Prentisiaeth - Gosod Trydan Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu seiliedig ar waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    4 mlynedd

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Gosod Trydan Lefel 3

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Pwrpas y llwybrau fframwaith ydy rhoi i unigolion yr wybodaeth a'r cymwyseddau i gyflawni tasgau ym maes gosod a/neu gynnal a chadw systemau electro-dechnegol.

Bydd y swyddi canlynol yn cael eu trafod yn fframweithiau:

  • Trydanwr Gosod
  • Trydanwr Cynnal a Chadw
  • Trydanwr Gwasanaethu a Chynnal a Chadw Systemau Trydanol ar Briffyrdd
  • Trydanwr Comisiynu Systemau Trydanol ar Briffyrdd

Gofynion mynediad

  • Lleiafswm o 3 TGAU gradd A* i C mewn Saesneg neu Gymraeg, Mathemateg a chymhwyster seiliedig ar Wyddoniaeth neu Dechnoleg
  • I fodloni'r meini prawf mynediad ar gyfer y Brentisiaeth, dylai fod gennych gymhwyster ôl-16 Lefel 1 neu Lefel 2 mewn Adeiladu neu'ch bod wedi cael o leiaf flwyddyn o brofiad mewn sgiliau bywyd ar ôl gadael addysg orfodol.
  • Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr sy’n gallu bodloni meini prawf y cymhwyster prentisiaeth.

Cyflwyniad

  • Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori
  • Arholiad cymhwysedd terfynol AM2 mewn coleg allanol

Dilyniant

Wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gosod Trydan bydd gennych y sgiliau, yr wybodaeth a'r cymhwyster i fynd ymlaen i:

  • Gofrestru ar Gynllun Ardystio y Diwydiant
  • Dilyn cwrs lefel 4–5 perthnasol
  • Symud ymlaen gyda hyfforddiant pellach i swyddi fel Technegydd, Dylunydd, Amcangyfrifydd, Rheolwr Prosiect, Goruchwyliwr/Rheolwr Safle.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 3

Dwyieithog:

n/a