Prentisiaeth - Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes Lefel 2 a 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu seiliedig ar waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    15 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes Lefel 2 a 3

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Wrth i fusnesau groesawu technoleg ddigidol newydd i drawsnewid eu gweithrediadau, mae’n hanfodol bod gan y gweithlu’r sgiliau a’r wybodaeth i’r busnes elwa ar y buddion.

Mae Prentisiaethau Digidol wedi’u cynllunio i ddatblygu’r sgiliau digidol sydd eu hangen i weithredu’n effeithiol mewn amrywiaeth o leoliadau busnes. Mae cynnwys y cymhwyster yn amrywio o dechnegau prosesu geiriau a thaenlenni i ddiogelwch digidol, rheoli prosiectau a chyfathrebu digidol effeithiol.

Ymdrinnir â llawer o rolau gan y fframwaith hwn a gallent fod o fewn:

  • Swyddogaethau gweinyddol sefydliadau'r sector preifat a chyhoeddus sy'n trin data a dogfennau.
  • Gweithwyr gofal iechyd, manwerthu, gwasanaethau ariannol, peirianneg ac amaethyddiaeth iau sydd angen rhyngweithio â systemau digidol ac awtomeiddio.
  • Gweithredwyr sy'n gweithio mewn unrhyw sector sy'n defnyddio systemau digidol data-ganolog i brosesu a storio data o unrhyw fath mewn rolau iau.

Mae’r Brentisiaeth Sgiliau Digidol Lefel 2 ar gyfer Busnes wedi’i chynllunio i arfogi gweithwyr â’r sgiliau digidol sylfaenol sydd eu hangen arnynt i allu cyflawni eu rôl.

Mae’r Brentisiaeth Sgiliau Digidol Lefel 3 ar gyfer Busnes wedi’i chynllunio i wella ac ehangu eu galluoedd sgiliau digidol seiliedig ar waith i gynnwys tasgau mwy cymhleth a gwybodaeth fanwl.

Gofynion mynediad

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol, ond mae profiad mewn TG yn ddymunol.

Rhaid bod gan brentisiaid gyflogwr neu fentor sydd â gwybodaeth berthnasol yn y maes pwnc ac sy’n gallu cynnig hyfforddiant yn y

swydd.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Seiliedig ar waith – defnyddio portffolio electronig a chyfarfodydd Teams.

Hybrid – defnyddio cyfarfodydd o bell ac arsylwadau wyneb yn wyneb.

Asesiad

Asesu trwy arsylwadau, trafodaethau, aseiniadau, holi ac ateb, cynnyrch gwaith.

Dilyniant

Diploma Lefel 3 mewn Sgiliau. Digidol ar gyfer Busnes

Diploma Lefel 3 mewn Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes/Marchnata Digidol

Diploma Lefel 3/4 mewn Gweinyddu/Rheoli Busnes.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 2+3

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :

  • Dysgu seiliedig ar waith

Dwyieithog:

Ydi.

Business and Management

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Business and Management

Myfyrwyr mewn llyfrgell