Sgiliau ym maes Gweinyddu Meddygol Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Un diwrnod yr wythnos am ddwy flynedd
Sgiliau ym maes Gweinyddu Meddygol Lefel 3Rhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cymwysterau hyn i bobl sy'n awyddus i ddatblygu eu gyrfa ym maes Gweinyddu Meddygol. Byddwch yn elwa ar ddysgu amrywiaeth o sgiliau defnyddiol ar gyfer gweithio mewn swyddfa a chyflawni tasgau gweinyddol mewn amgylchedd meddygol, e.e. Gofal yn y Gymuned, Gofal Sylfaenol, Gofal Eilaidd neu Sefydliadau Meddygol Preifat.
Byddwch yn trafod yr un meysydd â'r cwrs Lefel 2, ond ar lefel uwch er mwyn meithrin eich sgiliau gweithio, arwain a goruchwylio. Ymdrinnir â'r pynciau a ganlyn: sgiliau gweinyddu busnes a chyfathrebu, deall strwythur y GIG, termau meddygol, Iechyd a Diogelwch a deddfwriaeth, sgiliau cyfrifiadura hanfodol yn gysylltiedig â phrosesu geiriau a thrawsgrifio sain ym maes meddygaeth.
Yn ystod y cwrs byddwch yn astudio amrywiaeth eang o dermau meddygol arbenigol, yn ogystal â dysgu sut i reoli eich amser a'ch llwyth gwaith, gweithio fel aelod effeithiol o dîm, rhoi systemau a gweithdrefnau gweinyddol effeithlon ar waith a meithrin y sgiliau ymarferol sy'n ofynnol i gynhyrchu dogfennau busnes a dogfennau meddygol priodol.
Byddwch yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen i gefnogi anghenion ymgynghorydd prysur a/neu dîm gofal iechyd tra hefyd yn delio â chleifion a chyflawni gwaith gweinyddwr meddygol. Byddwch yn meithrin eich sgiliau cyfathrebu ac yn dod i ddeall pwysigrwydd cyfrinachedd a gwaith tîm, gan sicrhau eich bod yn gallu bodloni anghenion eich sefydliad yn effeithiol.
Gall cymhwyster Lefel 3 mewn Gweinyddu Meddygol eich helpu i lwyddo mewn swydd weinyddol mewn sefydliad o unrhyw faint neu fath, gan gynnwys: Ysgrifennydd, Derbynnydd, Gweinyddwr, Cynorthwyydd Personol, Clerc Cofnodion Meddygol, Clerc Ward, a Goruchwyliwr Swyddfa neu Dîm.
Gofynion mynediad
- 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf, a/neu
- Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol ym maes Gweinyddu, a/neu
- Diploma Lefel 2 mewn Gweinyddu Meddygol
Cyflwyniad
Defnyddir dulliau amrywiol i gyflwyno'r cwrs, gan gynnwys cyflwyniadau, gwaith grŵp a gweithdai ymarferol.
Ffi'r cwrs £714 y flwyddyn
Asesiad
Bydd yr holl waith yn cael ei asesu drwy gyfuniad o’r dulliau canlynol: portffolio o wybodaeth; Aseiniad; Cwestiynau gydag atebion byr.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Business and Management
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: