Diploma in Management
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
18 mis
Diploma in ManagementRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r Diploma Pearson Lefel 3 mewn Rheolaeth (Cymhwyster Cyfun) yn ddelfrydol ar gyfer yr unigolion hynny sydd eisoes â rhai cyfrifoldebau rheoli. Mae’r cymhwyster cyfun hwn yn seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd ac yn adeiladu a datblygu sgiliau newydd i wella eu gyrfa reoli.
Byddwch yn:
Datblygu eich portffolio o sgiliau rheoli hanfodol
Cymryd cyfrifoldeb am eich datblygiad personol a phroffesiynol
Sicrhau dealltwriaeth fanwl o'r hyn a ddisgwylir gan reolwr
Rheoli'ch tîm yn effeithiol
Gofynion mynediad
Mae’n rhaid i unigolion gael cyfrifoldebau rheoli eisoes er mwyn cwblhau’r cymhwyster.
Cyflwyniad
Bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei lunio gyda chi a'ch rheolwr a bydd asesydd yn cysylltu â chi o bell yn y gweithle. Byddwch yn adeiladu portffolio o dystiolaeth i ddangos sut y gwnaethoch gyrraedd y Safonau Cenedlaethol yn eich gwaith o ddydd i ddydd, a'ch bod yn ymwybodol o ddeddfwriaeth berthnasol.
Asesiad
Asesir yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth trwy dystiolaeth yn y gweithle gan gynnwys: - cwestiynau ac atebion, astudiaethau achos, trafodaeth broffesiynol, cyflwyniadau, tystiolaeth cynnyrch a datganiadau tyst.
Dilyniant
Lefel Rheolaeth4, Lefel 4 Rheoli Prosiect, neu Lefel 4 Gweinyddu Busnes.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Business and Management
Dwyieithog:
Ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: