Gwniadwaith – Canolradd

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dolgellau
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Ar nos Lun rhwng 6.30 a 8.30pm. 10 wythnos y tymor, 2 awr yr wythnos.

Gwnewch gais
×

Gwniadwaith – Canolradd

Coleg Meirion-Dwyfor, Dolgellau
Dydd Llun, 23/09/2024

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi wella eich sgiliau gwnïo a gwneud eich dillad eich hun?

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys:

  • Gwneud toile
  • Gwneud toile i'ch ffitio chi
  • Addasiadau syml i batrwm
  • Torri darnau patrwm
  • Gosod y patrwm ar y ffabrig a'i dorri
  • Gwneud sgert/top syml
  • Datblygu eich gwaith i wneud rhywbeth mwy cymhleth, e.e. ffrog/pinaffor/gillet
  • Byddwch yn dysgu technegau newydd trwy'r amser

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn ond bydd angen eich peiriant a'ch offer gwnïo eich hun arnoch.

Cewch restr o'r hyn fydd ei angen arnoch cyn i'r cwrs ddechrau.

Cyflwyniad

Cynhelir y gwersi yn y dosbarth gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau dysgu a fydd yn cynnwys dangos, rhannu ac arwain.

Asesiad

Nid oes asesu ffurfiol

Dilyniant

Byddwch yn gallu mynd ymlaen i'r lefel nesaf.

Mwy o wybodaeth

Lefel: N/A

Dwyieithog:

n/a