Prentisiaeth - Gwasanaethau Cyfleusterau ar gyfer Gofal Iechyd Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu seiliedig ar waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    15 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Gwasanaethau Cyfleusterau ar gyfer Gofal Iechyd Lefel 2

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae Gwasanaethau Cyfleusterau GIG Cymru yn rheoli, cynnal a gwella eiddo a swyddogaethau'r GIG o fewn y sefydliad, gan weithio mewn partneriaeth i greu amgylcheddau gwaith a gofal iechyd modern, cynaliadwy ac effeithiol. Lluniwyd y cymhwyster hwn er mwyn dysgu'r hanfodion safonol i'r holl staff sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cyfleusterau yn y GIG yng Nghymru.

Bwriadwyd y cymhwyster hwn ar gyfer gweithwyr gwasanaethau cyfleusterau sy'n rhoi cymorth mewn ysbytai, yn y gymuned ac mewn cartrefi, o dan gyfarwyddyd amryw o feysydd cyfleusterau. Mae’n cynnig cymhwyster craidd sy’n cydnabod y rolau y mae gweithwyr gwasanaethau cyfleusterau yn eu cyflawni ar hyn o bryd ym maes cyfleusterau ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Er mwyn dilyn y cymhwyster hwn, mae’n rhaid i ddysgwyr fod yn gweithio mewn rolau y mae gwasanaethau cyfleusterau yn ganolog i'w rôl. Pwrpas y cymhwyster yw darparu proses safoni ymarfer well yng Nghymru drwy sicrhau ansawdd allanol y maes gwaith hwn.

Hwn yw'r cymhwyster a ffefrir gan GIG Cymru, a'r disgwyliad yw y bydd pob gweithiwr gwasanaethau cyfleusterau yn cael cyfle i gwblhau'r cymhwyster a/neu i lwyddo i gyflawni elfennau ohono ar ddibenion datblygiad proffesiynol parhaus i ategu newidiadau mewn ymarfer dros amser.

Gofynion mynediad

Learners must be 16 years or over to undertake these qualifications.

Learners must be employed in roles where facilities services are either all or part of their work.

All places are subject to a satisfactory interview.

Cyflwyniad

Seiliedig ar waith – defnyddio portffolio electronig a chyfarfodydd Teams.

Hybrid – defnyddio cyfarfodydd o bell ac arsylwadau wyneb yn wyneb.

Asesiad

Asesu trwy arsylwadau, trafodaethau, aseiniadau, holi ac ateb, cynnyrch gwaith.

Dilyniant

Lefel 3 Diploma mewn Rheoli Gofal Iechyd.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Dwyieithog:

Ydi.

Business and Management

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Business and Management

Myfyrwyr mewn llyfrgell