Gradd Sylfaen (FdA) Iaith Arwyddion Prydain ac Astudiaethau Byddardod
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Rhan-amser: diwrnod yr wythnos. 3 blynedd. Hefyd ar gael fel modiwlau.
Gradd Sylfaen (FdA) Iaith Arwyddion Prydain ac Astudiaethau ByddardodGraddau (Addysg Uwch)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
I wneud cais am y cwrs hwn, anfonwch e-bost David Duller (Arweinydd Rhaglen): duller1d@gllm.ac.uk
Mae'r cwrs hwn yn addas i'r sawl sy'n gweithio (neu sydd eisiau gweithio) gyda phobl fyddar fel Gweithiwr Proffesiynol ym maes Gwasanaethau Iaith neu mewn swydd arall. Bydd yn meithrin eich sgiliau a'ch gwybodaeth, ac yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn amrywiaeth o swyddi proffesiynol.
Mae modiwlau yn cynnwys:
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
- Cyflwyniad i Ymchwil
- Cyflwyniad i Iechyd Meddwl
- Cyfathrebu
- Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 1
- Iaith Arwyddion Prydain - Lefel 1
- Cyflwyniad i Astudiaethau Byddardod
- Ieithyddiaeth Arwyddo ac Ieithyddiaeth Gymdeithasol Arwyddo
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
- Dulliau Ymchwilio
- Hawliau Unigolion ac Arferion Proffesiynol
- Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 2
- Iaith Arwyddion Prydain 2 Cyfarch a Chyflwyno
- Iaith Arwyddion Prydain 2 Cymryd Rhan mewn Sgwrs
- Lles a Byddardod
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.
Gofynion mynediad
Gofynion Mynediad ar gyfer Lefel 4
Gofynion ieithyddol:
- TGAU gradd C neu uwch neu gymhwyster cyfwerth mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
- Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu Iaith Arwyddion Prydain
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)
Gofynion academaidd:
- O leiaf 80 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster lefel 3, gan amlaf yn cynnwys gradd llwyddo mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; neu NVQ Lefel 3; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.
Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol - Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).
Gofynion Mynediad ar gyfer Lefel 5
Gofynion academaidd:
Bydd ymgeiswyr ar gyfer y cwrs lefel 5 yn cael eu hystyried ar sail unigol yn unol â pholisi GLlM ynghylch trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi). Neu gefnogi eu cais drwy gyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL), yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Darlithoedd
- Siaradwyr gwadd
- Sesiynau tiwtorial
- Ymchwil annibynnol
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.
Amserlen:
Rhan-amser: 3 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos
Ffioedd
Ewch i'r dudalen Cymorth Ariannol a Chyllid am fwy o wybodaeth.
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).
Costau Ychwanegol
Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:
Hwb Arwyddo £2 y mis
Dyddiad cychwyn
Medi 2021
Cyswllt:
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
David Duller (Arweinydd Rhaglen): duller1d@gllm.ac.uk
Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Traethawd
- Astudiaeth Achos
- Poster
- Arholiad
- Portffolio
- Cyflwyniad
- Chwarae Rôl
- Stori arwyddo
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
Gall y cwrs arwain at nifer o lwybrau proffesiynol ac addysgol, gan ddibynnu ar eich amcanion. Bydd rhai myfyrwyr yn symud ymlaen at Lefel 6 i gwblhau'r radd BA (Anrh).
Bydd eraill yn symud ymlaen i weithio fel Gweithwyr Gwasanaethau Iaith Proffesiynol, yn gweithio gyda phobl fyddar mewn ysgolion, colegau, prifysgolion ac yn y gymuned. Mae yna hefyd bosibilrwydd o weithio mewn gwaith cymdeithasol, awdioleg, addysgu, gwasanaethau cymorth a gyda sefydliadau byddardod.
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol, 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.
Dyma fodiwlau cwrs y Radd Sylfaen (FdA) mewn Iaith Arwyddion Prydain ac Astudiaethau Byddardod:
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (10 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl hwn yw meithrin sgiliau astudio'r dysgwyr, gan eu galluogi i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig academaidd cadarn, cyflwyno sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau ymchwilio sylfaenol. (Portffolio 100%)
IAITH ARWYDDION PRYDAIN 1: Sgiliau Derbyn Gwybodaeth, Disgrifio a Sgwrsio (20 credyd, craidd):
Nod y cymhwyster hwn yw galluogi dysgwyr i feithrin sgiliau addas a digonol er mwyn gallu defnyddio Iaith Arwyddion Prydain i drafod materion pob dydd, yn unol â'r Safonau Iaith Cenedlaethol Lefel Un, efo pobl fyddar. (Traethawd 100%)
Ieithyddiaeth Arwyddo 1: (10 credits, compulsory)
Nod y modiwl hwn sicrhau bod myfyrwyr yn deall sut i ddadansoddi strwythur Iaith Arwyddion Prydain. Bydd y myfyrwyr yn edrych ar y tebygrwydd a'r gwahaniaeth rhwng ieithoedd arwyddo a'r iaith lafar. (Traethawd 80%, Stori wedi'i llofnodi 20%)
Gweithio gyda Phobl Fyddar: (10 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl hwn yw nodi ystod o swyddi ym maes byddardod ac egluro'r dylanwadau hanesyddol sydd wedi siapio rolau a chyfrifoldebau'r swyddi hynny. (Traaethawd 70%, Cyflwyniad / Poster 30%)
Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 1 – Rhoi Theori ar Waith (20 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl hwn yw galluogi dysgwyr i wneud nifer o dasgau sy'n gysylltiedig â gwaith, ac a drefnwyd ar y cyd gan gyflogwyr/cynrychiolwyr o'r diwydiant a staff y Grŵp. (Portffolio 100%)
Pobl Fyddar yn y Gymdeithas (20 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr werthfawrogiad ehangach o'r gymuned Fyddar, eu hiaith, eu ffordd o fyw a'u hamrywiaeth, gan gynnwys cyfeiriad at fodelau anabledd, cymdeithasol ac ieithyddol anabledd a chanfyddiadau pobl leol o fyddardod. (Traethawd 80%, Cyflwyniad / Poster 20%)
Addysg a Phobl Fyddar (20 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl hwn yw archwilio esblygiad a datblygiad addysg fyddar trwy archwilio newidiadau yn y gorffennol a'r presennol yn y cyd-destun deddfwriaethol trwy gymharu methodolegau addysgu a dysgu yn y gorffennol a'r presennol. (Traethawd 80%, Cyflwyniad / Poster 20%)
Cyflwyniad i Sgiliau Cynghori (10 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl hwn yw rhoi gwybodaeth sylfaenol i ddysgwyr am y proffesiwn cwnsela i gefnogi sgiliau ar gyfer gweithio gyda phobl fyddar. (Traethawd 70%, Cyflwyniad / Poster 30%)
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Dulliau Ymchwilio a Sgiliau Astudio (20 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i ddefnyddio amrediad o sgiliau ymchwilio priodol wrth astudio maes byddardod. (Ymchwil Llenyddiaeth a Chynnig Adolygiad 40/60%)
Cyflwyniad i Ddehongli (20 credyd, gorfodol):
Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i gymhwyso a defnyddio sgiliau ieithyddol, ac adfyfyrio ar y defnydd a wneir ohonynt, mewn amrediad o gyd-destunau dehongli. (Offer Dehongli 40%, Myfyrdod 60%)
Cyflwyniad i Iechyd Meddwl a Byddardod (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw rhoi gwybodaeth sylfaenol i ddysgwyr am y proffesiwn cwnsela i gefnogi sgiliau ar gyfer gweithio gyda phobl fyddar. (Traethawd 30%, Cyflwyniad 30%, Astudiaeth Achos 40%)
Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 2 – Adfyfyrio Proffesiynol a Datblygiad Personol (20 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i ddysgwyr ddadansoddi gwerth eu dysgu mewn cyd-destunau galwedigaethol a gwaith-benodol. (Portffolio 100%)
BSL2: Sgiliau Derbyn, Cyflwyno a Sgwrsio (20 credyd, craidd)
Nod y modiwl hwn yw hyrwyddo profiadau a datblygiad dysgwyr mewn cyfathrebu trwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gyda phobl Fyddar ar bynciau bob dydd sy'n cynnwys bywyd cymdeithasol ac yn y gwaith, yr ysgol neu'r coleg. (Myfyrdod 100%)
Ieithyddiaeth Arwyddion 2 (20 credyd, gorfodol) Bydd y modiwl hwn yn gwella dealltwriaeth myfyrwyr ymhellach o ddadansoddiad ieithyddol strwythur Iaith Arwyddion Prydain ac yn gosod yr astudiaeth ieithyddol o Iaith Arwyddion Prydain yng nghyd-destun astudiaeth ieithyddol ieithoedd eraill. (Traethawd 50%, Asesiadau IBSL / Arwyddion 50%)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)
Lefel:
4+5
Sefydliad dyfarnu: Bangor University
Dwyieithog:
n/a