Sgiliau Digidol Estynedig ar gyfer TG, Rhwydweithio a Datblygu Meddalwedd (Lefel 3)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
1 blwyddyn (40 wythnos, 30 awr yr wythnos), yn cynnwys lleiafswm o 5 wythnos o brofiad gwaith (ac uchafswm o 12 wythnos)
Sgiliau Digidol Estynedig ar gyfer TG, Rhwydweithio a Datblygu Meddalwedd (Lefel 3)Llawn Amser (Addysg Bellach)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi gael gyrfa heriol ym maes TG? Hoffech chi gael y cyfle i symud ymlaen i gyflogaeth a/neu brentisiaeth?
Mae'r cwrs Rhaglen Ddysgu TG Uwch yn ymdrin ag ystod o feysydd sy'n greiddiol i TG, gyda phwyslais ar eich paratoi at ddilyniant yn y dyfodol a all gynnwys cyflogaeth, prentisiaeth neu astudio at gymhwyster addysg uwch.
Drwy gydol y cwrs byddwch yn defnyddio cyfleusterau ardderchog, gan gynnwys ystafelloedd dosbarth gyda chyfarpar gwych ac ystafelloedd amlgyfrwng, rhwydweithio a chaledwedd, yn ogystal â gweithdy TG pwrpasol ar gyfer eich amser astudio personol. Bydd cyfleoedd hefyd i ehangu'r hyn a ddysgwch drwy ymweliadau gan siaradwyr gwadd, gweithgareddau grŵp a theithiau.
Yn ogystal, byddwch yn treulio o leiaf pum wythnos mewn lleoliad gwaith - bydd hyn yn ychwanegiad gwych i'ch CV ar gyfer cyflogaeth i'r dyfodol.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af)
- Gradd Teilyngdod mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
- Profiad perthnasol mewn diwydiant
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
Addysgir y rhaglen drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Darlithoedd
- Arddangosiadau
- Gweithdai
- Gwaith grŵp
- Siaradwyr gwadd
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Asesiad:
- Aseiniadau ysgrifenedig
- Aseiniadau ymarferol
- Arsylwadau
- Profion yn y dosbarth
- Asesiadau llafar
- Prosiect
Dilyniant
Oherwydd bod y cwrs yn cynnig ystod eang o sgiliau TG, bydd gennych amrywiaeth o ddewisiadau o ran addysg a chyflogaeth, a bydd hyn yn cynnwys dilyniant i brentisiaeth.
Gallwch fynd ymlaen i raglenni Addysg Uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai, sy'n cynnwys:
- Gradd Sylfaen (FdSc) Animeiddio 3D a Datblygu Gemau
- Gradd Sylfaen (FdSc) Cyfrifiadura (Rhwydweithio)
- Gradd Sylfaen (FdSc) Cyfrifiadura (Datblygu Meddalwedd)
Byddwn yn eich cefnogi drwy roi cyngor gyrfaol perthnasol a'ch helpu i ddod o hyd i leoliadau gwaith.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
3
Dwyieithog:
n/a