Gradd Sylfaen (FdA) Rheolaeth Busnes

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn amser
  • Hyd:

    Llawn-amser: 2 flynedd NEU Rhan-amser: 4 blynedd. 2 flynedd. Hefyd ar gael fel modiwlau.

    Llandrillo-yn-Rhos: Dydd Llun 9am-5pm and Dydd Mawrth 5pm-9pm
    Dolgellau: Dydd Mawrth 9:15am - 6:30pm

  • Cod UCAS:
    Rhos-on-Sea: NN21 / Dolgellau: 16PN
Gwnewch gais
×

Gradd Sylfaen (FdA) Rheolaeth Busnes

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Dolgellau
Llandrillo-yn-Rhos

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Dolgellau
Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r rhaglen hon yn addas i unrhyw un sy'n awyddus i gael swydd well yn eu sefydliad presennol, sy'n chwilio am gyfleoedd newydd o ran gyrfa, sydd am sefydlu eu busnes eu hunain neu ddim ond am feithrin sgiliau rheoli.

Ar y rhaglen, ymdrinnir ag amrywiaeth eang o bynciau sy'n hanfodol i reolwyr neu berchnogion busnes heddiw. Mae'r Radd Sylfaen hon yn gyfle cyffrous i wella'ch cyflogadwyedd drwy ennill cymhwyster cydnabyddedig mewn rheoli a busnes.

Mae modiwlau yn cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

  • Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth i Raddedigion
  • Sgiliau ymchwilio ac astudio sylfaenol
  • Iechyd a Lles yn gysylltiedig â gwaith
  • Ymddygiad Marchnata a Defnyddwyr
  • Egwyddorion Arwain a Rheoli
  • Economeg Busnes
  • Cyllid i Reolwyr

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

  • Sgiliau Arwain
  • Dulliau Ymchwilio
  • Rheoli Gweithrediadau
  • Marchnata Digidol
  • Cynllunio Busnes a Chynaliadwyedd
  • Cyfraith Cyflogaeth i Reolwyr
  • Rheoli ym maes Adnoddau Dynol

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion academaidd:

  • O leiaf 80 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster lefel 3, gan amlaf yn cynnwys gradd llwyddo mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, Diploma Estynedig BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; neu NVQ Lefel 3; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, mae nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban yn cael eu derbyn i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.

  • Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol

Gofynion ieithyddol:

  • Meistrolaeth dda ar y Gymraeg/Saesneg, gan gynnwys TGAU (neu gymhwyster cywerth) gradd C/4 neu uwch
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys a nodir uchod fod wedi'u dysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg/Saesneg
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon TOEFL 525 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 500), neu IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon TOEFL 550 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 525), neu IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5).

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Gweithdai a gwaith ymarferol
  • Tiwtorialau
  • Modiwlau yn y gweithle
  • Siaradwyr Gwadd
  • Dysgu myfyriwr ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithiol (Moodle 2).

Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.

Amserlen

  • Llawn amser: 2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos (Llandrillo-yn-Rhos)
  • Rhan-amser: 4 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 4.00 pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Costau Ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Yn ystod y rhaglen, gellir annog myfyrwyr i ddod yn aelodau o gyrff proffesiynol a allai fod â chostau ychwanegol.
  • Fel rhan o'r rhaglen, gellir cynnal ymweliadau allanol hefyd a allai fod angen cyfraniad ariannol gan y myfyriwr hyd at uchafswm o £50.

Ysgoloriaeth Cymhelliant 2022-2023 Coleg Cymraeg

Coleg Meirion-Dwyfor, Dolgellau: Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, neu am gymorth i lenwi’r cais, mae croeso i chi gysylltu â Swyddogion Cangen Grŵp Llandrillo Menai ar - colegcymraeg@glllm.ac.uk.

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Coleg Meirion-Dwyfor:

Catrin Edwards (Rhaglen Arweinydd):edward4c@gllm.ac.uk

Iola Jones (Gweinyddiaeth): jones9i@gllm.ac.uk

Coleg Llandrillo:

David Kirkby (Rhaglen Arweinydd): kirkby1d@gllm.ac.uk

Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Portffolios unigol
  • Traethodau
  • Adroddiadau (gan yr unigolyn a gan grŵp)
  • Cyflwyniadau (gan yr unigolyn a gan grŵp)
  • Asesiadau i'w gwneud mewn amser penodol (gan a heb ddefnyddio llyfrau)
  • Prosiect ymchwil grŵp
  • Astudiaethau achos unigol
  • Arholiadau unigol
  • Astudiaeth unigol sy'n seiliedig ar waith

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Gall y cwrs hwn arwain at swydd mewn amrywiaeth o sefydliadau yn ogystal ag at gyfleoedd i astudio ymhellach. Bydd llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd BA (Anrhydedd) mewn Rheoli Busnes.

Bydd eraill yn dechrau gyrfa ym maes rheoli adnoddau dynol, cyfrifydda, gwasanaethau ariannol, marchnata ac amrywiol swyddi rheoli yn y sector cyhoeddus. Ar ôl graddio, aeth rhai cyn-fyfyrwyr hefyd ymlaen i sefydlu eu cwmnïau llwyddiannus eu hunain.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

Economeg Busnes (20 credyd, gorfodol)

Yn y modiwl hwn, edrychir o safbwynt economaidd ar sut y mae cwmnïau'n gweithredu mewn marchnadoedd. Canolbwyntir ar yr angen i ystyried cyd-destun y farchnad lle mae busnesau a rheolwyr yn gwneud penderfyniadau. Bydd pwyslais ar ddeall gwybodaeth economaidd gyfredol er mwyn cymryd y camau cyntaf tuag at ddadansoddi sut mae amgylcheddau busnes economaidd yn gweithio. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar faterion yn ymwneud â rhyngweithiad sefydliadau a chyd-destunau amgylcheddol sefydliadau. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o gydrannau gwahanol yr amgylchedd busnes gan gyfeirio at bwysigrwydd dimensiynau rhyngwladol. Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar gyflwyno myfyrwyr i ficro-economeg a macro-economeg er mwyn datblygu dealltwriaeth o sut mae theorïau a modelau economaidd yn cael eu defnyddio i wneud penderfyniadau bod dydd yn ymwneud â rheoli. Bydd y modiwl yn diffinio'r dylanwadau yn amgylchedd allanol sefydliad sydd â'r potensial i greu cyfleoedd ac achosi anawsterau. (Aseiniad ysgrifenedig 50%, Arholiad 50%)

Egwyddorion Rheoli ac Ymddygiad mewn Sefydliadau (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o sut mae sefydliadau a gweithwyr yn rheoli ac addasu eu hymddygiad i gyflawni ystod o amcanion sefydliadol a phersonol. Y bwriad yw gosod dulliau ymarferol yn eu cyd-destun damcaniaethol. (Aseiniad Ysgrifenedig 40%, Cyflwyniad Grwp 20%, Adroddiad 40%).

Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 1: Cynllunio Gyrfa (20 credyd, craidd)

Mae'r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i gyflawni nifer o dasgau'n ymwneud â chyflogadwyedd er mwyn cynyddu eu cyfle o gael swydd. I wneud hyn mae myfyrwyr yn adfyfyrio ar eu dysgu a'u datblygiad eu hunain, a thrwy'r broses hon maent yn meithrin gwell dealltwriaeth o'u diddordebau, eu sgiliau a'u priodoleddau eu hunain yng nghyd-destun gyrfaoedd a phrofiadau gwaith ac adnabod beth sy'n bwysig iddynt o ran gwneud penderfyniadau gyrfaol effeithiol. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o'r hyn sydd angen iddynt ei wneud i lwyddo yn y farchnad swyddi, ac i adnabod yr adnoddau, y gefnogaeth a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i fod yn gyflogadwy. (CV a Llythyr Cais 10%, Cynllun Gweithredu 10%, Diwrnod Gwerthuso 30%, Adfyfyrio 50%)

Cyllid Busnes (20 credyd, gorfodol)

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r cysyniadau a'r egwyddorion sy'n hanfodol i gyfrifyddu a chyllid. Bydd yn canolbwyntio ar ddod i ddeall cysyniadau ac egwyddorion allweddol cyfrifyddu ariannol er mwyn gallu dehongli datganiadau ariannol. Bydd y pwyslais ar hanfodion cyfrifyddu ariannol a dechreuir trwy gyflwyno myfyrwyr i gysyniadau a thermau cyfrifyddu a chyllid. Yna symudir ymlaen at dechnegau cyfrifyddu a rheoli cyllid a bydd hyn yn cynnwys cynhyrchu datganiadau ariannol fel datganiadau incwm, mantolenni, a datganiadau a rhagolygon llif arian. Caiff y wybodaeth ei defnyddio i alluogi'r myfyrwyr i ddehongli gwybodaeth ariannol a gwella ansawdd penderfyniadau trwy ddefnyddio cymarebau ariannol. (Arholiad Llyfr Agored 50%, Adroddiad (Unigol) 50%)

Rheoli Gwybodaeth (10 credyd, gorfodol)

Yn y modiwl hwn, ceir cyflwyniad i'r amrywiol fathau o wybodaeth a geir ym myd busnes a phwysigrwydd Technoleg Gwybodaeth i arferion busnes modern. Edrychir hefyd ar bwrpas systemau gwybodaeth mewn busnesau. Bydd yn hybu dealltwriaeth a'r systemau amrywiol sy'n hanfodol er mwyn gallu gwneud defnydd llawn ac effeithiol o dechnoleg ac yn edrych ar y nifer cynyddol o ddulliau cyfathrebu sydd ar gael i gyflymu'r defnydd o wybodaeth. Yn ogystal, bydd yn dangos dulliau ystadegol effeithiol o reoli gwybodaeth a gwneud penderfyniadau mewn sefydliadau. (Ymchwiliad 50%, Cyflwyniad 50%)

Marchnata ac Arloesi (20 credyd, gorfodol)

Yn y modiwl hwn, cyflwynir y myfyrwyr i egwyddorion marchnata a phwysigrwydd cynllunio marchnata. Bydd y myfyrwyr yn edrych ar sut i ddefnyddio'r cymysgedd marchnata i sicrhau llwyddiant. Byddant yn dysgu am y damcaniaethau a'r modelau sy'n sail i farchnata ac yn eu cymhwyso i sefyllfaoedd go iawn. (Aseiniad Ysgrifenedig 40%, Adroddiad (Grŵp) 40%, Cyflwyniad 20%)

Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (10 credyd, craidd)

Bydd y modiwl hwn yn meithrin sgiliau astudio'r myfyrwyr gan eu galluogi i feddwl yn feirniadol ac i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig sy'n academaidd gadarn. Bydd yn galluogi'r myfyrwyr i feithrin sgiliau ymchwilio, ysgrifennu ac adfyfyrio. (Aseiniad Ysgrifenedig 100%)

Lefel 5 (Blwyddyn 2)

Rheoli Adnoddau Dynol (20 credyd, gorfodol):

Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddeall sut mae adnoddau dynol ac adnoddau yn cael eu rheoli a'u datblygu mewn sefydliad. Bydd yn trafod swyddogaethau a gweithrediadau allweddol Rheoli ym Maes Adnoddau Dynol yn ogystal â sut mae'n cyfrannu at gyflawni nodau sefydliadol. Bydd myfyrwyr yn edrych ar brosesau recriwtio, dewis a meithrin doniau a sgiliau mewn sefydliad, a'r cysylltiad rhwng perfformio a gwobrwyo mewn cyd-destun cyfoes. (Aseiniadau Ysgrifenedig 100%)

Dadansoddi wrth Wneud Penderfyniadau Busnes (10 credyd, gorfodol):

Nod y modiwl hwn yw meithrin sgiliau a defnyddio'r hyn a ddysgwyd yn ystod y rhaglen i gynorthwyo'r broses o wneud penderfyniadau busnes mewn astudiaethau achos. Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar y prosesau sy'n rhan o wneud penderfyniadau. Bydd hyn yn cynnwys casglu a dehongli gwybodaeth, diffinio problemau busnes a rheoli, gwerthuso datrysiadau a sut y gellir gweithredu penderfyniadau. Bydd y strategaethau a ddefnyddir yn rhan o'r ymchwil busnes a'r dulliau a ddefnyddir i ddadansoddi a dehongli data i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth yn themâu allweddol yn ystod y modiwl. Rhan allweddol o'r modiwl fydd gofyn i fyfyrwyr werthuso gwybodaeth ac awgrymu atebion i faterion busnes sy'n codi ym maes cyllid, marchnata, adnoddau dynol, cynllunio strategol a chynllunio busnes cyffredinol. Bydd myfyrwyr yn defnyddio dulliau penodol o ddefnyddio data ac ymchwil i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth. Felly, bydd y modiwl yn defnyddio cyfuniad o astudiaethau achos, gwaith darllen ac ymarferion. Ym mhob gweithgaredd, bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau ar sail tystiolaeth i faterion busnes cyfoes. (Adroddiad 100%)

Marchnata Digidol (10 credyd, gorfodol):

Mae'r modiwl yn edrych ar dechnolegau digidol a sut maent yn cael eu defnyddio gan sefydliadau i gysylltu â chwsmeriaid presennol a chwsmeriaid posibl. Mae'r cynnydd mewn technolegau digidol wedi cael effaith fawr ar y broses gyfathrebu ym maes marchnata, ac o ganlyniad mae sefydliadau wedi addasu eu dulliau marchnata. Bydd y modiwl yn trafod sut mae marchnata digidol, yn sgil newid yn yr amgylchedd macro, wedi dod yn rhan o strategaethau marchnata integredig Bydd dulliau o farchnata'n ddigidol yn cael eu hastudio yng nghyd-destun amgylchedd sy'n newid yn barhaus, yn dechnolegol, yn gyfreithiol ac yn wleidyddol ac o ran ymddygiad cwsmeriaid. Bydd pwyslais ar sut mae strategaethau marchnata digidol yn cael eu creu, a phwyslais hefyd ar greu cynllun cyfathrebu ar gyfer marchnata digidol. Yn ogystal, bydd y modiwl yn edrych ar nifer o ymgyrchoedd marchnata digidol real er mwyn dadansoddi sut mae cwmnïau'n ymgysylltu â chwsmeriaid yn oes y rhyngrwyd. (Aseiniad Ysgrifenedig 100%)

Cyfraith Cyflogi i Reolwyr (10 credyd, gorfodol)

Mae'r gallu i reoli gweithwyr o fewn terfynau'r gyfraith yn sgìl bwysig i rai sy'n paratoi i gael gyrfa ym maes rheoli. Nod y modiwl yw cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o gyfraith rheoli a'i heffaith ar sefydliad fel cyflogwr. Pwrpas y modiwl yw darparu trosolwg o faterion cyfredol sy'n ymwneud â chyfraith cyflogi o ran prosesau recriwtio a dewis mewn sefydliadau, rheoli perthynas waith a therfynu perthynas waith. (Asesiadau ysgrifenedig 100%).

Mentergarwch a Datblygu Busnesau Bach (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth o'r prosesau, y dewisiadau a'r heriau creadigol, y rhai busnes a'r rhai personol, y bydd entrepreneuriaid a rheolwyr yn eu hwynebu pan fyddant yn sefydlu menter newydd neu'n datblygu busnes sydd eisoes wedi'i sefydlu. Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar sawl agwedd o reoli menter, ac yn cyflwyno meysydd pwnc sy'n dylanwadu ar brosesau a ddefnyddir gan entrepreneuriaid neu reolwyr i wneud penderfyniadau tymor byr a thymor hir. Yn ogystal, bydd y modiwl yn edrych ar sut y caiff rheoli mentergarwch ei ddefnyddio, gan roi pwyslais penodol ar fentrau bach a chanolig. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i themâu arloesi ac entrepreneuriaeth ac yn ymwneud â'r materion ymarferol sy'n gysylltiedig â hyn yn y sector busnesau bach. Bydd meddalwedd efelychu'n cael ei ddefnyddio a fydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr redeg cwmni rhithwir ar gyfrifiadur. Yn rhan o'r efelychiad hwn, bydd gofyn i fyfyrwyr wneud amrywiaeth o benderfyniadau busnes strategol i ddadansoddi canlyniadau'r camau gweithredu a gymerwyd ganddynt. (Myfyrdod 20%, Gweithgaredd Efelychu 20%, Cynllun Busnes 60%)

Rheoli Gweithrediadau (10 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i hanfodion ac egwyddorion Rheoli Gweithrediadau. Mae'r rhain yn ganolog i waith pob rheolwr, ni waeth beth fo teitl eu swydd. Mae Rheoli Gweithrediadau'n bwnc ymarferol sy'n ymwneud â materion real mewn diwydiannau gwasanaethol a diwydiannau gweithgynhyrchu. Bydd cyfle i ddod i ddeall a gwerthfawrogi swydd y Rheolwr Gweithrediadau mewn sefydliad gwahanol yn ogystal â meithrin sgiliau gwneud penderfyniadau a'u defnyddio mewn sefyllfaoedd bob dydd. (Asesiad Amserlen Grŵp 100%)

Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 2: Sgiliau Arwain (20 credyd, gorfodol)

Mae'r modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o'r amrywiol bynciau sydd eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth fodern, ac mae'n cyfateb i unedau'r CMI (Chartered Management Institute). Mae hyn yn cynnwys cyflwyno a chyfleu data i gefnogi penderfyniadau, dulliau o reoli unigolion, perfformiad timau a sut i wella perfformiad. (Aseiniadau ysgrifenedig 100%)

Dulliau Ymchwilio (20 credyd, gorfodol)

Yn y modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i adfyfyrio a deall natur y cynnig ymchwil, amcanion yr ymchwil, y dulliau a'r trefnau a ddefnyddir i wneud yr ymchwil a sut i wneud y defnydd gorau o feddalwedd ystadegol. (Ymchwiliad 50%, Cyflwyniad 50%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Sefydliad dyfarnu: Bangor University

Dwyieithog:

Posib cwblhau 33% o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg a derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Business and Management

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Business and Management

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth

Sefydliad dyfarnu

DiscoverUni

Cwrs llawn amser