Technoleg Gwybodaeth a Thechnoleg Greadigol Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Technoleg Gwybodaeth a Thechnoleg Greadigol Lefel 2Llawn Amser (Addysg Bellach)
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cwrs TGCh sy'n datblygu eich gwybodaeth a'ch galluogi i symud ymlaen i gymhwyster lefel 3? Trwy gwblhau'r cymhwyster Lefel 2 byddwch yn ennill cymhwyster sy'n gyfwerth â 3 TGAU.
- Oes gennych chi ddiddordeb yn y dechnoleg greadigol ddiweddaraf?
- Ydych chi'n defnyddio ffôn clyfar neu dabled?
- Ydych chi eisiau creu cynhyrchion a systemau technoleg, yn hytrach na bod yn ddefnyddiwr yn unig?
- Hoffech chi greu apiau ffôn, a graffeg anhygoel?
Mae Technoleg Gwybodaeth a Thechnoleg Greadigol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio pwnc sy'n agor drysau i lawer o wahanol ddiwydiannau.
Mae'r unedau'n cynnwys:
- Datblygu Gwefannau
- Creu Animeiddiad
- Rhaglenni Symudol
- Datblygu Meddalwedd
- Creu Sain a Fideo
Bydd y cwrs yn cynnwys gweithgareddau sy'n seiliedig ar waith ymarferol, gwaith theori ac asesiadau portffolio. Drwy gydol y cwrs byddwch yn elwa o allu defnyddio cyfleusterau cyfrifiadura rhagorol y coleg i astudio yn eich amser eich hun.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- 3 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
- Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol
- Profiad perthnasol mewn diwydiant
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Gwaith grŵp
- Dysgu yn y dosbarth
- Cefnogaeth tiwtor
- Ymweliadau addysgol
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE/Google Classroom)
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Asesir y cwrs hwn drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
- Cyflwyniadau ac arddangosiadau
- Portffolios gwaith
- Perfformio ac arsylwi
- Asesiadau ar-lein
Dilyniant
Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
- Technoleg Gwybodaeth Lefel 3
- TG a Datblygu Meddalwedd Lefel 3
- Animeiddio 3D a Datblygu Gemau Lefel 3
- Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Lefel 3
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
2
Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :
- Dolgellau
Dwyieithog:
n/a