Gradd Sylfaen (FdA) mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn amser
  • Hyd:

    Llawn amser: 2 flynedd neu rhan-amser: 4 blynedd.

    Dydd Mawrth a dydd Iau, 4 - 9pm

  • Cod UCAS:
    Rhos: XL35 / Llangefni: XL36
Gwnewch gais
×

Gradd Sylfaen (FdA) mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llangefni
Llandrillo-yn-Rhos

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llangefni
Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n gweithio gyda phlant, neu'n awyddus i wneud hynny, ac am ddatblygu'ch sgiliau a'ch gwybodaeth? A allai gradd mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod fod o gymorth i roi hwb i'ch gyrfa?

Mae'r Radd Sylfaen hon yn addas i'r sawl sy'n gweithio neu sydd eisiau gweithio gyda phlant mewn amrywiaeth eang o swyddi. Mae'r rhaglen yn arbennig o addas i'r oedolion hynny sydd ar hyn o bryd yn gweithio neu'n bwriadu gweithio mewn lleoliad blynyddoedd cynnar neu gyda disgyblion Cyfnod Allweddol 1, 2 neu 3 mewn ysgolion lleol.

Mae'r radd yn adeiladu ar brofiad personol a phroffesiynol ac yn caniatáu i chi feithrin sgiliau uwch a newydd. Mae hefyd yn eich helpu i adfyfyrio a dod i adnabod yn well y sgiliau sydd gennych eisoes.

Mae'r Radd Sylfaen mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod yn dilyn llwybr asesu academaidd a galwedigaethol gyda thasgau dysgu yn y gwaith. Mae'n ofynnol i bob dysgwr naill ai weithio mewn rôl berthnasol neu gwblhau 240 awr neu brofiad gwaith mewn rôl berthnasol yn ystod y rhaglen ac erbyn diwedd lefel pump.

Mae modiwlau yn cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

  • Cyflwyniad i Sgiliau Ymchwilio ac Astudio
  • Datblygiad Plant
  • Arweinyddiaeth ar Waith
  • Chwarae, Dysgu a'r Cwricwlwm
  • Dulliau Ymddygiad Cadarnhaol
  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus
  • Diogelu Plant a Phobl Ifanc

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

  • Plentyndod Gwyrdd: Cynaliadwyedd mewn Plentyndod
  • Ymchwil a Dysgu Uwch
  • Safbwyntiau Addysgol Cyfoes
  • Proffesiynoldeb, Hunaniaeth Broffesiynol a Gweithio Amlbroffesiwn
  • Iechyd a Lles mewn Plentyndod
  • Cefnogi Plant a Phobl Ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Gweithio gyda Babanod, Plant Ifanc, Teuluoedd a Chymunedau

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Mae'r gofynion mynediad yr un fath i rai sy'n dilyn llwybrau llawn amser a rhan-amser.

Ymgeiswyr Allanol

  • Ymgeiswyr sy'n gweithio gyda phlant a/neu bobl ifanc, ac sydd wedi cael o leiaf un flynedd o brofiad.
  • O leiaf 120 awr o brofiad yn y sector, ar Lefel 4 a 5, wrth ddilyn y rhaglen Gradd Sylfaen (FdA) mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod.

Dysgwyr Lefel 3 sy'n Parhau

  • Gwneir cynigion ar sail pwyntiau, sef 64 pwynt UCAS o gymhwyster lefel 3 perthnasol
  • O leiaf 120 awr o brofiad yn y sector, ar Lefel 4 a 5, wrth ddilyn y rhaglen Gradd Sylfaen (FdA) mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod.

TGAU er mwyn hyfforddi'n athro:

Bydd gofyn i'r rhai sy'n bwriadu mynd ymlaen i fod yn athrawon ar ôl cwblhau'r Radd Sylfaen/BA (Anrh) mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod feddu ar y cymwysterau TGAU perthnasol, neu eu hennill, cyn y gallant wneud cais i ddilyn cwrs ôl-radd.

Lleoliad gwaith:

Cynlluniwyd y rhaglen hon i ymateb i agenda Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod rhaglenni Addysg Uwch yn rhoi i'r sawl sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc y sgiliau a'r priodoleddau sydd eu hangen arnynt i ddarparu 'gofal o ansawdd' a 'gweithlu medrus'.

Mae'r Radd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod yn dilyn llwybr asesu academaidd a galwedigaethol gyda thasgau dysgu yn y gwaith. Mae'n ofynnol i bob dysgwr naill ai weithio mewn rôl berthnasol neu gwblhau 360 awr neu brofiad gwaith mewn rôl berthnasol yn ystod y rhaglen ac erbyn diwedd lefel pump.

Rhaid cael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a dim troseddau a fyddai'n eu hatal rhag gweithio yn y sector.

Mae angen tystlythyr i sicrhau bod gan y dysgwr leoliad gwaith neu oriau cyflogaeth perthnasol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd
  • Tiwtorialau
  • Siaradwyr gwadd
  • Trafodaethau grŵp
  • Ymchwilio'n annibynnol
  • Dysgu myfyriwr ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.

Amserlen:

Llawn amser: 2 flynedd, 2 noson yr wythnos (fel arfer 4.00 - 9.00 pm); Rhan-amser: 4 blynedd, 1 noson yr wythnos (fel arfer 4.00 - 9.00 pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Gofyniad DBS

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Samantha Ellis (Rhaglen Arweinydd): ellis1s@gllm.ac.uk

Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Traethodau
  • Cynlluniau gweithgaredd
  • Arsylwadau
  • Portffolio sgiliau
  • Cynnig ymchwil
  • Cyflwyniadau poster
  • Cyflwyniadau llafar unigol a grŵp
  • Myfyrdodau
  • Dadansoddi astudiaethau achos

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Mae cwblhau'r cwrs hwn yn cynnig cyfleoedd i wella eich gyrfa mewn amrywiaeth o feysydd yn ymwneud â chymorth dysgu i blant. Cewch eich paratoi ar gyfer dyrchafiad, ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb yn eich swydd bresennol neu newid gyrfa.

Efallai y byddwch hefyd yn dewis symud ymlaen i Lefel 6 a chwblhau'r radd BA (Anrh) mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod.

Addysgu (cynradd uwchradd ac Addysg Bellach) - nid yw'r rhaglen hon yn arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) ond gall rhoi cyfle i raddedigion symud ymlaen at SAC trwy Dystysgrif Addysg i Raddedigion neu lwybr dyfarnu SAC arall

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mae'r Radd Sylfaen hon yn cynnig addysg i bobl sy'n gweithio ym maes astudiaethau plentyndod yn barod, mewn amrywiaeth o rolau ffurfiol ac anffurfiol. Mae'n astudio ystod cynhwysfawr o fodiwlau, gan gynnwys meysydd pynciau craidd a meysydd galwedigaethol arbenigol.

Mae'r cwrs wedi'i ddyfeisio i'ch helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa drwy roi hyfforddiant ichi sy'n bwysig i gyflogwyr. Yn anad dim, mae'n rhoi cyfuniad o sgiliau ymarferol a dealltwriaeth academaidd ichi. Mae hyn yn gwella'ch arbenigedd drwy eich helpu i bwyso a mesur eich gwaith proffesiynol yn feirniadol.

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn datblygu'r sgiliau galwedigaethol sydd eu hangen ar gyflogwyr mewn meysydd Blynyddoedd Cynnar a Chymorth Dysgu, neu lle bynnag y mae dimensiwn plentyndod a chymorth dysgu ar swydd. Byddwch yn adeiladu ar eich sgiliau presennol ac yn ennill cymhwyster cydnabyddedig i gadarnhau eich gallu.

Gwybodaeth Uned

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

Datblygiad Plant (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl yw nodi a disgrifio normau datblygiad plentyn nodweddiadol a chysylltu'r rhain, trwy arsylwi, ag ystyriaeth o anghenion datblygiadol unigol. Bydd yn nodi ac yn diffinio ystod eang o ddamcaniaethau ynghylch datblygiad plant ac yn esbonio sut y cânt eu defnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau gofal plant a chymorth dysgu. Yn ogystal, bydd yn nodi ac yn diffinio rôl yr oedolyn wrth gefnogi datblygiad plant. (Arsylwi 100%)

Arferion Cynhwysol ac Arferion sy'n Canolbwyntio ar y Plentyn (10 credyd, gorfodol)

Mae'r modiwl yn dysgu myfyrwyr am hanfodion yr egwyddorion sy'n sail i ddulliau cynhwysol sy'n canolbwyntio ar y plentyn, gan astudio sut y gall ymarferwyr unigol a sefydliadau ddefnyddio dulliau o'r fath. (Traethawd 100%)

Chwarae a Dysgu (20 credyd, gorfodol)

Mae'r modiwl yn cynnig sylfaen i fyfyrwyr o ran nodi anghenion chwarae a dewisiadau plant a phobl ifanc, rôl oedolion wrth gynllunio a chefnogi i ddiwallu anghenion chwarae plant a phobl ifanc a dealltwriaeth o bwysigrwydd darparu cwricwlwm sy'n seiliedig ar chwarae. (Cyflwyniad unigol 60%, Cynllun Gweithgaredd 40%)

Diogelu Plant (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r arferion cyfreithiol, moesegol a phroffesiynol sy'n llywodraethu diogelu plant a phobl ifanc. Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o ddamcaniaethau allweddol a themâu cyfredol o fewn yr agenda ddiogelu gyfredol. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn meithrin gwybodaeth am egwyddorion ac arferion diogelu plant a phobl ifanc, gan gyfeirio'n benodol at sut a pham y mae'r arfer o adrodd a chofnodi cam-drin plant yn hollbwysig o mewn lleoliadau plant a dysgu. (Traethawd 60%, Cyflwyniad grŵp 40%)

Y Plentyn mewn Cymdeithas (20 credyd, gorfodol)

Rhoi cyflwyniad sylfaenol i gymdeithaseg a datblygu dealltwriaeth a gwybodaeth myfyrwyr o gymdeithaseg plentyndod. Anogir myfyrwyr i ddefnyddio nifer o ddamcaniaethau cymdeithasegol, sydd wedi ennill eu plwyf, i ddeall ac i archwilio'n feirniadol faterion sy'n ymwneud â 'phlentyndod' a'r 'plentyn' ac i edrych ar ffyrdd y cafodd plant a phlentyndod eu hystyried yn ystod blynyddoedd a fu. I gloi, caiff myfyrwyr gyfle i astudio'r effaith a gaiff newidiadau cymdeithasol diweddar ar blant a phlentyndod. (Traethawd 50%, Cyflwyniad Unigol 50%)

Datblygiad Personol a Phroffesiynol (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw galluogi dysgwyr i gyflawni nifer o dasgau sy'n seiliedig ar wybodaeth a chyflogaeth sy'n ofynnol i fodloni'r safonau a ddisgrifir yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel Uwch. Fe'ch cyflwynir i ofynion y cymhwyster Statws Ymarferydd Plentyndod Cynnar. Byddwch yn cael cyfleoedd niferus i ddatblygu sgiliau ymarferol mewn perthynas â chreu amgylcheddau cynhwysol sy'n meithrin plant ac yn darparu gofal ac addysg o ansawdd uchel. Byddwch hefyd yn cael eich annog i adfyfyrio ar eich datblygiad eich hun yn eich gwaith. (Portffolio Unigol 100%)

Sgiliau Academaidd i Ymarferwyr (10 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw meithrin sgiliau astudio'r dysgwyr, gan eu galluogi i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig academaidd cadarn, cyflwyno sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau ymchwilio sylfaenol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau ysgrifennu academaidd, i ddefnyddio confensiynau academaidd, i chwilio am wybodaeth, i adfyfyrio ac i reoli a rhoi trefn ar eu gwaith. (Portffolio 100%)

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

Dysgu a Datblygu (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr y gallu i ddadansoddi a dehongli ystod eang o ddamcaniaethau ynghylch dysgu. Bydd yn ystyried beth mae addysg gynnar effeithiol yn ei olygu ac yn astudio effaith y damcaniaethau ar arferion. Bydd y myfyrwyr hefyd yn gwerthuso damcaniaethau ymddygiadol ac yn asesu'r modd y maent yn cael eu defnyddio i feithrin ymddygiadau cadarnhaol yn ystod plentyndod cynnar neu mewn lleoliad addysgol. (Traethawd 60%, Astudiaeth Achos 40%)

Cefnogi Plant a Phobl Ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (10 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r term Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn ogystal â chipolwg ar y gwahanol fathau o ADY a all olygu bod ar blant a phobl ifanc angen cefnogaeth. Bydd y modiwl hwn hefyd yn ystyried pwysigrwydd cydnabod sut y gall plant a phobl ifanc fod yn teimlo, a bydd hyn yn cynnwys cyfeiriadau at iechyd a lles, gwydnwch emosiynol a'r damcaniaethau a'r fframweithiau a ddefnyddir i gefnogi ADY. Yn ogystal, bydd y modiwl hwn yn rhoi cipolwg ar ffactorau allanol a phersonol a all effeithio ymhellach ar y plentyn neu'r person ifanc sydd ag ADY. (Traethawd 50%, Cyflwyniad Unigol 50%)

Cefnogi Dysgu ac Addysgu (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw datblygu ymwybyddiaeth myfyrwyr o bolisïau a strategaethau addysgol cyfredol, gan gydnabod safbwyntiau addysgol cystadleuol ac asesu'r cyswllt â blaenoriaethau addysgol cyfredol. Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r cysyniadau a'r egwyddorion sy'n sail i addysgu llythrennedd a rhifedd ar draws yr ystod oedran. (Traethawd 50%, Cyflwyniad Grŵp 50%)

Arwain ar Waith (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw rhoi trosolwg i fyfyrwyr o athroniaethau a damcaniaethau ynghylch arwain y gallant eu defnyddio i gyfiawnhau effeithiolrwydd arwain a rheoli mewn lleoliadau plentyndod a chymorth dysgu, a'r effaith y mae arwain yn ei gael ar ansawdd y canlyniadau i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. (Dyddiadur Myfyriol 100%)

Cyfathrebu a Gweithio ar y Cyd (10 credyd, gorfodol)

Bydd y modiwl hwn yn edrych ar wahanol fodelau o weithio mewn partneriaeth ac yn nodi'r gwerthoedd sy'n sail i arferion da cydnabyddedig, yn cynnwys hyrwyddo a chynnal partneriaethau a chael gwared ar rwystrau sy'n atal unigolion rhieni rhag cymryd rhan. Mae hyn yn cynnwys deall y materion sy'n ymwneud ag anableddau dysgu ac iechyd meddwl y gellir dod ar eu traws wrth weithio gyda phartneriaethau teuluol a phroffesiynol. (Traethawd 70%, Cyflwyniad Poster 30%)

Datblygiad Personol a Phroffesiynol (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw galluogi dysgwyr i gyflawni nifer o dasgau sy'n seiliedig ar wybodaeth a chyflogaeth angenrheidiol i fodloni'r safonau sy'n cael ei ddisgrifio yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel Uwch. Yn ystod y modiwl hwn, byddwch yn datblygu ymhellach y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni Statws Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar, gan ganolbwyntio ar weithio gyda theuluoedd. Byddwch yn cael cyfleoedd niferus i ddatblygu eich dealltwriaeth o ystod o fframweithiau a ddefnyddir mewn lleoliadau, gan ddatblygu sgiliau o ran creu amgylcheddau cefnogol ar gyfer darparu cyfleoedd chwarae, gofal, dysgu ac addysgu. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn prosesau asesu a chynllunio. (Portffolio Unigol 100%)

Sgiliau Ymchwilio (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i gymhwyso amrywiaeth o sgiliau ymchwil sy'n berthnasol i astudiaethau plentyndod a chefnogi dysgu. Bydd gofyn i'r myfyrwyr gael sgiliau o'r radd flaenaf o ran ysgrifennu academaidd a chwilio am wybodaeth a gallu rhoi amrediad o ddulliau ymchwilio dilys ar waith. Bydd y myfyrwyr hefyd yn meithrin dealltwriaeth o foeseg ac yn dysgu sut i ystyried pwysigrwydd moeseg wrth ymchwilio. Bydd y modiwl yn canolbwyntio hefyd ar lunio dadleuon pendant drwy ddefnyddio dulliau ymchwilio, dadansoddi a gwerthuso dilys. (Cynnig Ymchwil 100%)

Cyfleoedd o ran gyrfa:

  • Gofalwr Plant
  • Gweithiwr Meithrinfa
  • Arwain a Rheoli
  • Addysgu
  • Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd
  • Mentor Dysgu
  • Athro Ysgol Gynradd
  • Athro Ysgol Uwchradd
  • Athro Anghenion Addysgol Arbennig
  • Gweithiwr Cymdeithasol
  • Cynorthwyydd Addysgu
  • Gweithiwr Ieuenctid
  • Seicotherapydd Plant
  • Nyrs Plant
  • Gweithiwr Datblygu Cymunedol
  • Cwnselydd
  • Seicolegydd Addysgol
  • Therapydd Iaith a Lleferydd

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • Children’s Development & Education

Sefydliad dyfarnu: Bangor University

Dwyieithog:

n/a

Children’s Development & Education

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Children’s Development & Education

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth

Sefydliad dyfarnu

DiscoverUni

Cwrs llawn amser


Cwrs rhan amser


Cwrs llawn amser


Cwrs rhan amser


Cwrs llawn amser


Cwrs rhan amser


Cwrs llawn amser


Cwrs rhan amser