SSIE Saesneg Trylwyr: Llwybr Hyfforddiant a Gwaith
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:1-3 blynedd
SSIE Saesneg Trylwyr: Llwybr Hyfforddiant a GwaithLlawn Amser (Addysg Bellach)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn yn dysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), ac yn addas i unrhyw un lle nad yw'r Saesneg na'r Gymraeg yn iaith gyntaf. Bydd y cwrs yn eich helpu i:
- Gwella eich iaith, hyder a sgiliau
- Ennill yr iaith a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer byw a gweithio yng Nghymru
- Eich paratoi i ddod o hyd i hyfforddiant a gwaith
- Cwrdd â phobl o bob cwr o'r byd ochr yn ochr â phobl leol
Bydd athrawon cyfeillgar yn eich helpu i bennu nodau a'ch cefnogi i'w cyflawni.
Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys:
- Saesneg cyffredinol
- Sgiliau Siarad a Gwrando
- Sgiliau Darllen ac Ysgrifennu
- Saesneg ar gyfer Gwaith
- Sesiynau tiwtorial personol
- ESOL a TG (dewisol)
- ESOL a Mathemateg (dewisol)
Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i breswylwyr parhaol yn y DU a'r UE sy'n cyfarfod gofynion cymhwysedd.
Gofynion mynediad
Cyflwyniad
Asesiad
Dilyniant
Gallwch symud ymlaen i:
- lefel nesaf y Saesneg
- cwrs coleg arall yn Grŵp Llandrillo Menai
- hyfforddiant gyda darparwr arall
- cyflogaeth
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Dwyieithog:
n/a