau dewisol y mae'n rhain astudio o leiaf 1 ohonynt.

Yn ystod eich cwrs, bydd eich Tiwtor/Asesydd yn gofyn i chi wneud gwaith naill ai yn yr ystafell ddosbarth, yn eich gweithle neu gartref, a byddwch yn cadw'r gwaith hwnnw'n dystiolaeth o'ch dysgu. Cewch gyfle i weld arddangosiadau ymarferol a gwrando ar ddarlithoedd ar wahanol agweddau ar ffotograffiaeth.

Bydd gofyn gwneud peth o'r gwaith y tu allan i'r oriau a ddynodwyd ar gyfer y cwrs.

Asesiad

Bydd eich Tiwtor/Asesydd yn asesu'r Portffolio o waith a gynhyrchwch (eich tystiolaeth) er mwyn gwneud yn siŵr eich bod wedi ymdrin â phopeth yn ddigon manwl. Gallai eich tystiolaeth gynnwys cyfuniad o:

  • Waith ysgrifenedig neu nodiadau dosbarth
  • Cynnyrch neu samplau o waith ymarferol
  • Fformatau priodol eraill a awgrymwyd gan eich Tiwtor/Asesydd

Dilyniant

Ffotograffiaeth Lefel AS/A

Gwybodaeth campws Abergele

Mae'r cymhwyster NCFE yn cynnwys 3 uned graidd a byddwch yn astudio 2 ohonynt AC unedau dewisol y mae'n rhain astudio o leiaf 1 ohonynt.

Uned 01 - Uned Graidd: Archwilio offer, technegau, deunyddiau ac adnoddau ffotograffig

Bydd yr uned hon yn rhoi cyfle i ddysgwyr archwilio gwahanol feysydd mewn ffotograffiaeth, ac i ddysgu am y dewislenni a'r gosodiadau a geir ar gamera, a sut i'w defnyddio'n gywir, i osod gweithrediadau perthnasol ac i addasu'r rheolyddion er mwyn newid pethau fel cyflymder y caead, yr agorfa, cydbwysedd o ran golau gwyn a ffocws gwahanol lensys. Bydd y rhain yn cynnwys yr effeithiau gweledol a gaiff eu creu wrth ddefnyddio gwahanol lensys a chyflymder caead.

Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu cyfres o ffotograffau gan arbrofi gyda gwahanol dechnegau ffotograffig. Byddant yn defnyddio meddalwedd prosesu delweddau i gynhyrchu a gwerthuso cyfres o ddelweddau arbrofol. Byddant hefyd yn dysgu hanfodion arferion gweithio'n ddiogel.

Uned 02 - Uned Graidd: Datblygu ac addasu syniadau ffotograffig

Gan ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd yn Uned 1 bydd dysgwyr yn dechrau arbrofi â gwahanol ddulliau o greu corff o waith a gefnogir gan ymchwil i waith ffotograffwyr eraill ac yn cael eu hannog i wneud cysylltiadau rhwng y gwaith hwnnw a'u syniadau eu hunain. Byddant yn gallu disgrifio'r dulliau a'r iaith weledol a ddefnyddiwyd gan y ffotograffwyr o'u dewis, gan ddefnyddio'r rhain yn sylfaen i'w prosiectau ffotograffig eu hunain. Bydd y dysgwyr yn dod i wybod pa adnoddau sy'n angenrheidiol ac yn dysgu pwyso a mesur unrhyw anghenion a all godi o ran iechyd a diogelwch. Bydd dysgwyr yn cofnodi camau datblygu arwyddocaol yn eu gwaith, yn adfyfyrio ar yr hyn a wnaethant ac yn gwneud addasiadau priodol mewn ymateb i adborth a ffactorau eraill.

Uned 03 - Uned Graidd: Cyflwyniad i'r diwydiant delweddau ffotograffig (A/506/0071)

Yn yr uned hon, bydd dysgwyr yn cael gwybodaeth am y gwahanol swyddi a chyfleoedd gyrfaol sydd ar gael yn y diwydiant delweddau ffotograffig, ac yn dod i'w deall. Byddant yn gallu disgrifio'r farchnad delweddau ffotograffig a chael dealltwriaeth sylfaenol o ddeddfau sy'n ymwneud â gwaith ffotograffig. Bydd hyn yn cynnwys hawlfraint, eiddo deallusol a hawliau ffotograffwyr.

Unedau dewisol

  • Tynnu Ffotograffau ar Leoliad
  • Ffotograffiaeth Fasnachol
  • Ffotograffiaeth Ddogfennol
  • Cyflwyno Portffolio o Ddelweddau Ffotograffig.

Drwy gwblhau Uned 2 bydd dysgwyr wedi arbrofi, addasu a datblygu syniadau a gefnogir gan ymchwil gyd-destunol. Yn yr uned olaf hon byddwch yn dewis maes i arbenigo arno er mwyn cynhyrchu corff cydlynol o ddelweddau terfynol.

I ennill Tystysgrif Lefel 2 NCFE mewn Ffotograffiaeth, rhaid i chi gael o leiaf 16 credyd – 3 uned.

Yn ystod eich cwrs, bydd eich Tiwtor/Asesydd yn gofyn i chi wneud gwaith naill ai yn yr ystafell ddosbarth, yn eich gweithle neu gartref, a byddwch yn cadw'r gwaith hwnnw'n dystiolaeth o'ch dysgu. Cewch gyfle i weld arddangosiadau ymarferol a gwrando ar ddarlithoedd ar wahanol agweddau ar ffotograffiaeth.

Bydd gofyn gwneud peth o'r gwaith y tu allan i'r oriau a ddynodwyd ar gyfer y cwrs.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: 2

Dwyieithog:

n/a